Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Trawma ac Orthopedig
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (Shifftiau dros 7 diwrnod yr wythnos)
Cyfeirnod y swydd
100-NMR239-0826
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£50,129 - £57,365 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
25/08/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
17/09/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Glinigol Arbenigol Trawma

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae gan y tîm Trawma ac Orthopedig gyfle cyffrous i Nyrs Gofrestredig brofiadol ymuno â’n tîm trawma ac orthopedig sefydledig yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant sydd â phrofiad o weithio ym maes Trawma ac Orthopaedeg. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi gweithio ar lefel Band 6 neu uwch.

Rydym yn chwilio am nyrsys blaengar sy'n ymdrechu i sicrhau’r safonau gofal uchaf, gan ddarparu gwybodaeth arbenigol am drawma i gleifion, staff y wardiau a’r tîm amlddisgyblaethol ehangach.

Bydd y rôl yn cynnwys casglu data a chefnogi'r broses o gasglu a dilysu data ar gyfer y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Dorri Cluniau (NHFD), dehongli’r data a gweithio gyda’r Nyrs Glinigol Arbenigol Trawma presennol, y Tîm Gofal wedi’i Drefnu a Thîm Safle Glangwili mewn prosiectau gwella ansawdd i wella a chynnal cydymffurfedd â’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol a nodir yn yr NHFD.

Bydd angen i'r ymgeisydd feddu ar ddealltwriaeth o Rwydwaith Trawma Mawr De Cymru a'r llwybrau presennol ar gyfer gwasanaethau trawma ledled De Cymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ac yn datblygu llwybrau penodol o ran trawma, gan gefnogi a hwyluso'r broses o reoli grwpiau (mae hyn yn cynnwys cleifion sy'n torri asgwrn eu clun) mewn modd diogel ac effeithiol o'r pwynt derbyn i'r pwynt rhyddhau.

Rôl  yw  30 awr yr wythnos, dros 7 diwrnod gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cydweithio â'r tîm amlddisgyblaethol i sicrhau bod gofal nyrsio o safon uchel yn cael ei ddarparu mewn modd diogel ac effeithiol.

Bod yn gyfrifol am fonitro cleifion mewnol yn ddyddiol ar wardiau Trawma ar ôl cael llawdriniaeth i sicrhau eu bod yn gwella fel y cynlluniwyd, a chysylltu â'r tîm meddygol perthnasol yn unol â hynny. 

Cymryd rhan, gyda'r Cydgysylltydd Trawma a staff y Theatr Llawdriniaethau, yn y gwaith o gydlynu llawdriniaeth trawma brys yn unol â'r rhestr o gleifion trawma sy'n aros am lawdriniaeth, argaeledd cyfarpar, amser llawfeddygol, ac ati.

Hwyluso a chefnogi diwylliant sy’n deall ac yn diwallu anghenion arbenigol a chymhleth cleifion trawma, gan sicrhau bod y targedau perfformiad, megis hyd arosiadau byrrach, yn cael eu cyflawni. 

Hwyluso proses effeithiol o gydgysylltu llwybrau cleifion trwy gydweithio â gwasanaethau perthnasol i sicrhau gofal amserol, priodol a diogel. 

Cyflymu proses ymyriadau clinigol ar gyfer pob claf trawma, a chyflawni’r safonau clinigol fel y’u nodir yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Dorri Cluniau (NHFD).

Darparu addysg a hyfforddiant i staff sy’n gweithio mewn lleoliad Trawma, gan gynnwys timau nyrsio, myfyrwyr (nyrsio a meddygol), timau therapïau, a gwasanaethau cymunedol yn ôl y gofyn.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol;
  •  43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais. 

Cyfweliadau i'w cynnal ar 17/09/2026

Gallwch ddod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm wrth y dogfennau ategol, neu cliciwch ar "Apply now" i'w gweld yn Trac.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Gofrestredig
  • Gradd Berthnasol
  • Gradd Meistr berthnasol, neu brofiad cyfatebol, a pharodrwydd i weithio tuag at hynny
  • Tystiolaeth o gyrsiau neu gymwysterau arbenigol Trawma/Orthopedeg
  • Dealltwriaeth o Lwybrau Trawma ledled y Bwrdd Iechyd a Rhwydwaith Trawma De Cymru
  • Dealltwriaeth o'r safonau clinigol y manylir arnynt yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Dorri Cluniau (NHFD)
  • Dealltwriaeth o'r Cofrestr Cynghreir Cenedlaethol
Meini prawf dymunol
  • Presgripsiynydd Anfeddygol neu'n barod i ymgymryd â'r cymhwyster
  • Tystiolaeth o lefel uwch o ddatblygu ymarfer yn eich maes arbenigol
  • Sgiliau clinigol ychwanegol megis tynnu gwaed, gosod canwlâu, gorchuddio clwyfau cymhleth
  • Cwrs Goruchwyliaeth Glinigol
  • Tystiolaeth o astudiaethau neu ymchwil yn y maes hwn
  • Cymhwyster mewn Arweinyddiath a Rheolaeth
  • Cymhwyster gwella ansawdd

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn rôl arweinydd ar lefel Band 6 neu uwch
  • Profiad helaeth blaenorol o weithio ym maes arbenigol Trawma
  • Tystiolaeth o ddysgu staff iau
  • Profiad o gefnogi myfyrwyr nyrsio cyn cofrestru
  • Profiad amlwg o wneud penderfyniadau cymhleth
  • Profiad o arwain a rheoli
  • Profiad sylweddol lle bu angen rhywfaint o waith annibynnol
  • Profiad o weithio amlbroffesiynol
  • Cyflwyno gwybodaeth a data mewn cyfarfodydd adrannol ac yng nghyfarfodydd y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Dorri Cluniau
  • Cefnogi'r Arweinwyr Clinigol ar gyfer y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Dorri Cluniau o ran casglu data a dilysu ac archwilio'r data hynny
  • Cefnogi'r Uwch-reolwr Nyrsio ag ymchwiliadau i ddigwyddiadau clinigol
  • Profiad o arwain/cyflogi gwella gwasanaeth
Meini prawf dymunol
  • Profiad o reoli pobl
  • Cymhwyster dysgu ac addysgu/brofiad cyfatebol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Donna Major
Teitl y swydd
Senior Nurse Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 229740
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg