Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Therapi Galwedigaethol
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol: Mae opsiynau gweithio hyblyg ar gael, gan gynnwys oriau cywasgedig/pythefnos 9 diwrnod
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Bydd oriau llawn amser a rhan-amser yn cael eu hystyried)
Cyfeirnod y swydd
100-AHP053-0626-C
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£50,129 - £57,365 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/09/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
16/09/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Therapydd Galwedigaethol Arweiniol Clinigol – Meddygol

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Ymunwch â’n tîm Therapi Galwedigaethol yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin, yn rôl Arweinydd Clinigol ar gyfer y Gwasanaethau Meddygol ac Eiddilwch. Mae hwn yn gyfle gwych i Therapydd Galwedigaethol profiadol gyfuno ymarfer clinigol uwch ag arweinyddiaeth, gan ddylanwadu ar ddatblygiad gwasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion ar draws y llwybrau acíwt a chymunedol.

Byddwch yn gweithio gyda phobl sy’n profi amrywiaeth o gyflyrau, gan gynnwys salwch anadlol a chardiaidd, eiddilwch, ac anafiadau trawmatig i’r ymennydd, a hynny’n rhan o lwybr y rhwydwaith trawma. Gyda chefnogaeth tîm cyfeillgar a chydweithredol, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gofal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gan hyrwyddo dull “gartref yn gyntaf”.

A chithau’n Arweinydd Clinigol, byddwch yn darparu arweiniad a chymorth proffesiynol i dîm medrus o Therapyddion Galwedigaethol  Staff Cymorth Therapi Galwedigaethol. Ochr yn ochr â’ch profiad clinigol, byddwch yn cyfrannu at ddatblygu’r gwasanaeth, mentrau gwella ansawdd, llesiant y gweithlu, a datblygiad proffesiynol, gan helpu’r tîm i barhau i ddarparu gofal eithriadol.

Gan weithio’n agos gyda’r tîm amlddisgyblaethol ehangach, gwasanaethau gofal canolraddol, partneriaid cymunedol a’r trydydd sector, byddwch yn helpu i sicrhau bod cleifion yn cael y cymorth cywir, yn y lle cywir ar yr adeg gywir.

Prif ddyletswyddau'r swydd

A chithau’n Therapydd Galwedigaethol profiadol, byddwch yn cynnig cefndir clinigol cryf ym maes adsefydlu pobl hŷn, codi a chario cymhleth, a dealltwriaeth o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r gwasanaethau acíwt, gofal canolraddol a chymunedol.

Byddwch yn hyderus i weithio’n annibynnol gan hefyd ddarparu arweinyddiaeth glinigol a rheolaethol mewn amgylchedd amlddisgyblaethol cefnogol. Mae’r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • Darparu arweinyddiaeth glinigol, a chyngor a goruchwyliaeth arbenigol i Therapyddion Galwedigaethol, Ymarferwyr Cynorthwyol Therapïau, Cynorthwywyr Adsefydlu/Gweithwyr Cymorth Eiddilwch a myfyrwyr.
  • Cefnogi datblygiad y gwasanaeth a gwelliant parhaus trwy archwiliadau, mentrau effeithiolrwydd clinigol a gweithgarwch ymchwil.
  • Meithrin perthnasoedd cadarn â’r gwasanaethau acíwt a chymunedol a sefydliadau partner i helpu i ddarparu gofal ymatebol, di-dor ar draws llwybrau’r gwasanaeth.
  • Hyrwyddo rhagoriaeth mewn gofal cleifion trwy ymarfer seiliedig ar dystiolaeth, arloesi a datblygu tîm effeithiol.
  • Cefnogi llesiant staff, twf proffesiynol a datblygiad parhaus y gwasanaeth Therapi Galwedigaethol

Rydym yn chwilio am unigolyn blaengar a llawn cymhelliant sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, galluoedd cadarn o ran trefnu, ac ymrwymiad i ddarparu gofal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y claf.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Rydym yn ymrwymedig i gefnogi eich datblygiad proffesiynol a chynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau, ehangu eich arbenigedd a symud eich gyrfa ymlaen.

Cliciwch isod i weld sut brofiad yw gweithio gyda ni fel Therapydd Galwedigaethol!

Proffesiynau Perthynol i Iechyd – Therapydd Galwedigaethol - YouTube

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cydnabod y gallai ymuno â'n sefydliad olygu adleoli ac mae'n cynnig pecyn cymorth adleoli, yn amodol ar gymhwysedd a thelerau ac amodau. Gall hyn gynnwys cymorth ariannol tuag at gostau adleoli a chymorth i ymgartrefu yn yr ardal leol. Mae rhagor o fanylion ar gael ar gais a gellir eu trafod yn ystod y broses recriwtio.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 16/09/2026.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd/Diploma mewn Therapi Galwedigaethol
  • Cofrestriad proffesiynol fel y'i cydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd
  • Tystiolaeth o bresenoldeb ar gyrsiau byr perthnasol ac o ddilyn hyfforddiant uwch sy'n briodol i'r maes arbenigol, a hynny hyd at lefel Meistr neu lefel gyfatebol
Meini prawf dymunol
  • MSc a/neu ddiploma ôl-raddedig mewn maes perthnasol
  • Hyfforddiant ar Addysg Gwaith Maes
  • Aelod o BAOT
  • Hyfforddiant ar arwain

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ôl-raddedig helaeth
  • Rheoli llwyth achosion cymhleth
  • Darparu asesiadau/ymyriadau trwy lwyfannau rhithwir
  • Gwaith tîm rhyngbroffesiynol ac amlasiantaeth
  • Cysylltiad uniongyrchol â gofalwyr a theuluoedd
  • Trafod prosesau datblygu gwasanaethau
  • Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd gwasanaeth â gofynion llywodraethu clinigol
  • Trin therapiwtig ac asesiadau risg mewn perthynas â gofal cleifion, gan gynnwys cleifion ag anabledd difrifol
  • Profiad ym maes datblygu staff, e.e. goruchwyliaeth
  • Profiad o ddirprwyo a goruchwylio priodol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o oruchwylio myfyrwyr
  • Gweithiwr allweddol/Rheolwr Achosion
  • Rheoli pobl/goruchwylio staff
  • Trafod trefniadau gweithio amlddisgyblaeth
  • Arwain rhwydweithiau clinigol/grwpiau ymarfer clinigol
  • Arwain datblygiadau a newidiadau i wasanaethau

Sgiliau iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Carol-Anne Davies
Teitl y swydd
Service Lead Acute Occupational Therapy
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg