Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Iechyd y Cyhoedd
Gradd
Band 9
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio hyblyg
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
110-AC190-0826
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Swyddfeydd Nantgarw CBCGC
Tref
Pontypridd
Cyflog
£114,475 - £131,732 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
31/08/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg logo

Cyfarwyddwr Cyswllt Iechyd y Cyhoedd (CBCGC)

Band 9

Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTM).

Wedi'i leoli yng nghanol De Cymru, rydym yn dafliad carreg i ffwrdd o Gaerdydd, Casnewydd ac Abertawe. Wedi'i wreiddio'n ddwfn yn ein cymuned, fel sefydliad GIG rydym yn ymroddedig i ddarparu gofal cleifion tosturiol ac adeiladu cymunedau iachach gyda'n gilydd.

Yn CTM, byddwch yn rhan o dîm cefnogol o genhedloedd, diwylliannau a chefndiroedd amrywiol. Mae pob rôl yn cyfrif, mae pob person yn bwysig, a gyda'n gilydd, rydym yn creu lle lle gall pawb ffynnu.

Darganfyddwch fwy am weithio gyda ni yma:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Ymunwch â CTM

Hafan - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

MAE'R SWYDD HWN YN CAEL EI HWYSEBWYS FEL 110-MD556-0826 HEFYD

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Cyfarwyddwr Cyswllt Iechyd y Cyhoedd/Ymgynghorydd mewn Iechyd y Cyhoedd/Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd CBCGC sydd â chymwysterau a sgiliau addas mewn rôl barhaol.

Rydym yn chwilio am rywun sy'n meddwl ymlaen llaw, sydd â brwdfrydedd a sgiliau arweinyddiaeth cryf, i helpu i lunio agenda iechyd cyhoeddus Cymru Gyfan a llywio penderfyniadau a fydd yn effeithio ar iechyd a lles y boblogaeth.

Bydd eich rôl yn cynnwys arweinyddiaeth strategol uwch ym maes iechyd y cyhoedd, i lunio comisiynu cenedlaethol gwasanaethau arbenigol iechyd y cyhoedd yng Nghymru, a ddarperir drwy'r Cyd-bwyllgor Comisiynu (CBC). Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd ddarparu arweinyddiaeth arbenigol i sicrhau bod gwasanaethau a gomisiynir yn deg, yn gynaliadwy, ac yn ymatebol i anghenion iechyd poblogaeth Cymru.

Byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr o fewn y CBCGCac ar draws Cymru i wneud y gorau o ganlyniadau iechyd y cyhoedd a bydd gennych brofiad o weithio gydag ystod eang o bartneriaid a sefydliadau.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gall deiliad y swydd weithio mewn unrhyw faes yn ymwneud ag ymarfer iechyd y cyhoedd proffesiynol, fel sy'n ofynnol ar y pryd.  Bydd yn darparu cymorth a chyngor arbenigol yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd ar draws ystod o feysydd a fydd yn cynnwys:

·         Gwella Iechyd.

·         Ansawdd a Gwella Gofal Iechyd.

·         Diogelu Iechyd.

·         Gwybodaeth Iechyd.

·         Ymchwil a Datblygu.

·         Cyfrannu at gyngor iechyd y boblogaeth ar gyfer Awdurdodau Lleol Cymru gyfan.

·         Cyfrannu at waith cynllunio strategol sefydliadau partner, gan gynnwys y Bwrdd/Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (CBCGC) yn gweithio ar ran saith Bwrdd Iechyd Cymru i gynllunio a chomisiynu gwasanaethau gofal iechyd sydd orau eu darparu'n genedlaethol. Er bod Byrddau Iechyd yn darparu gwasanaethau ar gyfer poblogaethau lleol, mae rhai gwasanaethau mor arbenigol, cymhleth neu mor isel eu cyfaint fel eu bod yn cael eu comisiynu unwaith ar gyfer Cymru gyfan. Mae CBCGC yn gweithio gyda'r Byrddau Iechyd ac ar eu rhan i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cael eu cynllunio'n gyson, eu darparu'n ddiogel ac yn deg ledled Cymru. 

 

Gyda thua 120 o gydweithwyr wedi'u lleoli yng ngogledd a de Cymru, rydym yn sefydliad penodol gyda chylch gwaith cenedlaethol, gan gynnig cyfle unigryw i ddylanwadu ar ofal iechyd ledled Cymru a gwneud gwahaniaeth go iawn. Ein gweledigaeth yw bod yn Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Comisiynu Cydweithredol, gan ddod ag arbenigedd ynghyd i wella iechyd a gofal i bobl yng Nghymru. 

 

Wedi'i arwain gan ein gwerthoedd o Barchu Ein Gilydd, Meithrin Cydweithio, Ymdrechu am Ragoriaeth ac Adeiladu Ymddiriedaeth, rydym yn darparu gweithle cefnogol a chynhwysol, a adlewyrchir yn ein Tystysgrif Cymhwysedd Diwylliannol Diverse Cymru (Gwobr Arian gyda Theilyngdod). Rydym yn cynnig gweithio hyblyg, gwyliau blynyddol hael, cynllun pensiwn GIG rhagorol, buddion staff, a chyfleoedd datblygu gyrfa.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Mae’n ofynnol i ddeiliad y swydd:

Cymryd y rôl arweiniol ar ran y Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol wrth ddatblygu, gweithredu a chyflawni polisïau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, gan ddatblygu cynlluniau strategol tymor byr a hirdymor rhyngasiantaethol a rhyngddisgyblaethol, gyda Byrddau dirprwyedig neu awdurdodau sefydliadol i gyflawni targedau iechyd cyhoeddus allweddol. Mae hyn yn gofyn am y gallu i weithio ar draws cyfarwyddiaethau ac ar draws asiantaethau a sefydliadau gwirfoddol eraill.

Arwain ar integreiddio iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau gwirfoddol i hyrwyddo cydweithio effeithiol i sicrhau cyflawni targedau ehangach y llywodraeth.

Dylanwadu ar asiantaethau allanol yn eu penderfyniadau polisi iechyd cyhoeddus trwy weithio gyda grwpiau proffesiynol, rheoli a phoblogaeth cymhleth a sefydliadau eraill yn y sectorau statudol, anstatudol a phreifat.

Dylunio, datblygu a defnyddio systemau gwybodaeth a deallusrwydd i ategu gwelliant a gweithredu iechyd cyhoeddus ar draws disgyblaethau a sefydliadau, gan arwain coladu a dehongli data perthnasol.

Cyfrannu at ddatblygu strategaethau partneriaeth integredig (gan gynnwys y gydran asesu anghenion), gan weithio’n agos gydag awdurdodau lleol.

Bod yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu rhaglenni iechyd cyhoeddus hirdymor amlasiantaethol yn ôl yr angen, yn seiliedig ar nodi meysydd lle mae modd diogelu a gwella iechyd, amrywiaeth anghenion lleol a lleihau anghydraddoldebau.

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • MFPH trwy arholiad, trwy eithriad neu trwy asesiad
  • Rhaid i’r ymgeiswyr fod wedi’u cynnwys ar Gofrestr Arbenigwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol/Rhestr Arbenigwyr y Cyngor Deintyddol Cyffredinol/Cofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU (UKPHR) ar gyfer Arbenigwyr Iechyd y Cyhoedd
  • Dealltwriaeth o awdurdodau lleol a gwasanaethau cymdeithasol
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth fanwl am y GIG yng Nghymru

Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth dda o epidemioleg ac ystadegau, ymarfer iechyd y cyhoedd, sut i hyrwyddo iechyd, economeg iechyd a gwerthuso gofal iechyd
  • Gwybodaeth am ddulliau o ddatblygu sicrwydd ansawdd clinigol ac ymarfer clinigol sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  • Gwybodaeth am wybodaeth y GIG a'r modd y’i dehonglir
  • Gwybodaeth am benderfynyddion ehangach iechyd, gwybodaeth, a'r modd y dehonglir yr wybodaeth honno
  • Dealltwriaeth o'r amgylchedd cymdeithasol a gwleidyddol
  • Dealltwriaeth o awdurdodau lleol a gwasanaethau cymdeithasol

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ymarfer iechyd y cyhoedd ar lefel uwch
  • Profiad ymarferol o hwyluso newid mewn ymarfer clinigol
  • Profiad o weithio yn y lleoliad gofal iechyd gydag uwch-glinigwyr
  • Profiad o adolygu a datblygu gwasanaethau mewn lleoliadau gofal iechyd
  • Profiad pendant o gyfrannu ar lefel Bwrdd
  • Sgiliau rhagorol o ran rheoli staff, rheolaeth gorfforaethol, hyfforddi a datblygu
  • Sgiliau da iawn o ran rheoli prosiectau
  • Profiad o weithio mewn amgylcheddau gwleidyddol a chymdeithasol cymhleth
  • Profiad ymarferol o hwyluso newid
  • Cyhoeddiadau gwyddonol, wedi cyflwyno papurau mewn cynadleddau, seminarau ac ati
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau hyfforddi a mentora
  • Sgiliau rheoli cyllidebau

Aptitude and abilities

Meini prawf hanfodol
  • Ymrwymiad cryf i egwyddorion iechyd y cyhoedd
  • Y gallu i flaenoriaethu gwaith a gweithio'n dda yn erbyn cefndir o newid ac ansicrwydd
  • Ymrwymiad i ychwanegu gwerthoedd iechyd y cyhoedd at agendâu corfforaethol
  • Y gallu i addasu i sefyllfaoedd a’r gallu i drin pobl o bob gallu ac agwedd
  • Ymrwymiad i weithio mewn tîm, ac ymrwymiad i barchu ac ystyried sgiliau pobl eraill
  • Unigolyn arloesol, rhagweithiol a llawn hunangymhelliant
  • Safonau uchel o ran uniondeb proffesiynol
  • Sgiliau rhagorol o ran rheoli newid
  • Y gallu i feddwl yn strategol gyda sgiliau arwain pendant
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig (gan gynnwys delio â'r cyfryngau)
  • Sgiliau rhyngbersonol, ysgogiadol a dylanwadu effeithiol
  • Y gallu i ymateb yn briodol mewn amgylchiadau heb eu cynllunio ac amgylchiadau annisgwyl
  • Sgiliau cyflwyno da (ar lafar ac yn ysgrifenedig).
  • Y gallu i ddelio â'r cyfryngau.
  • Trafodwr synhwyrol sy’n meddu ar ddisgwyliadau ymarferol ynglŷn â’r hyn y gellir ei gyflawni
  • Sgiliau rhifol da, gan feddu ar sgiliau dadansoddi hynod ddatblygedig wrth ddefnyddio data ansoddol a meintiol
  • Yn hyddysg mewn cyfrifiadura <e.g. MS Office ac ati, fel y bo’n briodol ar gyfer y swydd
  • Y gallu i lunio, datblygu, dehongli a gweithredu polisïau
  • Y gallu i ganolbwyntio am gyfnodau maith (e.e. gwaith dadansoddi, cyflwyniadau gerbron y cyfryngau)
  • Sgiliau rheoli adnoddau
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau Siarad a Gwrando yn y Gymraeg (Lefel 3 neu uwch/B2)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Age positiveDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddAccredited Living Wage EmployerWelsh logo for Armed Force Bronze Award for Cym Taf UHBAccredited Living Wage EmployerCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Penny Letchford
Teitl y swydd
Associate Medical Director
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg