Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Laboratory Medicine
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (37.5 oriau yr wythnos)
Cyfeirnod y swydd
001-AC265-0726
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Athroafol Cymru
Tref
Caerdydd
Cyflog
£28,819 - £31,626 per annum
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
09/08/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro logo

Swyddog Cymorth Ansawdd Haematoleg

Gradd 4

PWY YDYM NI:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw un o’r Byrddau Iechyd Integredig mwyaf yn y DU, sy’n cyflogi dros 16,000 o staff ac yn darparu dros 100 o wasanaethau arbenigol. Gan wasanaethu poblogaeth o oddeutu 500,000 o bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, rydym yn canolbwyntio ar anghenion iechyd a gofal ein poblogaeth leol, gan weithio gyda’n partneriaid hefyd i ddatblygu gwasanaethau rhanbarthol. Ar y cyd, rydym yn ymrwymedig i wella canlyniadau iechyd i bawb a darparu gofal a chefnogaeth ragorol.

Ein cenhadaeth yw “Byw’n Dda, Gofalu’n Dda, Gweithio Gyda’n Gilydd”. Yn ddiweddar, rydym wedi adnewyddu ein strategaeth, Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol, sy’n nodi Gweledigaeth y Bwrdd Iechyd ar gyfer gwella iechyd a lles y poblogaethau rydym yn eu gwasanaethu erbyn 2035 trwy gyflawni ein hamcanion strategol; Rhoi Pobl yn Gyntaf, Darparu Ansawdd Rhagorol, Cyflawni yn y Mannau Cywir a Gweithredu ar gyfer y Dyfodol. Mae gennym gyfnod heriol o’n blaenau, ond rydym yn hyderus, drwy fynd i’r afael â’r heriau hyn gyda’n gilydd, y gallwn gefnogi pobl i fyw bywydau iachach a lleihau’r gwahaniaethau annheg yn nifer yr achosion o salwch a’r canlyniadau iechyd a welwn yn ein cymunedau heddiw. Ein nod yw darparu gofal a thriniaeth ragorol i bobl pan fydd eu hangen arnynt, lle mae eu hangen arnynt; gofal sy’n cymharu’n dda â’r gorau yn y byd, ond i wneud hynny mae angen i ni drawsnewid sut yr ydym yn darparu gwasanaethau dros y degawd nesaf a thu hwnt.

Rydym yn sefydliad sy’n cael ei yrru gan werthoedd, a dim ond os yw ein gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn y caiff ein nodau eu gwireddu. Wedi’u creu gan gydweithwyr, cleifion a’u teuluoedd, a gofalwyr, mae ein gwerthoedd fel a ganlyn:

·         Rydym yn garedig ac yn ofalgar

·         Rydym yn barchus

·         Mae gennym ymddiriedaeth ac uniondeb

·         Rydym yn cymryd cyfrifoldeb personol

EIN RHANBARTH:

Mae gan Gymru lawer i’w gynnig gyda milltiroedd o arfordir trawiadol, safleoedd treftadaeth y byd UNESCO a chefn gwlad hardd. Mae gan Gaerdydd, prifddinas ffyniannus Cymru, rywbeth at ddant pawb. Mae’n ddinas wych i fyw a gweithio ynddi sy’n cynnig llwyth o atyniadau chwaraeon, celfyddydau a diwylliannol. Wedi’i leoli i’r gorllewin o Gaerdydd, mae Bro Morgannwg yn cynnig cyfuniad o gefn gwlad hardd Cymru ac arfordir naturiol dramatig, yn ogystal â threfi prydferth yn cynnwys Penarth a’r Bont-faen. Mae’n bosibl y bydd y rhai hynny sy’n chwilio am fwy o ddiwylliant yn cael eu denu at yr Amgueddfa Genedlaethol, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru neu Ganolfan y Mileniwm, cartref Opera Cenedlaethol Cymru. P’un ai’n fywyd dinesig neu’n fywyd gwledig, mae Caerdydd a’r Fro yn cynnig y gorau o’r ddau fyd.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae’r labordy haematoleg yn ceisio penodi unigolyn llawn cymhelliant i swydd Swyddog Cymorth Ansawdd.

Rhaid bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus safon rogorol o addysg gyffredinol ynghyd ȃ sgiliau a phrofiad gweinyddol ac ysgrifenyddol blaenorol. Mae dealltwriaeth dda o ddadansoddiad ystadegol yn hanfodol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn ddelfrydol, ar gyfer y swydd hyn, dylech fod ȃ gwybodaeth sylfaenol o weithio o fewn y GIG ac amgylchedd rheoleiddio/achrededig a dylai feddu sgiliau MS Office, er y byddai hyfforddiant yn cael ei roi. Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus for yn addesadwy i newid ac yn drefnus iawn.

Mae’r rôl yn cynnwys cefnogi’r tîm Rheoli Ansawdd presennol yn y Labordai Haematoleg a Thrallwyso Gwaed i sicrhau bod achrediad UKAS (ISO 15189:2022) a rheoliadau’r MHRA yn cael eu cynnal a’u cadw. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo gydag archwiliadau, adroddiad/rheoli digwyddiadau ymhlith dyletswyddau eraill.

Byddai profiad blaenorol o labordy’r GIG o fantais ar gyfer llunio rhestr fer.

Fe’ch anogir yn weithredol I ymweld ȃ’r tȋm – gweler y manylion cyswllt i drefnu apwyntiad.

Mae’r gallu I siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes I siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw un o’r Byrddau Iechyd Integredig mwyaf yn y DU, yn cyflogi dros 15,000 o staff ac yn darparu dros 100 o wasanaethau arbenigol. Mae gennym amrywiaeth o yrfaoedd i’w cynnig ar draws 6 safle ysbyty. Gan wasanaethu tua 500,000 o bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro, ein ffocws yw anghenion iechyd a gofal ein poblogaeth leol a gwaith partneriaeth i ddatblygu gwasanaethau rhanbarthol.

Ein cenhadaeth yw “Gofalu am Bobl, Cadw Pobl yn Iach”, a’n gweledigaeth yw y dylai siawns pob unigolyn o fyw bywyd iach fod yn gyfartal. Fel sefydliad rydym yn ddiedifar uchelgeisiol dros iechyd ein poblogaeth, gan ymateb i heriau heddiw ac yfory drwy ein strategaeth 10 mlynedd, Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol. Rydym yn cyfrannu at Gymru iachach, gyda phwyslais mawr ar arloesi a gwella, gan ddysgu oddi wrth eraill ledled y byd ac arwain y ffordd mewn ymchwil glinigol. Mae gwaith partneriaeth yn gadarn yng Nghaerdydd a’r Fro, ac rydym yn gweithio’n agos gyda’n staff a’n cymuned.

Mae Caerdydd, prifddinas ffyniannus Cymru, yn ddinas wych i fyw a gweithio ynddi sy’n cynnig llwyth o atyniadau chwaraeon, celfyddydau a diwylliannol. Wedi’i leoli i’r gorllewin o Gaerdydd, mae Bro Morgannwg yn cynnig cyfuniad o gefn gwlad hardd Cymru ac arfordir naturiol dramatig. P’un ai’n fywyd dinesig neu’n fywyd gwledig, mae Caerdydd a’r Fro yn cynnig y gorau o’r ddau fyd.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Y disgrifiad swydd manwl a'r fanyleb y person wedi'u hamgorffori fel dogfennay pdf yn yr hysbyseb hon. darllenwch yn ofalus i sicrhau bod gennych y cwmwysterau a'r profiad priodol ar gyfer y swydd hon.

Manyleb y person

Qualification

Meini prawf hanfodol
  • Good standard of general education
  • Minimum 2 A Level passes
Meini prawf dymunol
  • BSc degree

EXPERIENCE

Meini prawf hanfodol
  • Experience of record keeping systems.
  • Previous experience of working in NHS
Meini prawf dymunol
  • Experience of using Microsoft Access, Powerpoint
  • Experience of supervising staff

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareApprenticeships logoAge positiveDisability confident leaderhyderus o ran anableddAccredited Living Wage EmployerDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldArmed Forces CovenantDFN Project Search LogoStonewall Top 100 Employers in 2023Stonewall Top 100 Employers in 2023Core principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sue Lawless
Teitl y swydd
Automated Haematology Laboratory Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
02920 744487
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Alun Roderick

Rheolwr Gwasanaeth Haematoleg, Trallwysiad Gwaed a Fflebotomi

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg