Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Biomedical Scientist
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Shift Pattern)
- Cyfeirnod y swydd
- 001-HS032-0726
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- University Hospital of Wales
- Tref
- Cardiff
- Cyflog
- £32,557 - £39,631 per annum
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/08/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Biomedical Scientist
Gradd 5
PWY YDYM NI:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw un o’r Byrddau Iechyd Integredig mwyaf yn y DU, sy’n cyflogi dros 16,000 o staff ac yn darparu dros 100 o wasanaethau arbenigol. Gan wasanaethu poblogaeth o oddeutu 500,000 o bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, rydym yn canolbwyntio ar anghenion iechyd a gofal ein poblogaeth leol, gan weithio gyda’n partneriaid hefyd i ddatblygu gwasanaethau rhanbarthol. Ar y cyd, rydym yn ymrwymedig i wella canlyniadau iechyd i bawb a darparu gofal a chefnogaeth ragorol.
Ein cenhadaeth yw “Byw’n Dda, Gofalu’n Dda, Gweithio Gyda’n Gilydd”. Yn ddiweddar, rydym wedi adnewyddu ein strategaeth, Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol, sy’n nodi Gweledigaeth y Bwrdd Iechyd ar gyfer gwella iechyd a lles y poblogaethau rydym yn eu gwasanaethu erbyn 2035 trwy gyflawni ein hamcanion strategol; Rhoi Pobl yn Gyntaf, Darparu Ansawdd Rhagorol, Cyflawni yn y Mannau Cywir a Gweithredu ar gyfer y Dyfodol. Mae gennym gyfnod heriol o’n blaenau, ond rydym yn hyderus, drwy fynd i’r afael â’r heriau hyn gyda’n gilydd, y gallwn gefnogi pobl i fyw bywydau iachach a lleihau’r gwahaniaethau annheg yn nifer yr achosion o salwch a’r canlyniadau iechyd a welwn yn ein cymunedau heddiw. Ein nod yw darparu gofal a thriniaeth ragorol i bobl pan fydd eu hangen arnynt, lle mae eu hangen arnynt; gofal sy’n cymharu’n dda â’r gorau yn y byd, ond i wneud hynny mae angen i ni drawsnewid sut yr ydym yn darparu gwasanaethau dros y degawd nesaf a thu hwnt.
Rydym yn sefydliad sy’n cael ei yrru gan werthoedd, a dim ond os yw ein gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn y caiff ein nodau eu gwireddu. Wedi’u creu gan gydweithwyr, cleifion a’u teuluoedd, a gofalwyr, mae ein gwerthoedd fel a ganlyn:
· Rydym yn garedig ac yn ofalgar
· Rydym yn barchus
· Mae gennym ymddiriedaeth ac uniondeb
· Rydym yn cymryd cyfrifoldeb personol
EIN RHANBARTH:
Mae gan Gymru lawer i’w gynnig gyda milltiroedd o arfordir trawiadol, safleoedd treftadaeth y byd UNESCO a chefn gwlad hardd. Mae gan Gaerdydd, prifddinas ffyniannus Cymru, rywbeth at ddant pawb. Mae’n ddinas wych i fyw a gweithio ynddi sy’n cynnig llwyth o atyniadau chwaraeon, celfyddydau a diwylliannol. Wedi’i leoli i’r gorllewin o Gaerdydd, mae Bro Morgannwg yn cynnig cyfuniad o gefn gwlad hardd Cymru ac arfordir naturiol dramatig, yn ogystal â threfi prydferth yn cynnwys Penarth a’r Bont-faen. Mae’n bosibl y bydd y rhai hynny sy’n chwilio am fwy o ddiwylliant yn cael eu denu at yr Amgueddfa Genedlaethol, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru neu Ganolfan y Mileniwm, cartref Opera Cenedlaethol Cymru. P’un ai’n fywyd dinesig neu’n fywyd gwledig, mae Caerdydd a’r Fro yn cynnig y gorau o’r ddau fyd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Gwyddonydd Biofeddygol (Band 5) Haematoleg/Trallwysiad Gwaed
Mae cyfle wedi codi i Gwyddonydd Biofeddygol Band 5 i ymuno ȃ’r tȋm deinamig sy’n esblygy o fewn adran Haematoleg Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro
Mae’s adran yn chwilio am Gwyddonydd Biofeddygol (Cofrestry gyda’r HCPC) gan IBMS Tystysgrif Cymhwysedd (neu gyfwerth cyn TC)
Mae’r adran haematoleg yn un o’r rhai mwyaf yn y DU su’n cynnig amrywiaeth eang o ddadansoddiadau gan defnyddio prosesau offer modern, prosesu dros 3000 o samplau y dydd. Mae’r labordy wedi’I achredu gan UKAS ISO15189:2012 ac mae’n labordy hyfforddi cymeradwy (gan y HCPC). Mae cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gael ac angoir yr holl staff i gymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus. Mae’r adran yn ganolfan atgyfeirio drydyddol ac mae ganddi adrannau arbenigol o Haemostatis & Throbosis, Haemoglobinopathïau ac Imiwnoffenoteipio.
Mae profiad blaenorol yn y GIG yn hanfodol.
Byddai's adran yn ystyried swydd hyfforddai – Annex 21 band 5 (75%)
Ar gyfer ceisiadau gan unigolion sydd angen nawdd Visa’r DU, gwiriwch reoliadau Fisa cyfredol Llywodraeth y DU cyn gwneud cais – yn benodol ynghylch y gofyniad cyflog ar gyfer rolau Gwyddonwyr Biofeddygol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Er mwyn darparu’r priofiad mwyaf cynhwysfawr, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rhan yn y cylchdro mewn labordy ar gyfer yr adrannau craidd (Haematoleg Awtomataidd a Geulo) yn ogystal ȃ’r maes arbenigol o Drallwyso Gwaed; Bydd disgwyl i chi weithio naill ai yn Ysbyty Athrofaol Cymru neu Ysbyty Athrofaol Llandochau ac ymgymryd ȃ’r oriau a gontractiwyd dros o saith niwrnod gan gymryd rhan mewn gewithio sifftiau yn dilyn cyfnod addas o hyfforddiant o fewn yr adran.
Bydd cyfleodd pellach yn cael eu darparu i gylchdroi i labrdai arbenigol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw un o’r Byrddau Iechyd Integredig mwyaf yn y DU, yn cyflogi dros 17,000 o staff ac yn darparu dros 100 o wasanaethau arbenigol. Mae gennym amrywiaeth o yrfaoedd i’w cynnig ar draws 6 safle ysbyty. Gan wasanaethu dros 500,000 o bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro, ein ffocws yw anghenion iechyd a gofal ein poblogaeth leol a gwaith partneriaeth i ddatblygu gwasanaethau rhanbarthol. Ar y cyd, rydym yn ymrwymedig i wella canlyniadau iechyd i bawb a darparu gofal a chefnogaeth ragorol.
Ein cenhadaeth yw “Byw’n Dda, Gofalu’n Dda, Gweithio Gyda’n Gilydd”, a’n gweledigaeth yw y dylai siawns pob unigolyn o fyw bywyd iach fod yn gyfartal. Ein strategaeth trawsnewid a gwella 10 mlynedd, Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol, yw ein cyfle i gydweithio â’r cyhoedd a’n gweithlu i sicrhau bod ein bwrdd iechyd yn fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud Cais Nawr (Apply Now)” i’w weld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- HCPC Registration, IBMS Certificate of competence, Biomedical Sciences or other IBMS approved Degree
Meini prawf dymunol
- IBMS Specialist Diploma in Haematology and Hospital Transfusion practice
Experience
Meini prawf hanfodol
- Sufficient experience as a registered BMSworking in NHS Haematology laboratory
Meini prawf dymunol
- Previous experience in a Haematology laboratory . Experience of shift work
Skills
Meini prawf hanfodol
- Manual dexterity, computer/keyboard skills, able to communicate effectively
Meini prawf dymunol
- organisational skills, working knowledge of microsoft office, previous experience of LIMS system
Special Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Knowledge of GLP and GMP
Meini prawf dymunol
- health and saftey awareness, knowledge of LPs
Personal Qualities
Meini prawf hanfodol
- Ability to work as a team memnber, Euthusiatic /movtivated
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sue Lawless
- Teitl y swydd
- Haematology and blood transfusion Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 02921844202
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector










