Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Technegydd Fferyllol/Technegydd Gweithgynhyrchu Gwyddonol – Lefel Uwch
Gradd
Gradd 5/Atodiad 21
Contract
18 mis (Cyfnod Penodol / Secondiad tan 28/02/2028)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-PST108-0826
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
Tref
Hwlffordd
Cyflog
£32,557 - £39,631 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
14/09/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
23/09/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Technegydd Fferyllol/Technegydd Gweithgynhyrchu Gwyddonol – Lefel Uwch

Gradd 5/Atodiad 21

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan28/02/2028 . Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Rydym yn chwilio am Dechnegwyr Fferyllol neu Dechnegwyr Gweithgynhyrchu Gwyddonol brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â thîm ein Gwasanaethau Technegol Fferyllol ar adeg gyffrous i’r gwasanaeth. Mae’r tîm yn paratoi ac yn cyflenwi therapi gwrthganser systemig (SACT) i gleifion ar draws pob un o bedwar safle ysbyty y Bwrdd Iechyd, ac yn cefnogi gwasanaeth treialon clinigol sy’n tyfu. Byddwn yn agor Uned Aseptig Fferyllol newydd yn ddiweddarach eleni a fydd yn ein helpu i ateb y galw cynyddol o du ein cleifion. 

Mae hon yn rôl wych mewn tîm cyfeillgar a chefnogol sy’n ymwneud â pharatoi a chyflenwi meddyginiaethau ar gyfer cleifion ledled y Bwrdd Iechyd. Byddwch yn magu profiad yn y gwasanaethau aseptig ac mewn treialon clinigol a gweithgarwch sicrhau ansawdd, gyda chymorth i ddatblygu cymwysterau gwirio achrededig a sgiliau arbenigol yn y Gwasanaethau Technegol Fferyllol, sy’n golygu bod hon yn rôl ardderchog ar gyfer y rheiny sydd am ddatblygu eu gyrfa ym maes fferylliaeth. 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Cymryd rhan yn y gwaith o baratoi meddyginiaethau yn aseptig a goruchwylio hynny, gan ddilyn gofynion ansawdd, diogelwch a rheoleiddiol perthnasol.
  • Cefnogi’r gwaith o redeg y gwasanaeth o ddydd i ddydd trwy helpu i drefnu llwythi gwaith a gweithgareddau i sicrhau bod meddyginiaethau yn cael eu paratoi a’u cyflenwi yn ddiogel ac ar amser.
  • Cynnal gwiriadau achrededig cyn ac yn ystod prosesau i helpu i sicrhau bod meddyginiaethau yn cael eu paratoi yn gywir ac yn ddiogel.
  • Darparu cymorth ac arweiniad o ddydd i ddydd i staff technegol, gan gynorthwyo gyda hyfforddiant ac asesiadau cymhwystra yn ôl y gofyn.
  • Cefnogi gweithgareddau sicrhau ansawdd megis monitro amgylcheddol, gwaith dilysu, adrodd am wyriadau, ac archwiliadau ansawdd.
  • Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu ac adolygu trefniadau gweithredu safonol a chyfrannu at welliannu i’r gwasanaeth.
  • Helpu i gynnal lefelau stoc a sicrhau bod meddyginiaethau a nwyddau traul yn cael eu storio a’u trin yn ddiogel.
  • Dosbarthu a hunanwirio presgripsiynau, gan gynnwys meddyginiaethau didrwydded a chynhyrchion treialon clinigol, gan ddilyn gweithdrefnau cymeradwy.
  • Cynnal gwiriadau manwl gywirdeb terfynol a rhyddhau presgripsiynau yn unol â gofynion cyfreithiol, proffesiynol a chlinigol.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster fferyllol neu wyddonol perthnasol, nei fod yn gweithio tuag at hynny. Rhaid i ymgeiswyr fod yn gofrestredig fel Technegydd Fferyllol gyda’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) neu fel Technegydd Gwyddonol Cofrestredig (RSciTech) gyda’r Cyngor Gwyddoniaeth, neu fod yn gymwys ac yn bwriadu cofrestru gyda’r corff proffesiynol perthnasol yn y flwyddyn gyfredol.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gymhwyster gwirio achrededig ar gyfer meddyginiaethau a ddosberthir a hefyd wiriadau cyn ac yn ystod prosesau yn y gwasanaethau paratoi aseptig. Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni’r holl ofynion ar gyfer y rôl Band 5 ar hyn o bryd i wneud cais ac, os byddant yn llwyddiannus, bydd angen iddynt gyflawni’r cymwysterau cyn pen 18 mis ar y mwyaf a chânt eu penodi o dan reolau Atodiad 21. Mae hyn yn golygu y bydd yn cael ei gefnogi gan gynllun datblygu. (Yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd y taliad yn 70% o’r gyfradd cyflog uchaf ym Mand 5, ac yn 75% yn yr ail flwyddyn%). Ar ôl pasio’r achrediadau gwirio yn llwyddiannus, bydd deiliad y swydd yn cael ei dalu ar lefel Band 5 (pwynt isaf y raddfa). Darperir cymorth a goruchwyliaeth er mwyn datblygu’r ymgeisydd llwyddiannus i’r rôl Band 5. Gallai peidio â chyflawni’r cymhwyster yn unol â’r amserlen ddynodedig arwain at adleoli.

Efallai y bydd y swydd hon yn cael ei chynnwys mewn proses newid sefydliadol sydd i ddod i greu’r Gwasanaeth Trawsnewid Mynediad i Feddyginiaethau (TrAMs). Bydd natur ac amserlen y newid arfaethedig yn destun ymgynghoriad ar y cyd â Pholisi Newid Sefydliadol Cymru Gyfan. Ni ragwelir unrhyw risg i gyflogaeth o ganlyniad i’r newid hwn. Cysylltwch â’r rheolwr recriwtio os hoffech drafod hyn ymhellach. Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen TrAMS ar gael yma: Trawsnewid Mynediad i Feddyginiaethau – Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 23/09/2026.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Ymarfer Technegydd Fferyllol NEU BTEC Gwyddorau Fferyllol gydag NVQ Lefel 3 mewn Gwasanaethau Fferyllol NEU Egwyddorion Prosesu Nwyddau Fferyllol Aseptig (Lefel 3), NEU Dechnegydd Gweithgynhyrchu Gwyddoniaeth (SMT) Lefel 3 NEU gymhwyster gwyddonol cyfatebol ar lefel gradd
  • Achrediad Gwirio Cyn ac Yn Ystod Prosesau
  • Cwrs Gwirio Cywirdeb ar gyfer Cynorthwywyr Dosbarthu Meddyginiaethau neu gymhwyster cyfatebol
  • Cofrestriad Proffesiynol Priodol
  • Cymhwyster dosbarthu meddyginiaeth wedi’i gymeradwyo gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol ar lefel 2 neu uwch
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster neu achrediad rheolwr goruchwylio, neu brofiad cyfatebol
  • Cymhwyster neu achrediad hyfforddi, neu brofiad cyfatebol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn Fferyllfa, uned aseptig neu amgylchedd cynhyrchu tebyg
Meini prawf dymunol
  • Profiad ehangach o’r diwydiant fferyllol gan gynnwys caffael, storio a dosbarthu

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Yn agos-atoch ac yn broffesiynol
  • Y gallu i beidio â chynhyrfu mewn amgylchedd prysur
  • Yn ymrwymedig i ddatblygiad proffesiynol parhaus
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Cerith Morgan
Teitl y swydd
Senior Pharmacy Manager - Technical Services
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg