Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Adnoddau Dynol
Gradd
Gradd 5
Contract
10 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 08/06/2027 oherwydd secondiad)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Yn gallu ystyried o leiaf 30 awr)
Cyfeirnod y swydd
100-AC242-0826
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
I'w gadarnhau – Ardal Sir Gaerfyrddin
Tref
Sir Gaerfyrddin
Cyflog
£32,557 - £39,631 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
Today at 23:59
Dyddiad y cyfweliad
23/09/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cynghorydd y Gweithlu

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/Secondiad am 10 mis tan 08/06/2027 oherwydd secondiad.

Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Mae'r swydd yn chwarae rhan hanfodol yn nhîm Gweithlu Gweithredol gan ddarparu cyngor ar y gweithlu gweithredol cyffredinol i reolwyr a staff, sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cefnogi. Mae'n ofynnol darparu cefnogaeth broffesiynol gyffredinol i'r gweithlu, o fewn cylch gwaith polisïau a gweithdrefnau, cyfraith cyflogaeth gyfredol ac arfer gorau cyffredinol.

Yn ogystal â hynny, cefnogi y Tîm Gweithlu a'r gwahanol rolau sy'n rhan ohono, gan gyfrannu at gyflawni amcanion yr Adran. Mae hwn yn gyfle delfrydol i ymuno â thîm cyfeillgar a chefnogol lle gallwch gymhwyso a datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Cymryd rhan weithredol, weithgar wrth weithio gyda rheolwyr ar draws yr holl wasanaethau i reoli absenoldeb salwch mewn modd rhagweithiol.  
  • Cefnogi Tîm y Gweithlu gyda disgyblu, Parchu a Datrys, unrhyw ymchwiliadau, achosion a gwrandawiadau eraill.
  • Gan roi cyngor a chymorth i reolwyr llinell o fewn cylch gorchwyl polisi a chyfraith cyflogaeth y Bwrdd Iechyd.
  • Cynghori ar gontractau cyflogaeth, hawliau a thelerau ac amodau cenedlaethol a lleol y GIG.
  • Meithrin arbenigedd mewn cyfraith cyflogaeth ac arfer gorau ym maes adnoddau dynol.
  • Cefnogi y Gweithlu gyda gwaith prosiect penodol fel y mae'n codi o bryd i'w gilydd, yn cynnwys materion ynghylch mentrau/prosiectau cenedlaethol a allai ei gwneud yn ofynnol cynrychioli'r Bwrdd Iechyd gyda chyrff allanol.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 23/09/2026.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Yn gymwysedig hyd at lefel 5 y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad (CIPD) neu barodrwydd i astudio tuag at hynny
  • Gradd meistr neu brofiad cyfatebol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Gwybodaeth gyfredol am gyfraith cyflogaeth
  • Sgiliau TG amlwg, sy'n cynnwys cyfres cymwysiadau Microsoft
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o Delerau ac Amodau'r GIG, gan gynnwys yr Agenda ar gyfer Newid

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio ym maes Adnoddau Dynol neu mewn maes gwaith tebyg
  • Profiad o gynghori/gefnogi neu reoli mewn perthynasag absenoldeb oherwydd salwch
  • Profiad o ddarparu cymorth yn achos materion cysylltiadau gweithwyr yn y gweithle
  • Profiad o gynghori ar bolisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol, ynghyd â Thelerau ac Amodau
  • Profiad o feithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol â rheolwyr a chyd-weithwyr
Meini prawf dymunol
  • Profiad o reoli newid sefydliadol a chynghori ar ymgyngoriadau staff
  • Profiad o weithio mewn partneriaeth ag undebau llafur mewn amgylchedd Undebol

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Parodrwydd i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg yn y rôl
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
James Bennett
Teitl y swydd
Senior Workforce Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg