Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Sgrinio Clyw Babanod
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol: Wedi'u contractio i weithio 3 shifft bore Sadwrn ym mhob 12 (rota cylchdroi 12 wythnos)
- Oriau
- Rhan-amser - 29.5 awr yr wythnos (3 shifft bore Sadwrn ym mhob 12 (rota cylchdroi 12 wythnos))
- Cyfeirnod y swydd
- 028-ACS029-0826
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Athrofaol Y Faenor
- Tref
- Cwmbrân
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/09/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 21/09/2026
Teitl cyflogwr
Sgrinio Clyw Babanod
Gradd 3
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn ac Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Nodyn Pwysig ar gyfer swyddi a gaiff eu cynnig ar sail tymor penodol neu secondiad.
Gall unigolion sydd â swydd barhaol (sylfaenol) yn y GIG ond gael eu penodi drwy secondiad. Bydd angen i’ch Rheolwr llinell presennol roi cymeradwyaeth ar gyfer secondiad cyn gellir cyflwyno cais.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi codi i weithio yn Rhanbarath De-ddwyrain Cymru i Sgrinio Clyw Babanod Cymru, rhaglen Cymru gyfan sy'n darparu gwasanaeth unffurf o ansawdd uchel o fewn polisïau Cymru gyfan ac yn unol â safonau a phrotocolau Cymru gyfan.
Byddwch wedi eich lleoli yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor ac yn gweithio'n rhan o dîm sy'n ymgymryd â’r gwaith o sgrinio clyw babanod newydd. Byddwch yn ymgymryd â'r ystod lawn o ddyletswyddau sgrinio clyw babanod, mewn lleoliadau ysbyty a lleoliadau cymunedol.
Mae'r swydd hon yn swydd 29.5 awr yr wythnos. Bydd gofyn i chi weithio'n llawn amser yn ystod y cyfnod hyfforddi cychwynnol o dair wythnos. Byddwch yn gweithio yn ôl rota benodol sy'n cynnwys tair shifft bore Sadwrn bob 12 wythnos. Gellir darparu copi o'r rota ar gais i sicrhau eich bod yn gallu ymrwymo i'r trefniadau gweithio hyn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae’r dyletswyddau'n cynnwys cyfathrebu â rhieni drwy gydol y broses, ymdrin â babanod, defnyddio offer sgrinio, a chofnodi'n gywir ddata clinigol a data ynglŷn â phrofion sy'n berthnasol i'r broses sgrinio, felly mae sgiliau cyfathrebu da a phrofiad o ddefnyddio cyfrifiadur yn hanfodol. Rhaid i chi fod yn unigolyn hyderus a dibynadwy, a meddu ar y gallu i weithio'n dda o dan bwysau.
Er y bydd y safle canolog yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor, bydd gofyn i chi hefyd weithio sifftiau yn Ysbyty Prifysgol Cymru yn ogystal â safleoedd ysbytai eraill yn Ne-ddwyrain Cymru yn rheolaidd a rhedeg clinigau yn y gymuned. Felly, bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio rhwng a gweithio mewn safleoedd eraill yn yr Is-adran yn rheolaidd yn ôl yr angen.
Mae gofyniad gorfodol i ymgymryd â Dysgu Achrededig Lefel 3. Ar ôl cwblhau hyn ac yn amodol ar fodloni'r holl feini prawf, byddwch yn parhau yn eich rôl swydd ar gontract parhaol gyda PHW ar y raddfa gyflog ddynodedig.
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – yr asiantaeth iechyd y cyhoedd genedlaethol yng Nghymru. Ein pwrpas yw ‘Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Gyda'n partneriaid, rydym yn gweithio i gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae ein timau'n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd y cyhoedd. Ni yw prif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mewn byd sy'n wynebu heriau iechyd cymhleth, nid yw ein gwaith erioed wedi bod mor bwysig.
Rydym yn cael ein harwain gan ein Gwerthoedd, 'Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle cynhwysol sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac sy'n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser a rhannu swyddi.
I gael gwybod rhagor am weithio i ni a’r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at safon TGAU neu brofiad cyfatebol (gan gynnwys gradd A-C TGAU mewn Saesneg Iaith); neu gymhwyster cyfatebol.
Meini prawf dymunol
- ECDL neu gymhwyster sgiliau cyfrifiadurol arall
- • Tystiolaeth o DPP diweddar
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad a hyder wrth ddefnyddio cyfrifiadur ar gyfer mewnbynnu data.
- Profiad o weithio mewn rôl sy'n wynebu cwsmeriaid/cleientiaid.
- Yn hyderus wrth ddilyn protocolau (e.e. cyflawni sgrinio, canfod namau ar offer).
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda phlant a theuluoedd
- Profiad o weithio yn y GIG
- Profiad o systemau gweinyddol/clerigol
- Profiad o gefnogi hyfforddiant cydweithwyr eraill
- Profiad o batrymau gwaith ward ôl-enedigol/Uned Gofal Arbennig Babanod mewn ysbytai lleol eraill
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ar gyfer cyfathrebu â rhieni mewn cyfnodau sensitif
- • Yn gallu cynnal gwiriadau offer arferol
- Yn gallu gweithio o fewn tîm ond y gallu hefyd i sgrinio'n annibynnol yn yr ysbyty ac yn y gymuned
- Yn gallu deall canlyniad sgrinio a chynlluniau rheoli
- Cydsymud llaw a llygad rhagorol a medrusrwydd llaw
- Mewnbwn data cywir. Yn gallu cadw cofnodion cywir
- Yn gallu gweithredu fel mentor i eraill
- Yn gallu teithio rhwng safleoedd lleol Sgrinio Clyw Babanod Cymru
- Hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth. Wedi ymrwymo i ansawdd. Dibynadwy. Yn gallu dysgu o brofiad
- Yn gallu dangos dealltwriaeth a chymhwysiad o werthoedd ein gweithle
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o amgylchedd ward glinigol
- Ymwybyddiaeth o fyddardod . Gwybodaeth am broblemau clyw
- Sgiliau Iaith Gymraeg ar lefel 1
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Alison Wood
- Teitl y swydd
- Assistant Newborn Screening Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01633 234071
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Annette Dimond Ebost: [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector











