Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Iechyd Meddwl Oedolion
Gradd
Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (10 sesiynau)
Cyfeirnod y swydd
100-MED-MHLD-191-S
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty De Sir Benfro, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol
Tref
Doc Penfro
Cyflog
£114,099 - £166,585 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
30/08/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ymgynghorydd mewn Seiciatreg Gyffredinol Gymunedol – De Sir Benfro

Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn falch iawn o gynnig cyfle cyffrous i Seiciatrydd Ymgynghorol ymuno â'n Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn Ysbyty De Sir Benfro yn Noc Penfro. Mae'r rôl hon yn gyfle i weithio mewn amgylchedd cefnogol a blaengar, gan ddarparu gofal o ansawdd i oedolion mewn lleoliadau cymunedol a chleifion mewnol.

Byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth lunio dyfodol gofal iechyd meddwl yn Sir Benfro, gan weithio'n agos gyda thîm amlddisgyblaethol brwdfrydig. Gyda'ch gilydd, byddwch yn darparu gofal tosturiol, seiliedig ar dystiolaeth i ddiwallu anghenion ein poblogaeth leol. Yn rhan o'r rôl, byddwch yn cyfrannu at addysgu a hyfforddiant, gan gefnogi myfyrwyr meddygol a staff iau, ac yn cymryd rhan hefyd mewn archwiliadau, ymchwil a datblygu gwasanaethau. Gyda chysylltiadau cryf â Phrifysgolion Abertawe a Chaerdydd, mae yna gyfleoedd ardderchog i ddatblygu diddordebau is-arbenigedd a chymryd rhan mewn prosiectau ymchwil arloesol sy'n gwella canlyniadau cleifion.

Mae byw a gweithio yn Sir Benfro yn cynnig ffordd unigryw o fyw. Mae'r rhanbarth yn enwog am ei arfordir trawiadol, parciau cenedlaethol, a chymunedau bywiog, sy'n ei wneud yn lle delfrydol i gydbwyso gyrfa foddhaol ag ansawdd bywyd eithriadol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

A chithau’n Seiciatrydd Ymgynghorol, byddwch yn darparu arweinyddiaeth glinigol ar draws gwasanaethau cymunedol a chleifion mewnol, gan helpu i lunio dyfodol gofal iechyd meddwl oedolion yn Sir Benfro. Gan weithio'n agos gyda thîm amlddisgyblaethol ymroddedig, byddwch yn sicrhau bod gwasanaethau'n dosturiol, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yn ymateb i anghenion ein poblogaeth leol.

Bydd cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys, er enghraifft:

  • Darparu gofal clinigol o ansawdd uchel ym maes Seiciatreg Gyffredinol Oedolion
  • Arwain a chefnogi'r tîm amlddisgyblaethol
  • Cyfrannu at weithgareddau addysgu, hyfforddi ac ymchwil
  • Cymhwyso arbenigedd o ran asesu, triniaeth a rheoli cymunedol
  • Cefnogi datblygiad myfyrwyr meddygol, meddygon iau, a staff ehangach
  • Cymryd rhan mewn mentrau DPP, archwilio a gwella gwasanaethau
  • Os ydych wedi ymrwymo i ddarparu gofal iechyd meddwl o ansawdd ac yn awyddus i lunio dyfodol seiciatreg gymunedol yn Sir Benfro, rydym yn eich annog yn gynnes i wneud cais. Mae manylion llawn y rôl a'r cyfrifoldebau ar gael yn y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford 
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
  • 48 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre 
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

I gael holl fanylion gofynion y rôl, gweler y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person sydd ynghlwm.

Cynhelir trafodaethau ynghylch y patrwm gweithio yn ystod y broses cynllunio swyddi gychwynnol, lle gellir trafod ac archwilio dewisiadau, gofynion ac opsiynau yn llawn.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf, gan sicrhau bod ein cymuned yn cael y gofal gorau posibl. Rydym yn rhoi gwerth ar gynhwysiant ac yn meithrin diwylliant yn y gweithle sy'n croesawu amrywiaeth ac yn cefnogi cyfraniad pob unigolyn at amgylchedd gofal iechyd croesawgar.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymdeithas ac rydym yn ymrwymedig i greu gweithle amrywiol a chynhwysol.

Gweler y dolenni isod am fideos defnyddiol sy'n ymwneud â'r swydd hon:

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad llawn a Thrwydded i Ymarfer gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
  • Ar Gofrestr Arbenigol y GMC (gan gynnwys trwy Lwybr Portffolio (CESR)/Hawliau'r Gymuned Ewropeaidd) neu bydd disgwyl CCT o fewn chwe mis i ddyddiad y cyfweliad.
  • Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig a Dilys.
  • Pan fo diddordeb is-arbenigedd yn ofynnol, dylai hyfforddiant is-arbenigedd fod i lefel sy'n briodol ar gyfer ymarfer ymgynghorol is-arbenigol y DU - cymrodoriaeth neu brofiad lefel gyfatebol.
  • Cymeradwyaeth Adran 12
  • Statws Clinigydd Cymeradwy AC
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster(au) Uwch ychwanegol.

Profiad Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • Profiad eang o fewn y maes arbenigedd.
  • Gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
  • Profiad o arwain tîm.
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o weithio yn y DU neu'r GIG.

Llywodraethu Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth o rôl Llywodraethu Clinigol.
  • Cyfranogiad mewn archwiliad clinigol (neu brosiect gwella ansawdd) a deall rôl archwilio wrth wella ymarfer meddygol.
  • Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am reoli risg.

Addysgu

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i asesu'n feirniadol gofynion dysgu ar gyfer eich hun ac eraill.
  • Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu pob grŵp staff.
  • Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster addysgu.

Ymchwil ac Ysgolheictod

Meini prawf hanfodol
  • Arddangos gwybodaeth am ymchwil gyfredol ac arfer gorau yn y maes arbenigedd.
  • Tystiolaeth o gadw'n gyfredol â'r ymchwil a'r arfer gorau.
  • Tystiolaeth o leoli a defnyddio canllawiau clinigol yn briodol.
  • Tystiolaeth o gyfathrebu a dehongli tystiolaeth ymchwil mewn ffordd ystyrlon.
Meini prawf dymunol
  • Cyfranogiad gweithredol mewn ymchwil.

Diogelu

Meini prawf hanfodol
  • Dangos gwybodaeth am ofynion diogelu a chymryd cyfrifoldeb priodol.
  • Tystiolaeth o gymhwyso deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth briodol.

Arall

Meini prawf dymunol
  • Siarad Cymraeg (Lefel 1)

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Gallu gweithio'n annibynnol a bod yn gyfrifol am gamau a gymerwyd.
  • Gallu gweithio'n hyblyg.
  • Gallu bod yn bwyllog wrth weithio o dan bwysau
  • Ymgymryd â chyfrifoldeb am arwain a goruchwylio tîm
  • Sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau rhyngbersonol rhagorol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Warren Lloyd
Teitl y swydd
AMD and Consultant Psychiatrist CAMHS
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 674130
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg