Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Arweinydd Tîm Theatr
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AHP189-1026
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Rhyl
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 02/11/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Arweinydd Tim Theatr
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Pwrpas y swydd hon yw darparu cymorth clinigol a rheolaethol wrth ddatblygu, gweithredu a chydlynu gofal cleifion o ansawdd uchel o fewn y theatr ac adranau sy'n gysylltiedig â theatr.
Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb am dîm, ac fel Arweinydd Tîm rhagweithiol - gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu effeithiol -i fod yn rhan weithredol o newid cynlluniau a nodau gofal yn ôl gwerthuso ac adolygu.
Profiad theatr yn hanfodol
Prif ddyletswyddau'r swydd
Arwain y tîm mewn Theatr gan sicrhau gofal diogel ac effeithiol.
Gyfrifol am ddatblygu staff a defnyddio adnoddau yn effeithiol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Pwrpas y swydd hon yw darparu cymorth clinigol a rheolaethol i'r Rheolwr Theatr wrth ddatblygu, gweithredu a chydlynu gofal cleifion o ansawdd uchel yn ardal theatr.
Dangos gwerthoedd BIPBC mewn ymarfer ei hun a'u gwreiddio yn niwylliant theatr
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad NMC/HCPC
- Profiad helaeth mewn Arfer Clinigol Theatr
- Cymhwyster dysgu ac asesu
- Cwrs aseswr/ goruchwyliwr arfer
- Dealltwriaeth am NatSsips a LocSsips sy'n berthnasol i theatr
Meini prawf dymunol
- Gradd mewn pwnc clinigol/ proffesiynol perthnasol.
- Astudiaeth ôlradd at lefel Meistr
- ALS/PLS
- Cymhwyster rheoli ôl-radd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o brofiad rheoli
- Tystiolaeth o brofiad arwain
- Tystiolaeth o weithio gyda staff iau a myfyrwyr a/neu hwyluso eu datblygiad
- Tystiolaeth o uwch wybodaeth glinigol
- Deall materion yn ymwneud â gwerthuso gofal, ei gynllunio a'i asesu
- Profiad o reoli adnoddau
- Profiad o ddethol staff a chynllunio’r gweithlu
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o Bolisi Adnoddau Dynol
- Profiad o ymgymryd ag archwilio / ymchwil a gosod safonau
Cymhwyster a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
- Gallu ymdrin â phroblemau amlochrog mewn amgylchedd anodd
- Gallu bod yn rhagweithiol ac ymatebol
- Esiampl dda
- Yn llawn cymhelliant - yn bersonol ac yn broffesiynol
- Yn gyfforddus â gweithio mewn tîm ac ymrwymiad i hynny
- Yn empathig, trugarog a diplomatig
- Awydd gwirioneddol i gyflawni nodau trwy integreiddio gwaith aelodau’r tîm
Meini prawf dymunol
- Sgiliau IT
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu dangos tystiolaeth o gadw at werthoedd BIPBC
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Michelle Jones
- Teitl y swydd
- Theatre Matron
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 845588
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector







.png)
