Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Iechyd meddwl
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Cyfnod Penodol: 30 mis (until 31.03.2029)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR631-1026
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Tim Adsefydlu'r Cymuned
- Tref
- Ddinbych
- Cyflog
- £40,559 - £48,841 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 29/10/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Adsefydlu Cymunedol
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd hon yn un tymor penodol tan 31.03.2029 oherwydd anghenion y gwasanaeth.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Rydym yn chwilio am Ymarferydd Cofrestredig brwdfrydig ac uchelgeisiol sydd am symud ymlaen i rôl Band 6 trwy gyfle datblygu tymor penodol. Fel rhan o dîm amlddisgyblaethol deinamig, byddwch yn cefnogi darpariaeth Gwasanaethau Adsefydlu Cymunedol o ansawdd uchel ar draws Gogledd Cymru o fewn yr Adran Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu. Mae'r swydd hon yn cynnig llwyfan ardderchog ar gyfer twf proffesiynol, gan alluogi'r ymgeisydd llwyddiannus i ddatblygu sgiliau arwain, cydlynu gofal ac adsefydlu arbenigol wrth weithio ochr yn ochr â chlinigwyr profiadol o fewn Gwasanaethau Gofal Comisiynu Arbenigol (SCS).
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae’r tîm wedi’i leoli yn ardal canalog Denbigh Bydd yr ymgeisydd a benodir yn dal llwyth achosion ac yn gweithredu fel cydlynydd Gofal o dan Fframwaith Mesurau Iechyd Meddwl (Cymru), yn darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar adsefydlu ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth o fewn unedau adsefydlu cleifion mewnol y GIG, lleoliadau y Tu Allan i’r Ardal megis ysbytai annibynnol, unedau diogelwch isel, lleoliadau arbenigol a hefyd yn y gymuned.
Nod y tîm yw rhoi ffocws ar ddychwelyd defnyddwyr gwasanaethau yn ôl i’w hardal gartref, a hefyd darparu adsefydlu cymunedol dwys i alluogi Defnyddwyr Gwasanaeth ag Anghenion Emosiynol Cymhleth a/neu Anghenion Adsefydlu Cymhleth i aros yn eu hardal leol.
Mae’r swydd hon yn agored i ymarferwyr cofrestredig profiadol fel Nyrsys Iechyd Meddwl a Gweithwyr Cymdeithasol sy’n bodloni gofynion y swydd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person i'w llenwi yn y llyfr ysgrifennu neu cliciwch “Gwneud Cais nawr” i'w weld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau, Gwybodaeth, Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
DD.P.P

Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Amy Clarke
- Teitl y swydd
- Team Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 856865
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Tracy Byrne, Service Manager, 03000 859234
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector

.png)