Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Arbenigedd Cynradd, Tim Ardal Ganolog
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 32.25 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-NMR486-0826
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Sir Ddinbych CRT
Tref
Ddinbych
Cyflog
£32,557 - £39,631 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/08/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Nyrs Staff Cymuned

Gradd 5

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Sylwer: Bydd y swydd hon wedi'i lleoli yng Nghlinig Prestatyn oherwydd darpariaeth gofal DNSPQ.

 

'Sylwch ar gyfer myfyrwyr Cymru, rhaid i chi wneud cais trwy Symleiddio lle gellir dod o hyd i’r holl swyddi sydd ar gael.' 

A ydych chi’n nyrs gofrestredig brofiadol â gweledigaeth, cymhelliant a brwdfrydedd diddiwedd? A ydych chi’n ffynnu o gael newid a her? Yna, dewch i ymuno â’n Gwasanaeth Nyrsio Ardal sy’n ddeinamig, yn rhagweithiol ac yn flaengar gydag ymrwymiad i wneud gwahaniaeth i’n cleifion. Credwn mewn cyfleoedd datblygu a hyfforddi i’n staff ac felly, rydym yn awyddus ar hyn o bryd i recriwtio Nyrsys Cymunedol Band 5 llawn cymhelliant ac angerdd sy’n dymuno datblygu a gweithio tuag at un o’r rolau canlynol:

  • Nyrs Ardal Band 6 trwy ymgymryd â’r Cymhwyster i Nyrsys Ardal.
  • Ymarferwyr Nyrsio trwy fabwysiadu ymagwedd fodiwlaidd er mwyn ennill y sgiliau clinigol sydd eu hangen.

Mae croeso i ymgeiswyr sydd â diddordeb gysylltu â'r adran i gael trafodaeth anffurfiol ynglŷn â gofynion y swyddi.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog ynghyd â’r gallu i roi gofal sy’n glinigol effeithiol yn y Tîm Nyrsio Ardal. Mae Uwch Adran Ganolog Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn darparu Gwasanaethau Nyrsio Ardal ar draws Conwy a Sir Ddinbych gan weithio mewn ffordd integredig â sefydliadau partner i roi gofal o ansawdd uchel wedi’i seilio ar dystiolaeth er mwyn i gleifion gael aros yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain, gan osgoi gorfod derbyn cleifion i’r ysbyty, gan rymuso’r claf o ran hunanreoli a rhoi triniaeth a gofal di-dor sy’n canolbwyntio ar gleifion ar waith.

Rhaid gallu teithio rhwng cartrefi cleifion o fewn trefi ac ardaloedd gwledig mewn modd amserol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs gofrestredig neu o fewn 2 fis o derbyn PIN.
  • Gwybodaeth o Ofal Cychwynnol.
Meini prawf dymunol
  • Gweithio tuag at ddiploma neu radd. Profiad o weithio yn y gymuned

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol Sgiliau dadansoddi critigol.
  • Gallu cynnal safonau gofal uchel
  • Gallu clinigol
Meini prawf dymunol
  • Agwedd hyblyg at waith

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o hyfforddiant proffesiynol parhaus
  • Gwybodaeth o godau ymddygiad proffesiynol.
  • Gwybodaeth eang o sgiliau a galluoedd nyrsio cymuned perthnasol.
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a’r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Arall Gweithio oriau anghymdeithasol Gallu teithio i gartrefi cleifion mewn modd amserol Siaradwr Cymraeg Gwirio dogfennau Gwirio CRB Geirda.
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kelly Clewett
Teitl y swydd
Team Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 855400
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg