Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Maetheg a Deieteg
Gradd
Gradd 7
Contract
18 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 31.03.2028)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
37.5 awr yr wythnos (Bydd oriau llawn amser ond rhan-amser yn cael eu hystyried)
Cyfeirnod y swydd
100-AHP080-0826
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ar draws y Bwrdd Iechyd
Tref
Ar draws y Bwrdd Iechyd
Cyflog
£50,129 - £57,365 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
10/09/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
22/09/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Deietegydd Arweiniol Clinigol — Diabetes Math 2

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 31.03.2028.  Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Ydych chi’n ddeietegydd brwdfrydig a llawn cymhelliant sy’n meddu ar sgiliau arbenigol ym maes Deieteg Diabetes? Ydych chi’n frwd ynghylch helpu unigolion sydd â Diabetes Math 2 i leddfu’r clefyd trwy ddulliau deietegol a ffordd o fyw seiliedig ar dystiolaeth?  

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i ymuno â thîm deieteteg dynamig sefydledig Hywel Dda, sydd â phroffil uchel yn y tîm therapïau ehangach ac ar draws y Bwrdd Iechyd. Rydym yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus, arfarnu a goruchwyliaeth yn llawn, ac yn galluogi hyn yn weithredol trwy gynnal sesiynau gwarchodedig mewn cynlluniau swyddi unigol. 

Mae hon yn rôl allweddol ar gyfer arweinydd ym maes Lleddfu Math 2: Deieteg Diabetes, sy’n cynnwys cyfrifoldebau clinigol ac arweinyddiaeth. Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i rywun sy’n frwd dros wella canlyniadau ledled Hywel Dda ac sy’n ymrwymedig i ddatblygu a dysgu. Byddwch yn cael y cyfle i fod yn rhan werthfawr o’r gwasanaeth 
diabetes cyfeillgar a chefnogol ar draws y Bwrdd Iechyd.

Os oes gennych rôl ddeietegol ym maes diabetes eisoes a'ch bod yn barod i ystyried rhagor o gyfrifoldeb a gwybodaeth yn y maes arbenigol hwn, cysylltwch â Laura Jones – Arweinydd y Gwasanaeth Deieteteg Diabetes i drafod a darganfod mwy. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn gwneud y canlynol: 

  • Darparu lefel arbenigol o Ddeieteg Diabetes clinigol, gan reoli llwyth achosion cymhleth o gleifion â Diabetes, a chan ganolbwyntio ar yr unigolion hynny sy’n ceisio lleddfu eu diabetes math 2.
  • Rheoli llwyth achosion diabetes, gan lywio gofal amlddisgyblaethol (yn cynnwys gofal sylfaenol) a darparu cymorth arbenigol a goruchwyliaeth glinigol ar gyfer deietegwyr/gweithwyr cymorth/myfyrwyr/gweinyddwyr ledled y Bwrdd Iechyd.
  • Arwain yn glinigol y gwaith o ddatblygu, gweithredu, darparu a gwerthuso arferion gorau mewn perthynas â deieteg diabetes math 2 oedolion ledled y Bwrdd Iechyd.
  • Gweithio fel aelod annatod o'r tîm arwain diabetes oedolion amlbroffesiynol, gan ysgogi gofal maethol rhagorol trwy ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'u darparu mewn dull di-dor, o hybu'r gwasanaeth, recriwtio defnyddwyr y gwasanaeth, a gwerthuso’r ymyriadau.
  • Arwain yn glinigol y gwaith o ddatblygu a darparu addysg a hyfforddiant mewn perthynas â diabetes, gan weithio ar draws llwyfannau amlbroffesiynol a thimau amlddisgyblaethol i gefnogi gofal diabetes sydd mor effeithiol â phosibl.
  • Bod yn rheolwr llinell tosturiol ac effeithiol i aelodau'r tîm deieteg diabetes.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Fideo recriwtio deieteg — https://youtu.be/VAbALXyMZ8Q  

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

·         Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd

·         Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro

·         Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall

·         47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref

·         Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 22/09/2026.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ynghyd â gradd mewn Deieteg
  • Astudiaeth ôl-raddedig achrededig sy'n berthnasol i ddiabetes hyd at lefel meistr neu gyfwerth
  • Wedi cwblhau hyfforddiant ar Sgiliau Goruchwylio Clinigol
  • Gwybodaeth glinigol uwch ym maes arbenigol Diabetes Math 2/Lleddfu Diabetes a deieteg a gafwyd trwy hyfforddiant arbenigol neu brofiad clinigol cyfatebol, e.e. y rhaglen Counterweight-Plus
  • Yr wybodaeth a'r gallu i gymhwyso methodoleg seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi gwelliant a darparu gwasanaethau
  • Gwybodaeth arbenigol am ganllawiau a pholisïau clinigol perthnasol i'r maes arbenigo
Meini prawf dymunol
  • Wedi cwblhau hyfforddiant ffurfiol ar gyf-weld ysgogol
  • Statws presgripsiynydd atodol
  • Hyfforddwyd i ddarparu rhaglenni Lleddfu Diabetes cydnabyddedig megis Counterweight-Plus
  • Cymwysterau proffesiynol, technegol neu academaidd eraill sy'n ymwneud â Diabetes Math 2, e.e. X-PERT/X-PERT Insulin

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad eang, sefydledig o ymarfer Deieteg yn y GIG neu mewn lleoliadau gofal iechyd tebyg, gan gynnwys gofal sylfaenol
  • Profiad helaeth o ddarparu deieteg glinigol ym maes Deieteg Diabetes Math 2
  • Profiad o arweinyddiaeth glinigol.
  • Gwaith amlbroffesiynol helaeth yn y GIG neu mewn lleoliad gofal iechyd cyfatebol, gan gynnwys gofal sylfaenol
  • Darparu goruchwyliaeth glinigol
  • Dirprwyo i aelodau tîm cymwys a heb gymhwyso.
  • Profiad sylweddol o arwain gwaith tîm amlbroffesiynol ac amlddisgyblaetho
  • Arwain prosiectau/gwella ansawdd/gwaith datblygu, gyda chanlyniadau amlwg, ochr yn ochr â'r gallu i werthuso canlyniadau clinigol a phrofiadau cleifion i ddangos gwerth
  • Ymgysylltiad â hyfforddiant myfyrwyr
  • Profiad o ddehongli tystiolaeth ar gyfer ymarfer clinigol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o reoli prosiectau
  • Profiad clinigol ychwanegol neu ym maes gofal iechyd
  • Profiad ym maes ymchwil/arwain prosiectau amlasiantaetho
  • Arwain prosesau gwella gwasanaethau/gwella ansawdd
  • Yn cymryd rhan weithredol mewn ffrwd waith genedlaethol, rhwydwaith proffesiynol neu grŵp arbenigol

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
  • Yn gallu teithio i ddarparu cymorth arbenigol/gwasanaeth cyflenwi ar draws safleoedd
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Laura Jones
Teitl y swydd
Dietetic Service Lead in Diabetes
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07969718239
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg