Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyllid
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 043-AC149-0826
- Cyflogwr
- GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Nantgarw HQ
- Tref
- Caredydd
- Cyflog
- £40,559 - £48,841 y flywddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 30/08/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Cyfrifydd Rheoli
Gradd 6
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Cliciwch yma am nesges gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr
Cliciwch yma i ddarganfod beth yw barn ein staff am PCGC
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
M ae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Cyllid PCGC fel Cyfrifydd Rheoli. Bydd y swydd, a fydd yn rhoi ystod eang o brofiadau i chi ym maes rheolaeth ariannol ar draws PCGC, Mae’r swydd yn hyblyg ac yn eich galluogi i weithio o gatref neu o’r swyddfa sydd wedi’i lleoli ym Mharc Nantgarw.
Mae'r rôl yn gofyn am unigolyn ymroddedig, gweithgar sydd â phrofiad ariannol a sgiliau analytig sy'n gweithio'n dda fel rhan o dîm ac sy'n gallu gweithio i derfynau amser llym.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae’r un croeso i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r swydd hon yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor cynhwysfawr mewn perthynas â rheolaeth ariannol i reolwyr ar bob lefel. Mae elfennau allweddol y swydd yn cynnwys cynhyrchu sefyllfa ariannol fisol gywir, gwaith costio blynyddol ac ad hoc, a chefnogi deiliaid cyllidebau gyda phob mater ariannol.
Gweithio i'n sefydliad
Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.
Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei cymell gan welliant parhaus.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.
Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb. I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/
Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad y Swydd a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld ar Trac
Manyleb y person
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio pan fo angen
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at CCAB rhannol gymwysedig (lefel diploma broffesiynol mewn cyfrifyddiaeth) neu brofiad cyfatebol
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Gwybodaeth a phrofiad arbenigol o weithdrefnau ariannol a gweithdrefnau cyfrifyddu
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster llawn y CCAB
- Gwybodaeth a phrofiad o agweddau ariannol ar ddeddfwriaeth y GIG a pholisïau cyllid y GIG
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn Adran Gyllid gan ddefnyddio systemau ariannol
- Profiad o reolaeth ariannol a chynllunio busnes ac ariannol
- Goruchwylio prosesau gwaith ynghyd â phrosesau gwaith staff is eraill
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddefnyddio Oracle Financials a Qlikview
Aptitude and Abilities
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a chyflwyno da
- Sgiliau dadansoddi, dehongli a chymharu
- Y gallu i weithio'n annibynnol a’r un mor effeithiol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol
- Gallu amlwg i weithio ar sawl tasg gymhleth ar yr un pryd a chynhyrchu gwaith o ansawdd uchel o fewn terfynau amser tynn ac o fewn cyfyngiadau adnoddau
- Yn hyddysg mewn TG gyda sgiliau cyfrifiadurol ymarferol yn ymwneud â chynhyrchion Microsoft
- Y gallu i weithio dan bwysau
- Angen canolbwyntio dwys dros gyfnod hir o amser
- Y gallu i weithio'n hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ag ystod eang o staff a rheolwyr proffesiynol ar bob lefel, oddi mewn ac oddi allan i’r sefydliad
Meini prawf dymunol
- Y gallu i ddefnyddio Microsoft Access a PowerPoint
- Ysgrifennu adroddiadau gan ddefnyddio meddalwedd
- Uwch sgiliau Excel
Values & Personal Attributes
Meini prawf hanfodol
- Hynod ymroddgar a hunanysgogol, gyda safonau proffesiynol uchel
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dana Purnell
- Teitl y swydd
- Assistant Finance Business Partner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector












