Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Administration
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC249-0826
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg,
Tref
Hwlffordd,
Cyflog
£26,813 - £27,890 Y flwyddyn Pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
16/09/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
29/09/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Swyddog Gweinyddol Tîm y Gweithlu a Safonau Proffesiynol Nyrsio

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae Tîm y Gweithlu a Safonau Proffesiynol Nyrsio yn chwilio am weinyddwr am 30 awr yr wythnos.

Yn rhan o nyrsio corfforaethol, byddwch yn darparu cymorth gweinyddol i’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio a’r Penaethiaid Nyrsio yn y tîm ac yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Cymorth Busnes. 

Mae gan Dîm y Gweithlu a Safonau Proffesiynol Nyrsio swyddfeydd yng Nghaerfyrddin a Hwlffordd, a byddwch yn gallu gweithio oriau hyblyg trwy gydol yr wythnos yn y naill leoliad neu’r llall. Bydd cyfle hefyd i rai o’r oriau hyn gael eu gweithio gartref. 

A chithau’n Swyddog Gweinyddol, byddwch yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi’r adran trwy ddarparu gwasanaeth gweinyddol ac ysgrifenyddol o safon. Gan weithio’n annibynnol ac yn rhan o dîm ehangach, byddwch yn helpu i sicrhau gweithrediad diffwdan o ddydd i ddydd, gan gynnal proffesiynoldeb a chyfrinachedd bob amser.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o systemau TG a phecynnau meddalwedd, gan gynnwys Microsoft Word, Excel a Teams, i gefnogi ystod o weithgareddau gweinyddol. Mae’r rôl hon yn cynnwys cyfathrebu â chyd-weithwyr ar draws tîm mawr sy’n cefnogi cynllunio, rheoleiddio, addysg a hyfforddiant y gweithlu nyrsio, felly mae sgiliau cyfathrebu a threfnu cryf yn hanfodol. 

Bydd eich dyletswyddau o ddydd i ddydd yn cynnwys trefnu cyfarfodydd ac apwyntiadau, helpu i drefnu digwyddiadau, cadw cofnodion a chronfeydd data cywir, a chefnogi cyfarfodydd trwy baratoi agendâu, cymryd cofnodion a monitro pwyntiau gweithredu. Byddwch hefyd yn cynorthwyo gyda gwaith gweinyddu swyddfa cyffredinol, gan gynnwys 
rheoli dogfennau, llungopïo ac archebu cyflenwadau trwy Oracle a systemau caffael eraill. 

Mae hon yn rôl amrywiol a gwerth chweil a fyddai’n addas i rywun sy’n drefnus, yn rhagweithiol, ac yn mwynhau darparu cymorth gweinyddol rhagorol mewn amgylchedd tîm prysur a chefnogol.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi ei staff i goleddu'r angen am ddwyieithrwydd yn llawn, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol lleiaf hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cynhelir y cyfweliadau ar  29/09/2026

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 (e.e. Safon Uwch, Safon UG, NVQ3) neu brofiad cyfatebol o sgiliau a gwybodaeth gweinyddol/swyddfa
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am Derminoleg Feddygol / Gofal Iechyd

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
  • Yn gyfarwydd ac yn gymwys â phecynnau TG Microsoft, yn enwedig Word, Excel a Powerpoin
  • Yn gyfarwydd a hyderus yn defnyddio ebost a phori'r rhyngrwyd
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn tîm amlddisgyblaethol.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
  • Siarad Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Catherine Thomas
Teitl y swydd
Business Support Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07974440473
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg