Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferyllydd - Gwasanaethau Technegol
Gradd
Gradd 8a
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-PST105-0826
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
Tref
Hwlffordd
Cyflog
£58,379 - £65,723 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
13/09/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
24/09/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch-fferyllydd - Gwasanaethau Technegol

Gradd 8a

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn awyddus i recriwtio fferyllydd brwdfrydig, arloesol a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm Gwasanaethau Technegol Fferyllol sy'n ehangu. 

Mae Gwasanaethau Technegol Fferyllol yn faes ymarfer dynamig ac esblygol, sy'n chwarae rôl allweddol wrth sicrhau bod y gwaith o baratoi a chyflenwi meddyginiaethau cymhleth i gleifion yn ddiogel. Mae ein tîm Gwasanaethau Aseptig yn paratoi ac yn cyflenwi therapi wrthganser systematig (SACT) i gleifion ar draws pob un o bedwar safle ysbyty y Bwrdd Iechyd. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth treialon clinigol sy'n ehangu, gan gynnig cynhyrchion meddyginiaethol ymchwiliadol i bob safle. Ar hyn o bryd, rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith o gael Uned Aseptig Fferyllol newydd, y mae disgwyl iddi fod yn weithredol yn ddiweddarach eleni, a fydd yn cynyddu ein capasiti ac yn gwella ein gallu. Rydym yn chwilio am fferyllydd medrus llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm a chyfrannu at y cyfnod cyffrous hwn o ffyniant a thrawsnewid.

Mae'r swydd hon yn canolbwyntio ar gefnogi'r gwaith o ddarparu'r SACT, y treialon clinigol ac unrhyw feddyginiaethau eraill yn ddiogel ac yn effeithiol, a hynny trwy'r Gwasanaethau Technegol Fferyllol. Bydd deiliad y swydd yn Fferyllydd Awdurdodedig i'r uned ac yn gwirio presgripsiynau ar gyfer SACT, gan sicrhau bod yna gydymffurfedd â phrotocolau awdurdodedig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hynod drefnus, yn flaengar iawn, ac yn gallu defnyddio ei sgiliau datrys problemau i lywio gwelliant mewn gwasanaethau.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Bod yn Fferyllydd Awdurdodedig ar gyfer yr uned aseptig, gan oruchwylio gwaith paratoi aseptig meddyginiaethau chwistrellu parod i'w rhoi fel Therapi Gwrth-Ganser Systemig (SACT) a dirprwyo ar gyfer y Fferyllydd Atebol.
  • Sicrhau bod yr holl weithgareddau o fewn y gwasanaeth yn cael eu cynnal gan bersonél hyfforddedig yn unol â gofynion Arfer Gweithgynhyrchu Da (GMP), Arfer Clinigol Da (GCP) ac Arfer Dosbarthu Da (GDP), Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith, Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH), Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol ac unrhyw ofynion statudol perthnasol eraill, i gyflenwi gwasanaeth o safon, sy'n canolbwyntio ar y claf, a hynny mewn da bryd, ar draws y Bwrdd Iechyd.
  • Sgrinio ac adolygu presgripsiynau’n glinigol ar gyfer SACT, treialon clinigol, ac unrhyw rai eraill yn ôl y gofyn.
  • Gwirio gwasanaethau aseptig i sicrhau bod y presgripsiwn wedi'i wirio'n glinigol bod y cyfansoddion rhagnodedig yn gydnaws, bod y  fformwleiddiad yn sefydlog, a bod y cynnyrch yn cael ei ddarparu’n gywir ar gyfer y llwybr y bwriedir rhoi’r feddyginiaeth.
  • Darparu cyngor fferyllol arbenigol i uwch reolwyr, clinigwyr a staff nyrsio.
  • Sicrhau bod safonau Sicrhau Ansawdd yn cael eu cynnal yn unol â gofynion cenedlaethol, rhanbarthol a lle.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Efallai y bydd y swydd hon yn cael ei chynnwys mewn proses newid sefydliadol sydd ar ddod, i greu'r Gwasanaeth Trawsnewid Mynediad at Feddyginiaethau (TrAMs). Bydd natur ac amserlenni'r newid arfaethedig yn destun ymgynghoriad ar y cyd â Pholisi Newid Sefydliadol Cymru Gyfan. Ni ragwelir unrhyw risg i gyflogaeth yn sgil y newid hwn. Cysylltwch â'r rheolwr recriwtio os hoffech drafod hyn ymhellach. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am raglen TrAMsyma: Trawsnewid Mynediad at Feddyginiaethau - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 24.9.26

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd Meistr mewn Fferylliaeth
  • Yn gofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • Diploma Ôl-raddedig mewn maes ymarfer neu brofiad cyfatebol
  • Yn amlygu Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Meini prawf dymunol
  • Cwrs ICH GCP achrededig gan brifysgol neu gorff proffesiynol
  • Cymhwyster mewn Technoleg Fferyllol a Sicrhau Ansawdd
  • Presgripsiynydd Annibynnol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ôl-gymhwyso o weithio mewn Adran Fferylliaeth mewn Ysbyty
  • Profiad perthnasol ym maes Ymarfer Meddygol Cyffredinol o ddarparu gwasanaethau Aseptig y GIG neu o fewn uned drwyddedig yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA)
Meini prawf dymunol
  • Profiad o gynnal archwiliadau neu ymchwil glinigol

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Gallu teithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Cerith Morgan
Teitl y swydd
Senior Pharmacy Manager - Technical Services
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg