Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Archwilio a Sicrwydd
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
- Gweithio gartref neu o bell
- Cyfeirnod y swydd
- 043-AC148-0826
- Cyflogwr
- GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Cwmbran House / Bryn Y Neuadd
- Tref
- Pont-y-pŵl / Llanfairfechan
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 27/08/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Rheolwr Archwilio
Gradd 7
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Cliciwch yma am nesges gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr
Cliciwch yma i ddarganfod beth yw barn ein staff am PCGC
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae Gwasanaethau Archwilio a Sicrwydd yn is-adran o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC). Rydym yn darparu gwasanaeth archwilio mewnol, sicrwydd ac ymgynghori proffesiynol ar draws y GIG yng Nghymru, sy’n cynnwys 12 Bwrdd Iechyd /Ymddiriedolaeth a nifer o Awdurdodau Iechyd Arbennig, sy’n gweithredu gyda chyllideb o fwy na £8 biliwn.
Mae risgiau sy’n newid ac yn esblygu’n barhaus, yn enwedig ar ôl y pandemig COVID, yn golygu bod GIG Cymru yn wynebu heriau newydd ac anghyfarwydd. Er bod y GIG yn aml yn barod i ymateb i’r heriau hyn, mae’r cymorth a ddarperir gan archwilio mewnol yn helpu i roi sicrwydd i Brif Weithredwyr a Byrddau fod eu prosesau rheoli risg, eu prosesau rheoli a’u trefniadau llywodraethu yn barod i fodloni’r gofynion hyn a chefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cleifion o safon.
Mae gennym 60 o staff medrus sy’n cynnal dros 400 o adolygiadau’n flynyddol, ar draws yr holl sefydliadau sy’n ffurfio GIG Cymru, gan gefnogi llywodraethu a gwella sefydliadol. Dylech fod yn unigolyn sydd â'r priodoleddau i ffynnu fel archwilydd mewnol yn yr amgylchedd heriol, amrywiol a chymhleth hwn.
Fel unigolyn hunan-ysgogol, dylech arddel ein gweledigaeth o ddarparu rhagoriaeth a gwerth am arian.
Mae dwy swydd ar gael:
37.5 awr – Tîm Gogledd Cymru sydd wedi'i leoli ym Mryn y Neuadd, Aber Road, Llanfairfechan, Conwy, LL33 0HH
22.5 awr – Tîm De-ddwyrain Cymru sydd wedi'i leoli yn Nhŷ Cwmbrân, Ystad Parc Mamhilad, Pont-y-pŵl, NP4 0HZ
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae Archwilio a Sicrwydd yn darparu gwasanaeth archwilio mewnol, sicrwydd ac ymgynghori proffesiynol i GIG Cymru, sy’n cynnwys Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth a nifer o Awdurdodau Iechyd Arbennig.
Rydym yn chwilio am Reolwr Archwilio brwdfrydig a phrofiadol i ymuno â'n tîm. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r Dirprwy Bennaeth Archwilio Mewnol i gynnal adolygiadau archwilio cymhleth lefel uchel, ac i reoli cynllunio, cyflwyno ac adrodd ar gynlluniau archwilio a chymryd cyfrifoldeb personol am sicrhau ansawdd ein gwasanaethau.
Byddwch hefyd yn gyfrifol am feithrin a chynnal perthynas waith effeithiol gydag uwch reolwyr a sicrhau bod ein harchwiliadau yn ychwanegu gwerth ac yn gwella llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth ar gyfer sefydliadau'r GIG yr ydych yn gyfrifol amdanynt.
Byddwch yn ymuno â ni ar adeg gyffrous yn ein datblygiad. Mae Asesiad Ansawdd Allanol (EQA) llwyddiannus y Gyfarwyddiaeth wedi bod yn gatalydd ar gyfer nifer o newidiadau a buddsoddiadau, yn unol â'n cynllun tymor canolig, sydd wedi canolbwyntio ar ein pobl, ein technoleg ac effaith ein gwasanaethau.
Rydym yn hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, gan gefnogi trefniadau gweithio ystwyth ac felly rydym yn hyblyg o ran ble y byddwch yn gweithio.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.
Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.
Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb. I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/
Gweithio i ni - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. Nid oes angen i ymgeiswyr blaenorol wneud cais
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster proffesiynol perthnasol gyda phrofiad ar ol cymhwyso neu wybodaeth a chymhwysedd cyfatebol
- Gwybodaeth arbenigol iawn ynghylch safonau archwilio
- Gwybodaeth arbenigol iawn ynghylch sicrwydd rheolaeth
- Gwybodaeth arbenigol iawn ynghylch fframweithiau rheolaeth
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o archwilio mewnol, archwilio yn y sector cyhoeddus a/neu'r GIG
- Llunio adroddiadau archwilio cymhleth gan gynnwys gwneud argymhellion i wella gweithdrefnau a mesurau rheoli
- Gwybodaeth a phrofiad arbenigol uwch o archwilio mewnol a rheoli risg
- Cyflwyno gwybodaeth gymhleth a allai fod yn sensitif pan fo’r rheolwyr yn wrthwynebol i’r canfyddiadau
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i gynllunio, rheoli a chyflawni aseiniadau archwilio
- Llunio cynlluniau archwilio cymhleth a dogfennau briffio aseiniadau
- Sgiliau cyfathrebu, goruchwylio ac ysgrifennu adroddiadau gwych
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun a’r un mor effeithiol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Stephen Chaney
- Teitl y swydd
- Head of Internal Audit
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector












