Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferyllfa
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol: Mae’n bosibl y bydd y swydd hon yn cael ei chynnwys mewn proses newid sefydliadol sydd ar ddod, i greu’r Gwasanaeth Trawsnewid Mynediad at Feddyginiaethau (TrAMs). Bydd math ac amserlenni'r newid arfaethedig yn destun ymgynghoriad ar y cyd â Pholisi Newid Sefydliadol Cymru Gyfan. Ni ragwelir y bydd risg i gyflogaeth oherwydd y newid hwn. Cysylltwch â'r rheolwr recriwtio os hoffech drafod hyn ymhellach. Mae rhagor o wybodaeth am raglen TrAMs ar gael yma: Trawsnewid Mynediad at Feddyginiaethau - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 130-ACS179-1026
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gwasanaethau Technegol Fferyllol, Ysbyty Singleton
- Tref
- Abertawe
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 28/10/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Gweithredwr Cynhyrchu Fferyllol
Gradd 3
Croeso i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd: gofalu am ein gilydd, cydweithio a gwella drwy’r amser.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon ar ôl 24 os na dderbynnir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym felly’n hybu ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth ar y swydd hon.
Bydd staff sy’n bresennol yn aros am adleoliad yn cael eu hystyried yn gyntaf ac felly rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Oriau llawn-amser a rhan-amser ar gael.
Mae cyfle gwych wedi codi i unigolyn brwdfrydig, ymroddedig ac addasadwy sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes Aseptig Fferylliaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod yn rhan o dîm prysur sy'n gweithio yn ein huned aseptig drwyddedig yn Ysbyty Singleton gan gynnig gwasanaeth o ansawdd uchel i gleifion y Bwrdd Iechyd. Mae'r uned aseptig yn darparu ystod eang o feddyginiaethau chwistrelladwy ar ffurf barod i'w defnyddio gan gynnwys cemotherapi cytotocsig, therapïau gwrthgyrff monoclonaidd, maethiad parenterol a meddyginiaethau treialon clinigol.
Mae Ysbyty Singleton yn edrych allan dros Fae Abertawe, 5 munud i gerdded i'r traeth ac o fewn 15 munud mewn car i arfordir arobryn penrhyn Gŵyr, ardal gyntaf y DU o harddwch naturiol eithriadol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y gwaith yn cynnwys glanhau, monitro a chynnal a chadw offer a chyfleusterau, rheoli stoc meddyginiaethau a nwyddau traul, cydosod sypiau ac archebion a pharatoi a dosbarthu meddyginiaethau aseptig.
Mae profiad fferylliaeth blaenorol yn cael ei argymell. Bydd disgwyl i ymgeiswyr gael hyfforddiant a chyflawni NVQ lefel 2 yn llwyddiannus yng Ngwasanaethau Fferylliaeth ar ôl cael eu penodi.
Gweithio i'n sefydliad
Credwn mai staff yw ein hased gorau ac rydym am ichi fod yn hapus ac yn hyderus ynglyn a dechrau eich gyrfa yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Fel un o'r grwpiau gofal iechyd mwyaf yn y DU, gallwn gynnig cyfoeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol mewn sefydliad arloesol, blaengar.
Efallai eich bod yn nyrs neu'n feddyg, efallai eich bod yn arbenigo mewn gwyddor iechyd / therapi neu'n gallu cynnig sgiliau yn un o'n gwasanaethau cymorth - mae gennym swydd i chi.
Mae yna hefyd brentisiaethau, lleoliadau gwaith a rolau gwirfoddoli ar gael.
Rydym yn gyflogwr cynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan bawb beth bynnag fo'u rhyw; crefydd neu gred; ras; oed; cyfeiriadedd rhywiol; hunaniaeth rhyw neu, p'un a ydynt yn feichiog neu wedi bod ar gyfnod mamolaeth yn ddiweddar, yn briod neu mewn partneriaeth sifil; neu, os ydyn nhw'n anabl.
Mae ein gwerthoedd – Gofalu am ein gilydd, Cydweithio a Yn gwella bob amser, yn dangos bod ein hymrwymiad i gydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn.
Os ydych chi eisiau cyfleoedd gyrfa a hyfforddiant rhagorol wrth fyw ar stepen drws rhai o olygfeydd mwyaf ysblennydd Ewrop, gyda holl fanteision dinas sy'n ffynnu a chosmopolitaidd - edrychwch ymhellach.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwr Cymraeg a/neu Saesneg i geisio am y swydd.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad llawn a Manyleb y person ynghlwm o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch 'Gwneud Cais' i'w weld ar Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- 5 TGAU gradd A i C neu gyfwerth.
- NVQ Lefel 3 neu allu dangos y lefel gyfwerth o wybodaeth, sgiliau a phrofiad mewn gwasanaethau technegol fferylliaeth neu cymhwyster lefel gyfatebol mewn pwnc perthnasol e.e. cymhwyster gofal iechyd, labordy, gwyddonol neu weithgynhyrchu (wedi ymrwymo i ennill hyn).
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gallu defnyddio cyfrifiaduron, gallu defnyddio Microsoft Office a meddu ar sgiliau bysellfwrdd sylfaenol.
- Sgiliau rhifedd a llythrennedd da gan gynnwys: cyfrifiadau, canrannau, degolion, ffracsiynau.
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio mewn fferyllfa, gweithgynhyrchu gofal iechyd neu labordy neu amgylchedd gwyddonol.
Doniau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i gyflawni cyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig yn gywir.
- Y gallu i gyfathrebu'n glir ac yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn gallu canolbwyntio pan fyddant dan bwysau yn aml ac yn destun ymyrraeth.
- Y gallu i weithio i ystod lawn o godau a gweithdrefnau fferylliaeth leol.
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lucy Griffiths
- Teitl y swydd
- Senior Pharmacy Technician
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector








