Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Therapi Galwedigaethol
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Llawn-amser, ond bydd oriau rhan-amser yn cael eu hystyried)
Cyfeirnod y swydd
100-AHP095-1026
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Gwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£50,129 - £57,365 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/11/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
16/11/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Therapydd Galwedigaethol Arbenigol Clinigol – Awtistiaeth

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am Therapydd Galwedigaethol Arbenigol brwdfrydig ac egnïol i ymuno â'n Gwasanaeth Niwro-ddatblygiadol i Blant arloesol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu asesiadau diagnostig a chymorth am gyfnod penodol i blant a phobl ifanc awtistig ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Tîm amlddisgyblaethol bach, cyfeillgar a chefnogol yw ein Gwasanaeth Niwroddatblygiadol, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol ymroddedig sy’n rhannu gweledigaeth gyffredin o wella canlyniadau i blant a phobl ifanc awtistig, a’u teuluoedd.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar y canlynol:

· Diddordeb cryf amlwg mewn awtistiaeth a niwrowahaniaeth.

· Brwdfrydedd gwirioneddol dros gefnogi plant a phobl ifanc niwrowahanol.

· Profiad o waith cydweithredol ac amlddisgyblaethol.

· Ymrwymiad i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

· Sgiliau cyfathrebu, trefnu a rhyngbersonol rhagorol.

· Y gallu i ffynnu mewn amgylchedd prysur a rheoli gofynion cystadleuol yn effeithiol.

· Brwdfrydedd amlwg dros ddatblygu gwybodaeth a sgiliau arbenigol yn y gwasanaethau niwroddatblygiadol.

Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â thîm brwdfrydig sydd wedi ymrwymo i arloesi, cydweithio a darparu cymorth ystyrlon i blant a phobl ifanc niwrowahanol ledled Gorllewin Cymru.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel Ymarferydd annibynnol yn y gwasanaeth Niwroddatblygiadol gan gynnal asesiadau diagnostig medrus ac ymyriadau ôl-ddiagnostig am gyfnod penodol, a gan reoli’r broses o ryddhau plant a phobl ifanc ag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig. Bydd yn rheoli llwyth achosion sy’n cynnwys anhwylderau datblygiadol, ymddygiadol a chyfathrebu cymhleth, problemau iechyd meddwl a phontio o’r gwasanaethau plant.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gynllunio, trefnu a gweithredu darpariaeth therapi galwedigaethol arbenigol iawn yn y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol Plant, gan weithio’n agos gydag Arweinydd y Tîm a’r Arweinydd Clinigol i sicrhau y darperir gwasanaeth effeithiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth a’i fod yn cael ei werthuso gan ddefnyddio mesurau canlyniadau. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi Arweinydd y Bwrdd Iechyd ar gyfer ASD i weithredu a monitro Polisïau Cenedlaethol a Lleol, gan gynnwys rhai NICE a dogfennau arfer da eraill, ac yn cyfrannu at ddatblygu deunydd hyfforddi/addysgol a darparu hyfforddiant arbenigol neu weithdai addysgol sy’n ymwneud ag Awtistiaeth a Niwroamrywiaeth. Bydd gofyn hefyd gweithio ochr yn ochr ag Adrannau Therapi Galwedigaethol eraill yn y sefydliad.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 16/11/2026.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd/ diploma mewn Therapi Galwedigaethol
  • Cofrestriad gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
  • Cymhwyster lefel Meistr mewn maes cysylltiedig neu brofiad cyfatebol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Gwybodaeth fanwl am Awtistiaeth ac anghenion plant, pobl ifanc a’u teuluoedd
  • Gwybodaeth arbenigol sefydledig am amrywiaeth eang o offer asesu sy’n berthnasol i ASD, a/neu wedi cael hyfforddiant ar offer o’r fath
  • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth mewn perthynas ag Iechyd Meddwl, trawma, Awtistiaeth ac Anableddau Dysgu ar draws iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg
  • Gwybodaeth am y cyfeiriad strategol a’r ddeddfwriaeth mewn perthynas ag Awtistiaeth, a hynny ar lefel leol a chenedlaethol
  • Gwybodaeth am ganllawiau NICE
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o hyfforddiant ffurfiol a phrofiad o ddefnyddio offer asesu Awtistiaeth DISCO, ADIR, ADOS neu 3DI
  • Tystysgrif gwaith grŵp
  • Tystysgrif/profiad goruchwylio
  • Cymhwyster/Profiad Addysgu
  • Aelod o BAOT
  • Tystiolaeth o hyfforddiant ôl-raddedig arbenigol mewn Prosesu Synhwyraidd

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol mewn gwasanaethau plant yn gweithio gydag unigolion ar y Sbectrwm Awtistiaeth
  • Tystiolaeth o brofiad clinigol o ddarparu asesiadau ac ymyriadau therapi galwedigaethol ar gyfer plant a phobl ifanc awtistig
  • Profiad o oruchwylio staff
  • Profiad o weithio ar draws amrywiaeth o asiantaethau, a phrofiad o ddarparu cyngor a chymorth ymgynghorol i weithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddarparu hyfforddiant
  • Profiad o gasglu a dehongli data
  • Profiad o ddatblygu a gweithredu systemau, pecynnau gofal neu wasanaethau newydd

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
  • Ymagwedd hyblyg at gyflenwi gwasanaethau
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Ruth Holstead
Teitl y swydd
Team Lead Children's Neurodevelopmental Service
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 283077
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg