Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ffisiolegydd Cardiaidd
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
130-HS036-1026
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Treforys
Tref
Abertawe
Cyflog
£40,559 - £48,841 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/10/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe logo

Ffisiolegydd Clinigol Arbenigol - Cardiaidd

Gradd 6

Croeso i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd: gofalu am ein gilydd, cydweithio a gwella drwy’r amser.


Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon ar ôl 24 os na dderbynnir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym felly’n hybu ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth ar y swydd hon.

Bydd staff sy’n bresennol yn aros am adleoliad yn cael eu hystyried yn gyntaf ac felly rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.


Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn y Saesneg.


 

Trosolwg o'r swydd

Atodiad 21 - Rhaglen hyfforddi 18 mis ar gyfer swydd Band 6

Cynigir y swydd hon fel swydd Annex 21 ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar y cymwysterau llawn, a byddant yn cael eu hystyried ar gyfer swydd hyfforddai ac yn ddarostyngedig i Annex 21 GIG Cymru fel y nodir yn Nhelerau ac Amodau Cyflogaeth GIG Cymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â rhaglen hyfforddi strwythuredig ac yn derbyn 70% o gyflog y band sylweddol ym mlwyddyn 1 a 75% ym mlwyddyn 2 hyd nes y cyflawnir yr holl gymwyseddau a chymwysterau gofynnol ar gyfer y swydd.

Rydym yn chwilio am Ffisiolegydd Cardiaidd/Gwyddonydd Gofal Iechyd brwdfrydig i ymuno â’n tîm sy’n gweithio ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, i ymgymryd â rhaglen hyfforddi/fframwaith cymhwysedd 18 mis o dan Atodiad 21 ar Fand 6.

Yn ystod y cyfnod hyfforddi hwn byddwch yn ennill y cymwysterau corff proffesiynol perthnasol, yr hyfforddiant a’r profiad i fodloni fframwaith cymhwysedd llawn y Band 6 hwn, ac yn gallu cyflawni pob dyletswydd o fewn rôl Ffisiolegydd Cardiaidd Arbenigol fel y nodir yn y disgrifiad swydd hwn.

Byddem yn croesawu ceisiadau gan naill ai Ffisiolegwyr Cardiaidd/Gwyddonwyr Cardiaidd cymwys neu fyfyrwyr Ffisioleg Gardiaidd cyfredol.

Mae Ysbyty Treforys yn ysbyty trydyddol sy’n cynnig ystod eang o ymchwiliadau ymledol ac anfewnwthiol.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r adran yn cynnig ystod eang o ymchwiliadau mewnwthiol ac anfewnwthiol. Mae ymchwiliadau'n cynnwys profion ymarfer corff dan arweiniad ffisiolegydd, monitro a recordio digwyddiadau 24 awr ECG a BP. Rydym yn darparu gwasanaeth PCI cynradd 24 awr ochr yn ochr â PCI cymhleth a thechnegau ymyriadol, gwasanaeth TAVI.

Rydym yn gweithredu gwasanaeth mewnblannu a dilyn rheolydd calon a TGCh prysur i gynnwys defnyddio monitro o bell, gweithdrefnau ablaation a mapio cymhleth EPS +. Rydym hefyd yn cynnal clinigau a arweinir gan Ffisioleg. Mae'r adran yn Ysbyty addysgu ac yn cymryd rhan weithredol mewn ymchwil. Rydym hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o dreialon ymchwil clinigol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygu. Rydym yn cefnogi ac yn annog datblygiad proffesiynol parhaus i hwyluso unigolion i gyrraedd eu potensial llawn.

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod a BSc Ffisioleg Glinigol/Gwyddor Gofal Iechyd (gwyddoniaeth gardiaidd), dal cofrestriad gyda AHCS neu HCPC.

Rydym yn edrych am unigolion cymell i ymuno â’n tim sydd â profiad a cronfa wybodaeth eang yno archwiliadau cardioleg. Dylent ddangos dealltwriaeth dda o faterion sy'n berthnasol i cardioleg a bod yn frwdfrydig i addysgu a dysgu sgiliau clinigol proffesiynol newydd. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygu.

Rydym yn cefnogi ac yn annog datblygu proffesiynol parhaus i hwyluso unigolion i gyrraedd eu llawn botensial.

Gweithio i'n sefydliad

Credwn mai staff yw ein hased gorau ac rydym am ichi fod yn hapus ac yn hyderus ynglŷn â dechrau eich gyrfa yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Fel un o'r grwpiau gofal iechyd mwyaf yn y DU, gallwn gynnig cyfoeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol mewn sefydliad arloesol, blaengar.

Efallai eich bod yn nyrs neu'n feddyg, efallai eich bod yn arbenigo mewn gwyddor iechyd / therapi neu'n gallu cynnig sgiliau yn un o'n gwasanaethau cymorth - mae gennym swydd i chi.

Mae yna hefyd brentisiaethau, lleoliadau gwaith a rolau gwirfoddoli ar gael.

Rydym yn gyflogwr cynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan bawb beth bynnag fo'u rhyw; crefydd neu gred; ras; oed; cyfeiriadedd rhywiol; hunaniaeth rhyw neu, p'un a ydynt yn feichiog neu wedi bod ar gyfnod mamolaeth yn ddiweddar, yn briod neu mewn partneriaeth sifil; neu, os ydyn nhw'n anabl.

Mae ein gwerthoedd – Gofalu am ein gilydd, Cydweithio a Yn gwella bob amser, yn dangos bod ein hymrwymiad i gydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn.

Os ydych chi eisiau cyfleoedd gyrfa a hyfforddiant rhagorol wrth fyw ar stepen drws rhai o olygfeydd mwyaf ysblennydd Ewrop, gyda holl fanteision dinas sy'n ffynnu a chosmopolitaidd - edrychwch ymhellach.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad llawn a Manyleb y person ynghlwm o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch 'Gwneud Cais' i'w weld ar Trac.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwr Cymraeg a/neu Saesneg i geisio am y swydd.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • BSc (Anrh.) Ffisioleg Glinigol neu gyfwerth
  • ILS
  • Wedi cofrestru â RCCP/AHCS/HCPC
Meini prawf dymunol
  • ALS

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Ecocardiograffeg
  • rofiad, gwybodaeth wyddonol a meddygol drwy hyfforddiant ac ymarfer ffurfiol mewn ystod gynhwysfawr o ymchwiliadau a gweithdrefnau cardioresbiradol mewnwthiol ac anfewnwthiol cymhleth ac arbenigol.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o archwilio

Sgilliau

Meini prawf hanfodol
  • Gallu goruchwylio a rheoli hyfforddeion a blaenoriaethu
  • Sgiliau bysellfwrdd da
  • Gallu dangos sefyllfaoedd lle mae sgiliau arwain a rheoli effeithiol wedi cael eu defnyddio
Meini prawf dymunol
  • Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoStonewall Health ChampionsStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionDisability confident employerEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Claire Warren
Teitl y swydd
Head of Clinical Physiology
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01792704100
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg