Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Additional Clinical Services
Gradd
Gradd 4
Contract
0 diwrnod (Banc)
Oriau
Gweithio hyblyg - 0 awr yr wythnos (Banc)
Cyfeirnod y swydd
130-ACS167-0926
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Singleton
Tref
Abertawe
Cyflog
£28,819 - £31,626 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
11/10/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe logo

Nyrs Faithryn sy'n Ymarferydd Cynorthwyol Mamolaeth/Newenedigol - Banc

Gradd 4

Croeso i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd: gofalu am ein gilydd, cydweithio a gwella drwy’r amser.


Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon ar ôl 24 os na dderbynnir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym felly’n hybu ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth ar y swydd hon.

Bydd staff sy’n bresennol yn aros am adleoliad yn cael eu hystyried yn gyntaf ac felly rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.


Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn y Saesneg.


 

Trosolwg o'r swydd

Ymunwch â'n Banc Staff Mamolaeth a Newyddenedigol

Rydym yn chwilio am Nyrsys Meithrin Ymarferydd Cynorthwyol brwdfrydig, tosturiol a medrus i ymuno â'n Tîm Banc Mamolaeth a Newyddenedigol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio'n hyblyg ar draws ein gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol wrth wneud gwahaniaeth ystyrlon i ofal a phrofiad babanod, rhieni a theuluoedd.

Fel rhan o'n gweithlu banc, byddwch yn cael y cyfle i weithio mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol, gan gefnogi babanod sydd angen gofal ôl-enedigol, pontio ac arbennig, wrth weithio ochr yn ochr â bydwragedd, nyrsys a thimau newyddenedigol profiadol. Byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu Gofal Integredig Teuluol diogel ac o ansawdd uchel a helpu rhieni i feithrin hyder wrth ofalu am eu babi.

Pam Ymuno â'n Banc?

  • Gweithio’n hyblyg a dewiswch sifftiau sy'n cyd-fynd â'ch ffordd o fyw a'ch ymrwymiadau.
  • Ennill profiad ar draws gwasanaethau amenedigol, gan ddatblygu ystod eang o sgiliau clinigol a chymorth i deuluoedd.
  • Byddwch yn rhan o dîm tosturiol sydd wedi ymrwymo i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob babi.
  • Cefnogi rhieni yn ystod rhai o’u profiadau mwyaf gwerth chweil, heriol a chofiadwy.
  • Mynediad at gyfleoedd i gynnal a datblygu eich cymwyseddau clinigol o fewn amgylchedd cefnogol.
  • Cyfrannu at weithlu sy'n cael ei gydnabod am ddarparu gofal o ansawdd uchel i fenywod, babanod a theuluoedd ledled Bae Abertawe.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gwybodaeth am y Rôl

Gan weithio o dan gyfarwyddyd staff nyrsio a bydwreigiaeth cofrestredig, byddwch yn darparu gofal a chymorth ymarferol i fabanod a'u teuluoedd, gan gynnwys:

  • Cefnogi bwydo babanod, gan gynnwys bwydo ar y fron a mynegi llaeth y fron.
  • Monitro a chofnodi arsylwadau a chydnabod newidiadau yng nghyflwr babi.
  • Cefnogi babanod sy'n derbyn triniaethau arbenigol fel therapi ocsigen, monitro glwcos yn y gwaed, mewnosod a bwydo tiwb nasogastrig a ffototherapi.
  • Darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i rieni a theuluoedd.
  • Cynorthwyo gyda derbyniadau, trosglwyddiadau a chynllunio rhyddhau.
  • Cyfrannu at amgylchedd croesawgar, diogel a gofalgar i fabanod a theuluoedd.

Am Bwy Rydyn ni'n Chwilio?

Rydym yn chwilio am unigolion gofalgar a brwdfrydig sydd:

  • Meddu ar gymhwyster Lefel 4 neu brofiad cyfatebol ar y lefel hon.
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd gofal iechyd neu ofal.
  • Dangos caredigrwydd, tosturi ac ymrwymiad i ofal integredig teuluol.
  • Cyfathrebu'n effeithiol ac yn sensitif â babanod, rhieni, teuluoedd a chydweithwyr.
  • Mwynhau gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol.
  • Yn gallu gweithio'n annibynnol o fewn eu cwmpas ymarfer gan gydnabod pryd i geisio cymorth.

Gwneud Gwahaniaeth Pan Mae'n Fwyaf Bwysig

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

 

Gweithio i'n sefydliad

Rydym yn credu mai'r staff yw ein hanest gorau a rydyn ni eisiau i chi fod yn hapus ac yn hyderus wrth ddechrau eich gyrfa yma yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Fel un o'r grwpiau gofal iechyd mwyaf yn y DU, gallwn gynnig cyfoeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol mewn sefydliad arloesol sy'n edrych ymlaen.

Efallai eich bod yn nyrs neu yn ddoctor, efallai eich bod yn arbenigo mewn gwyddoniaeth iechyd/therapi neu'n gallu cynnig sgiliau mewn un o'n gwasanaethau cymorth - mae swydd i chi.

Mae hefyd interniaethau, lleoliadau gwaith a rolau gwirfoddoli ar gael.

Rydym yn gyflogwr cynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan bawb beth bynnag yw eu rhyw; crefydd neu gred; hil; oedran; tueddiad rhywiol; hunaniaeth rhyw neu, a ydynt yn feichiog neu wedi bod ar wyliau mamolaeth yn ddiweddar, priod neu mewn partneriaeth sifil; neu, a ydynt yn anabl.

Ein gwerthoedd - Gofalu am ein Gilydd, Gweithio Gyda'n Gilydd ac Gwella Bob Tro, yn dangos bod ein hymrwymiad i gymdeithas gyfartal yn ganolog i bopeth a wnawn.

Os ydych chi eisiau cyfleoedd gyrfa ac hyfforddiant rhagorol tra'n byw ar gamdrws o rai o olygfeydd mwyaf anhygoel Ewrop, gyda phob manteision dinas fywiog a cosmopolitaidd - peidiwch â chymryd edrych ymhellach.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad mewn rol gofalu / lleodiad gofal iechyd
Meini prawf dymunol
  • Profiad o fewn gwasanaethau amenedigol

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 4 pridol neu brofiad perthnasol i’r lefel hon

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Yn deal y ffisioleg sylfaenol, e.e. arwyddion hanfodol normal, cydbwysedd hylif, gofynion maethol
  • Yn gallu dangos agwedd gadarnhaol, oflgar a thosturiol
  • Sgilliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Yn gallu trefnu eich hun I gyflawni tasg ddirprwyedig
  • Yn gallu dangos agwedd gadarnhaol, ofalgara thosturiol at bob cleient, perthynas ac aelod o staff mewn modd tawel
Meini prawf dymunol
  • Mae sgilliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deal, siarad, darllen ac ysgrifennu

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoStonewall Health ChampionsStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionDisability confident employerEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Pete Matthews
Teitl y swydd
Staff Bank Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01639 684401
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg