Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Recruitment & Human Resources
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 21 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC426-0826
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Gwynedd
Tref
Bangor
Cyflog
£26,813 - £27,890 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
Today at 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cynorthwy-ydd Recriwtio

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Swydd Barhaol | Ysbyty Gwynedd

Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth fyddai gyrfa ym maes Recriwtio neu Adnoddau Dynol (AD)?

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm Gwasanaethau Pobl fel Gweinyddwr Band 3, wedi'i leoli yn Ysbyty Gwynedd, gan ddarparu cymorth hanfodol i'n timau Recriwtio ac AD.

Fel aelod allweddol o'r tîm, byddwch wrth galon swyddogaeth y Gwasanaethau Pobl, gan weithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i weithwyr, rheolwyr, ymgeiswyr ac aelodau'r cyhoedd. Bydd y rôl hon yn rhoi cipolwg gwerthfawr i chi ar feysydd Recriwtio ac Adnoddau Dynol, gan ei gwneud yn gyfle delfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa yn y disgyblaethau hyn.

Nid oes dau ddiwrnod yr un fath. Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd prysur a chyflym, gan ddarparu ystod eang o gymorth gweinyddol i helpu sicrhau bod prosesau Recriwtio ac AD yn cael eu cyflawni'n effeithiol ar draws y sefydliad.

Byddwch yn rhan o dîm cefnogol, cyfeillgar ac ymroddedig sy'n gwerthfawrogi cydweithio, dysgu a darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Mae ein gwaith yn dod â ni i gysylltiad ag amrywiaeth eang o bobl a sefyllfaoedd bob dydd, ac rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth proffesiynol, effeithlon ac ymatebol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Darparu cymorth gweinyddol i'r timau Recriwtio ac AD.
  • Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau dros y ffôn, drwy e-bost ac wyneb yn wyneb.
  • Cynnal cofnodion recriwtio a gweithwyr yn gywir.
  • Cefnogi prosesau recriwtio a gweithgareddau sefydlu staff newydd.
  • Cynorthwyo gyda gohebiaeth, trefnu cyfarfodydd a pharatoi dogfennau.
  • Rheoli a blaenoriaethu llwyth gwaith i sicrhau bod terfynau amser yn cael eu bodloni.
  • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i ystod eang o randdeiliaid.

Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus a brwdfrydig sy'n mwynhau gweithio gyda phobl a darparu cymorth gweinyddol o safon uchel.

Bydd gennych:

  • Brofiad gweinyddol blaenorol mewn amgylchedd swyddfa prysur.
  • Sgiliau TG cryf, yn enwedig mewn cymwysiadau Microsoft Office.
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
  • Y gallu i reoli blaenoriaethau cystadleuol a gweithio i derfynau amser.
  • Hyder wrth ddelio ag ymholiadau dros y ffôn, drwy e-bost ac wyneb yn wyneb.
  • Ymagwedd gadarnhaol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
  • Sylw manwl i fanylion a sgiliau trefnu da.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.  

 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

CYMWYSTERAU

Meini prawf hanfodol
  • NVQ 3 neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
  • NVQ 2 mewn gweinyddiaeth neu Wasanaethau Cwsmer
  • ECDL

PROFIAD

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio yn y GIG mewn rôl weinyddol
  • Profiad o weithio gyda Microsoft Office Word, Excel
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd cyflym sy’n newid
  • Gallu i flaenoriaethu a threfnu llwyth gwaith a bodloni terfynau amser
  • Sgiliau gwasanaeth cwsmer ardderchog a sgiliau cyfathrebu fel eich bod yn gallu ymdrin â galwyr dros y ffôn ac wyneb yn wyneb mewn modd proffesiynol a chwrtais.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddefnyddio cronfeydd data TG
  • Profiad blaenorol o weithio yn y GIG
  • Profiad o recriwtio, yn ddelfrydol mewn amgylchedd Adnoddau Dynol neu Weithlu meddygol

SGILIAU

Meini prawf hanfodol
  • Parodrwydd i weithio'n hyblyg er mwyn bodloni anghenion y gwasanaeth
  • Gallu gweithio'n annibynnol heb oruchwyliaeth uniongyrchol
  • Bod yn fanwl-gywir ac yn rhoi sylw i fanylder
  • Sgiliau trefnu rhagorol
  • Gallu cyfleu negeseuon ysgrifenedig a llafar yn gywir a phrydlon
  • Gallu gweithio gyda’r holl randdeiliaid allweddol a datblygu partneriaethau effeithiol
  • Sgiliau bysellfwrdd safonol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Helen O'Neill
Teitl y swydd
Senior Recruitment Officer
Cyfeiriad ebost
Helen.O'[email protected]
Rhif ffôn
03000851385
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg