Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- ysbytai cymunedol
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 20 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC420-0826W
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Eryri
- Tref
- Caernarfon
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/09/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Clerc Ward
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r gallu I siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Mae clerc y ward yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau’r dderbynfa i’r ward ac am ddarparu gofal cwsmer o safon uchel i ystod eang o grwpiau.
Rhaid i glerc y ward chwarae rôl ragweithiol yn y gwaith o gasglu, ymchwilio, dilysu a chofnodi data demograffeg a thriniaeth cleifion o safon uchel. Rhaid mewnbynnu gwybodaeth o’r fath yn gywir ar y system gwybodaeth am gleifion.
Mae'n rhaid i ddeiliad y swydd ymgymryd â gwaith blaengynllunio effeithiol i sicrhau bod gofynion gweinyddol y gwasanaeth yn cael eu bodloni, ac mae'n rhaid cynnal ystod o brosesau gweinyddol effeithiol i gefnogi’r gwaith o ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Nid rôl glinigol ydy hon, ond disgwylir i ddeiliad y swydd weithio fel rhan
o’r tîm amlddisgyblaethol ehangach i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal
gorau posibl.
Darparu gwasanaethau’r dderbynfa mewn ffordd broffesiynol,
gymwynasgar a chwrtais i gleifion neu berthnasau sy’n cyrraedd y ward,
gan groesawu pob ymwelydd a chyfeirio fel y bo’n briodol.
Gallu defnyddio barn a chrebwyll i ddelio â sefyllfaoedd anodd ac
aelodau’r teulu / gofalwyr pryderus gan ddefnyddio empathi, doethineb a diplomyddiaeth.
Ateb y ffôn a chymryd negeseuon mewn ffordd broffesiynol,
gymwynasgar a chwrtais, gan ateb neu gyfeirio ymholiadau fel y bo’n
briodol.
Darparu cymorth gweinyddol cyffredinol o ansawdd uchel a chyfrinachol
i'r ward, yn enwedig i gefnogi Rheolwr y Ward gyda thasgau fel teipio
adroddiadau, cofnodi data, cadw cofnodion mewn cyfarfodydd aml
broffesiynol yn ogystal â chyfarfodydd ward a chofnodi data fel bo angen.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person trwy glicio ar 'cychwyn cais' ar yr hysbyseb hon
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- BA NVQ lefel 3 neu brofiad cymwerth
- Gwybodaeth a dealltwriaeth am weithdrefnau a systemau clercyddol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad perthnasol o ddarparu gwasanaeth clerigol/gweinyddol cynhwysfawr
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio o fewn y GIG neu mewn lleoliad gofal iechyd
Skills
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu gwych
- Gallu blaenoriaethu llwyth gwaith
- Gallu defnyddio crebwyll a menter i ddelio â sefyllfaoedd anodd / sensitif
- Gallu siariad Cymraeg lefel 3
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Gallu amldasgio
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Joanne Jones
- Teitl y swydd
- Community Services Manager - West
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000852293
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
