Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Nyrs Ysgol
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR286-1026
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Gofal Integredig Aberteifi
- Tref
- Aberteifi
- Cyflog
- £40,559 - £48,841 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/10/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Nyrs Iechyd Cyhoeddus Gymunedol Arbenigol – Nyrsio Ysgolion
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi’n frwd dros wella iechyd a llesiant plant a phobl ifanc?
Rydym yn chwilio am Nyrs Ysgol ymroddedig sy’n Nyrs Iechyd y Cyhoedd Gymunedol Arbenigol (SCPHN) i weithio’n annibynnol i ddarparu gwasanaethau cadw gwyliadwriaeth ar iechyd, hybu iechyd ac ymyrraeth gynnar o safon i blant oedran ysgol. Byddwch yn rheoli llwyth achosion o blant a phobl ifanc oedran ysgol, gan ddarparu cymorth mewn meysydd gan gynnwys diogelu, Plant sy’n Derbyn Gofal, imiwneiddiadau, a llesiant emosiynol. Gan weithio’n agos gyda theuluoedd, ysgolion ac asiantaethau partner, byddwch yn nodi ac yn mynd i’r afael ag anghenion iechyd heb eu diwallu, gan helpu plant i gyflawni hyd eithaf eu potensial mewn addysg a bywyd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymarferydd rhagweithiol sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ac ymrwymiad i wella canlyniadau iechyd i bob plentyn a pherson ifanc oedran ysgol. Mae cyfleoedd i gynorthwyo goruchwyliaeth a datblygiad myfyrwyr a chyd-weithwyr hefyd ar gael o fewn y rôl.
Cynhelir y cyfweliadau ar 20/10/26
Prif ddyletswyddau'r swydd
Ydych chi’n frwd dros wella iechyd a llesiant plant a phobl ifanc?
Rydym yn chwilio am Nyrs Ysgol ymroddedig sy’n Nyrs Iechyd y Cyhoedd Gymunedol Arbenigol (SCPHN) i weithio’n annibynnol i ddarparu gwasanaethau cadw gwyliadwriaeth ar iechyd, hybu iechyd ac ymyrraeth gynnar o safon i blant oedran ysgol. Byddwch yn rheoli
llwyth achosion o blant a phobl ifanc oedran ysgol, gan ddarparu cymorth mewn meysydd gan gynnwys diogelu, Plant sy’n derbyn gofal, imiwneiddiadau, a lles emosiynol.
Gan weithio’n agos gyda theuluoedd, ysgolion ac asiantaethau partner, byddwch yn nodi ac yn mynd i’r afael ag anghenion iechyd heb eu diwallu, gan helpu plant i gyflawni hyd eithaf eu potensial mewn addysg a bywyd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymarferydd rhagweithiol sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ac ymrwymiad i wella canlyniadau iechyd i bob plentyn a pherson ifanc oedran ysgol.
Mae cyfleoedd i gefnogi goruchwyliaeth a datblygiad myfyrwyr a chydweithwyr hefyd ar gael o fewn y rôl.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- BSc Anrhydedd Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol (SCPHN) mewn nyrsio ysgol
- Tystiolaeth o DPP i lefel diploma ôl-raddedig
- Diogelu Plant Amddiffyn Plant (Lefel 3)
- Y Fframwaith Nyrsio Ysgol
- Mentoriaeth/Goruchwyliaeth
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am Iechyd Rhyw
- Gwybodaeth am Ymataliaeth
- Ymchwil
- Rheoli
- Arweinyddiaeth Glinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwaith amlasiantaethol
- Profiad cymunedol
- Profiad o amddiffyn plant
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio yn rôl SCPHN gymwys
- Gweithio gyda phlant/phobl ifanc
Gallu Ieithyddol
Meini prawf dymunol
- Yn medru siarad Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Heather Whalley
- Teitl y swydd
- Team Leader School Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01970635794
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector





