Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Anabledd Dysgu Plant
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- 12 mis (Cyfnod Penodol)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (N/A)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR540-0926W
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Bron Hendre
- Tref
- Caernarfon
- Cyflog
- £40,559 - £48,841 yn flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 20/09/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Uwch Nyrs Anabledd Dysgu Plant yn y Gymuned
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Mae’r swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 12 mins oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y tîm Nyrsio Derwen, Tîm integredig Plant anabl, Gwynedd , ar gyfer nyrs brofiadol, frwdfrydig sydd wedi cofrestru gyda’r NMC.
I Gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol â staff o asiantaethau eraill i hyrwyddo a chynnal safonau gofal uchel i blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu ac anghenion cymhleth. Bydd hyn yn cynnwys asesu datblygiad / anghenion iechyd cysylltiedig, cynllunio, gweithredu a gwerthuso rhaglenni gofal priodol a phan fo'n briodol, darparu asesiadau ac ymyriadau mwy arbenigol. Bydd gwaith o'r fath yn cael ei danategu gan egwyddorion bywyd cyffredin ac arferion yn seiliedig ar dystiolaeth. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd weithio â phlant, eu teuluoedd, gofalwyr, timau staff a gweithwyr proffesiynol eraill mewn amrywiaeth o leoliadau yn y gymuned. Hefyd, bydd deilydd y swydd yn rheoli a goruchwylio cydweithwyr iau a chymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau datblygu gwasanaeth yn y tîm.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Cymryd cyfrifoldeb am gyfeiriadau a ddyrennir, o'r ffynhonnell i'w rhyddhau yn unol â phrotocolau y cytunwyd arnynt a dogfennaeth, yn cynnwys helpu'r Seicolegydd Clinigol i roi diagnosis o Anabledd Dysgu ac asesu cymhwyster. Gallai hyn gynnwys dehongli gwybodaeth asesu gwybyddol cymhleth neu gynnal asesiadau gan ddangos lefelau swyddogaeth
- Cynnal apwyntiadau "dewis" cychwynnol (neu gyfwerth) gyda gofalwyr i gytuno ar argaeledd y gwasanaeth i fodloni anghenion plant a chytuno ar amcanion sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i weithio tuag atynt.
- Gwneud asesiad cychwynnol o les corfforol, seicolegol a chymdeithasol er mwyn dynodi anghenion y plentyn ac anghenion iechyd cysylltiedig yn gywi
- Cynnal yr asesiad hwn yn defnyddio pecynnau'n seiliedig ar dystiolaeth a phan fo'n briodol, darparu asesiadau arbenigol mwy manwl o feysydd anhawster mwy penodol fel anawsterau ymddygiad yn defnyddio pecynnau asesu, graddfeydd, casglu a dehongli data megis cofnodion ABC. Yna, bydd deilydd y swydd yn casglu gwybodaeth i fformiwleiddiad cydlynol o'r problemau fel bod cynlluniau /rhaglenni yn gallu cael eu datblygu i ymdrin â'r problemau.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person wedi'u hatodi o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Anableddau Dysgu Cofrestredig y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth neu nyrs gofrestredig sydd â phrofiad ôl-gofrestru perthnasol
- Diploma ôl-radd / ôl-gofrestru (neu lefel gyfwerth o astudiaeth mewn meysydd arbenigol o’r gwasanaeth anableddau dysgu).
Meini prawf dymunol
- Unrhyw hyfforddiant ffurfiol perthnasol ychwanegol ym maes anableddau plant
PROFIAD
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestru sylweddol, mewn rôl berthnasol
- Rheoli staff cymorth
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda phlant ag anableddau a'u gofalwyr / teuluoedd
Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o amrediad, natur ac effaith anableddau dysgu a chyflyrau cysylltiedig
- Dealltwriaeth a gwybodaeth gynhwysfawr o anghenion iechyd sy’n aml yn gysylltiedig ee epilepsi, awtistiaeth, syndromau a’u heffeithiau ar iechyd ac ati
- Dealltwriaeth o theori ymddygiadol a’r defnydd ohono
- Dealltwriaeth o ddatblygiad plant
- Gwybodaeth dda o ymchwil / llenyddiaeth ymyrryd sy’n glinigol effeithiol
- Gwybodaeth drylwyr o weithdrefnau amddiffyn plant a thechnegau rheoli / ymgysylltu plant sy’n cyd-fynd â’r rhain ee canmol, ailgyfeirio
- Dealltwriaeth gadarn o llywodraethú clinigol, archwilio a phwysigrwydd ymchwil a datblygu
- Gwybodaeth am y broses Gofal Iechyd Parhaus a sut mae’n cael ei defnyddio
- Gwybodaeth am Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a rôl y cydlynydd gofal o dan y mesur hwn
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth fanwl o faes sy’n gyffredin i wasanaethau anableddau dysgu ee epilepsi, anawsterau dysgu dwys a lluosog, egwyddorion Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol
RHINWEDDAU PERSONOL
Meini prawf hanfodol
- Dull brwdfrydig at gyfrannu at ddarpariaeth y gwasanaeth
- Sgiliau arsylwi ac adrodd da o ran nodi ffactorau perthnasol wrth asesu
- Gallu cyfathrebu’n effeithiol gyda phobl o amrywiaeth eang o ddiwylliannau a galluoedd
- Gallu gweithio’n annibynnol, gan wneud penderfyniadau clinigol o fewn ei faes cymhwysedd ei hun
- Gallu gweithio’n dda gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol
SGILIAU
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio ar y cyd mewn lleoliadau tîm
- Gallu gweithio ar y cyd â chydweithwyr o ystod o leoliadau/asiantaethau gwasanaeth
- Sgiliau trafod rhyngbersonol a chyfathrebu effeithiol datblygedig iawn
- Gallu gweithio'n annibynnol o fewn y polisiau a phrotocolau a ddefnyddir yn yr adran a chanllawiau sy'n ymwneud ag arferion nyrsio
- Gallu rheoli amser yn effeithiol, blaenoriaethu llwyth gwaith yn unol ag angen clinigol
- Gallu cynnal Asesiad o Weithgareddau Bywyd Bob Dydd, a dynodi anghenion yn briodol gan gynnwys rhai cymhleth iawn
- Gallu cynllunio ymyriadau i ddiwallu anghenion yn effeithiol, gan gynnwys mewn achosion pan fo’r sylfaen dystiolaeth wedi’i chyfyngu neu’n gwrthddweud ei gilydd
- Gallu addysgu rhieni / gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill sut i ymyrryd, gan gynnwys mewn amgylchiadau lle mae cymhelliant yn isel ac amheuaeth yn uchel
- Gallu darparu cyngor a chefnogaeth o ran gwybodaeth a chyfarwyddiadau ar reoli anawsterau drwy ddadansoddi gwybodaeth yn gyflym ac yn gywir
- Gallu gwneud penderfyniadau ynglŷn â lleoliadau a’u gallu i ddiwallu anghenion iechyd penodol unigolion.
OTHER RELEVANT REQUIREMENTS
Meini prawf hanfodol
- Gallu teithio o fewn ardal ddaearyddol dalgylch y gwasanaeth er mwyn cyflawni dyletswyddau’r rôl
- Gallu defnyddio cyfrifiaduron
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Tania White
- Teitl y swydd
- Team Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 840 967
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Natalie Woodworth
Service Manager
03000851641
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector







.png)
