Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Newyddenedigol
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 130-ACS170-0926
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Singleton
- Tref
- Abertawe
- Cyflog
- £26,300 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 05/10/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Ward (Newyddenedigol)
Gradd 2
Croeso i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd: gofalu am ein gilydd, cydweithio a gwella drwy’r amser.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon ar ôl 24 os na dderbynnir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym felly’n hybu ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth ar y swydd hon.
Bydd staff sy’n bresennol yn aros am adleoliad yn cael eu hystyried yn gyntaf ac felly rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Gwasanaeth Newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fel Cynorthwyydd Ward ar yr Uned Newyddenedigol yn Ysbyty Singleton.
Mae ein Huned Newyddenedigol yn darparu gofal arbenigol i fabanod cynamserol a sâl a’u teuluoedd ledled rhanbarth Bae Abertawe a’r ardaloedd cyfagos. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, gofalgar ac ymroddedig sydd â diddordeb mewn cefnogi gofal newyddenedigol o’r safon uchaf a chyfrannu at brofiad cadarnhaol i fabanod, rhieni a staff.
Fel Cynorthwyydd Ward, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod yr Uned Newyddenedigol yn rhedeg yn effeithlon ac yn ddiogel o ddydd i ddydd. Er mai swydd anghlinigol yw hon, mae cyfraniad y Cynorthwyydd Ward yn hanfodol i ddiogelwch cleifion, ansawdd y gofal a phrofiad cyffredinol y teuluoedd sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Byddwch yn gweithio’n agos gyda nyrsys, meddygon, gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol a gwasanaethau cymorth i gynnal amgylchedd glân, diogel, trefnus a chroesawgar ar gyfer rhai o’r cleifion mwyaf bregus yn ein gofal.
Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle unigryw i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ymroddedig a thosturiol sy’n canolbwyntio ar ddarparu gofal rhagorol i fabanod a’u teuluoedd. Byddwch yn cael cefnogaeth i ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth mewn amgylchedd iechyd arbenigol tra’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ar adeg bwysig iawn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Uned Newyddenedigol drwy gyflawni ystod o ddyletswyddau anghlinigol hanfodol sy'n helpu i gynnal amgylchedd diogel, effeithlon a threfnus. Bydd cyfrifoldebau'n cynnwys cynnal lefelau stoc, trefnu cyflenwadau ac offer, a chefnogi'r defnydd effeithiol o adnoddau ar draws yr uned.
Byddwch yn glanhau ac yn paratoi deoryddion, cotiau, ardaloedd cleifion ac ystafelloedd rhieni, gan sicrhau bod mannau gwely yn barod ar gyfer derbyniadau newydd. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys glanhau offer clinigol ac ardaloedd ward yn unol â safonau atal a rheoli heintiau, gan helpu i gynnal amgylchedd diogel a hylan i fabanod, teuluoedd a staff.
Gan weithio'n agos gyda'r tîm amlddisgyblaethol, byddwch yn cynorthwyo gyda rheoli stoc, symud offer, cadw cofnodion a monitro offer dynodedig. Mae sgiliau cyfathrebu rhagorol yn hanfodol, gan y byddwch yn cysylltu â chydweithwyr, rhieni ac ymwelwyr mewn modd proffesiynol a thosturiol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn trefnus, dibynadwy a gofalgar ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a chyfrannu at ddarparu gofal newyddenedigol rhagorol i fabanod a'u teuluoedd.
Gweithio i'n sefydliad
Credwn mai staff yw ein hased gorau ac rydym am ichi fod yn hapus ac yn hyderus ynglyn a dechrau eich gyrfa yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Fel un o'r grwpiau gofal iechyd mwyaf yn y DU, gallwn gynnig cyfoeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol mewn sefydliad arloesol, blaengar.
Efallai eich bod yn nyrs neu'n feddyg, efallai eich bod yn arbenigo mewn gwyddor iechyd / therapi neu'n gallu cynnig sgiliau yn un o'n gwasanaethau cymorth - mae gennym swydd i chi.
Mae yna hefyd brentisiaethau, lleoliadau gwaith a rolau gwirfoddoli ar gael.
Rydym yn gyflogwr cynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan bawb beth bynnag fo'u rhyw; crefydd neu gred; ras; oed; cyfeiriadedd rhywiol; hunaniaeth rhyw neu, p'un a ydynt yn feichiog neu wedi bod ar gyfnod mamolaeth yn ddiweddar, yn briod neu mewn partneriaeth sifil; neu, os ydyn nhw'n anabl.
Mae ein gwerthoedd – Gofalu am ein gilydd, Cydweithio a Yn gwella bob amser, yn dangos bod ein hymrwymiad i gydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn.
Os ydych chi eisiau cyfleoedd gyrfa a hyfforddiant rhagorol wrth fyw ar stepen drws rhai o olygfeydd mwyaf ysblennydd Ewrop, gyda holl fanteision dinas sy'n ffynnu a chosmopolitaidd - edrychwch ymhellach.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu gweld y Disgrifiad Swydd llawn a’r Fanyleb Person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ar “Gwneud Cais Nawr” i’w gweld ar Trac.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth Hanfodol
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster lefel 2 neu brofiad perthnasol cyfatebol
- Profiad o weithio fel rhan o dîm.
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio gyda phobl mewn rôl gofalu.
Doniau a Galluoedd Hanfodol
Meini prawf hanfodol
- Cadw at Werthoedd ac Ymddygiadau BIPBA a'u harddangos
- Sgiliau cyfathrebu da – ar lafar ac yn ysgrifenedig, gyda’r gallu i gyfleu gwybodaeth yn glir ac yn sensitif.
- Yn gallu aros yn bwyllog mewn sefyllfaoedd sy’n achosi straen.
- Yn gallu dangos agwedd ofalgar a thosturiol.
- Sgiliau trefnu, gyda'r gallu i gynllunio a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun yn effeithlon
- Yn gallu defnyddio technoleg i ymgymryd â’r rôl er enghraifft Microsoft Office, e-bost, Teams ac ati.
- Gallu corfforol i gyflawni dyletswyddau'r rôl, gan gynnwys codi, cynorthwyo gyda symudedd, a chyflawni tasgau llaw eraill.
- Gallu teithio o fewn yr ardal ddaearyddol berthnasol
- Gallu gweithio'n hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
- Datgelu a Gwahardd (DBS) gan gynnwys gwiriad Rhestr Gwaharddedig Oedolion a Phlant.
- Yn gallu gweithio amrywiaeth o batrymau sifft.
Meini prawf dymunol
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu.
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Helen James
- Teitl y swydd
- Matron
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector








