Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Nyrs Ymchwil
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR610-1026
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £32,557 - £39,631 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 25/10/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Nyrs Ymchwil Glinigol
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Noder, ar gyfer myfyrwyr Cymru, rhaid i chi wneud cais drwy Streamlining lle gellir dod o hyd i'r holl swyddi sydd ar gael.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Nyrs ymuno â'r tîm Ymchwil a Datblygu. Bydd y Nyrs Ymchwil yn gyfrifol am amrywiaeth eang o astudiaethau sy'n cwmpasu llawer o safleoedd clefydau. Bydd y swydd hon hefyd yn datblygu eich dealltwriaeth bersonol o ymchwil, ac yn rhoi cyfle i chi weithio ar draws BIPBC gydag amrywiaeth o wahanol staff.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Pwrpas y swydd hon yw cynyddu nifer y cleifion sy'n cymryd rhan mewn astudiaethau clinigol yn BIPBC.
Bydd y swydd yn cyfrannu at asesu a rheoli'r llwybrau gofal ar gyfer cleifion a gofalwyr sy'n cymryd rhan mewn treialon clinigol. Bydd hyn yn cynnwys recriwtio, addysg a monitro cleifion treial a chasglu a dogfennu data cywir.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gydag uwch nyrsys a thimau amlddisgyblaethol o fewn y Bwrdd Iechyd yn ogystal â'r timau ymchwil ehangach sy'n cynorthwyo gyda rheoli llwyth achosion o gleifion astudiaethau clinigol.
Bydd y swydd yn asesu ac yn cynnal gweithdrefnau clinigol ar gyfer cleifion/cyfranogwyr a bydd yn cael ei hystyried yn rhan o'r tîm clinigol yn ystod cyfranogiad y cyfranogwyr â'r astudiaeth, gan weithredu rhaglen ofal, darparu cyngor a bydd yn cadw cofnodion mewn gwahanol leoliadau.
Fel rhan o'r tîm Ymchwil a Datblygu, bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at sefydlu a darparu ymchwil yn effeithlon o fewn y BIP gan gyfrannu at y metrigau perfformiad a osodwyd ar gyfer yr UHB.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais yn yr un modd.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gweler disgrifiad swydd
· Bod yn gyfrifol am ddarparu astudiaethau ymchwil a ddyrennir.
· Sicrhau bod astudiaethau a ddarperir yn bodloni gofynion o ran Fframwaith Llywodraethu Ymchwil Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol â Chyfarwyddiaeth Treialon Clinigol yr Undeb Ewropeaidd drwy weithredu systemau ansawdd.
· Cymryd rhan mewn hyfforddiant Arfer Clinigol Da.
· Cyfrannu at y broses Dewis Astudiaeth / Datganiad o Ddiddordeb
· Cyfrannu at sefydlu astudiaeth, cynllunio recriwtio a darparu astudiaeth.
· Bod yn gyfrifol am hyrwyddo'r cyfeirio cleifion yn briodol a’u recriwtio ar gyfer astudiaethau ymchwil clinigol. Gweithio gyda thimau ymchwil ac ymchwilwyr i ddatblygu strategaethau i oresgyn rhwystrau o ran recriwtio ac i ddatrys problemau eraill sy'n ymwneud ag astudiaethau penodol.
· Cydlynu a chynnal ymweliadau astudio yn cynnwys ymweliadau oddi ar y safle gan gadw at y polisi gweithio'n annibynnol.
· Gweithio gydag adrannau eraill o fewn y Bwrdd Iechyd i sicrhau bod ymchwiliadau penodol i dreialon a gweithdrefnau yn cael eu cynnal fel bo angen gan y protocol treialon, er mwyn sefydlu cymhwyster a diogelwch cleifion o fewn ymchwil.
· Cyfrannu at gostio cywir ar gyfer astudiaethau ymchwil a thrafod priodol o gefnogaeth ariannol gofynnol i ddarparu astudiaethau.
· Sicrhau y cedwir cofnodion eglur, cywir a chryno ar gyfer prosiectau ymchwil yn unol â'r holl ofynion rheolaethol yn cynnwys y Ddeddf Diogelu Data.
· Sicrhau bod data'n cael ei drawsgrifio yn gywir lle bod angen a helpu gyda chynnal y Brif Ffeil Treial.
· Ymateb i ymholiadau am ddata a gafwyd gan y tîm cydlynu astudiaeth yn brydlon.
· Sicrhau bod digwyddiadau anffafriol a difrifol sy'n digwydd pan fo'r cyfranogwr yn yr astudiaeth ymchwil yn cael eu cofnodi a'u hadrodd arnynt i'r Cydlynydd/Prif Ymchwilydd (PI) a swyddfa Ymchwil a Datblygiad yn unol â'r protocol astudiaeth, polisïau lleol a gofynion rheolaethol.
· Asesu cynnydd astudiaethau parhaus a'u gwerthuso, gan gadw cofnodion cywir o statws yr astudiaethau a darparu diweddariadau rheolaidd i'r adran ar statws yr astudiaethau. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod y System Rheoli Cleifion Lleol (LPMS) yn cael ei diweddaru gyda data astudiaeth allweddol ac yn cael eu dilysu yn effeithlon.
· Uwch gyfeirio materion perfformiad astudio parhaus i'r Uwch Nyrs Ymchwil/Arweinydd Tîm.
· Cydweithredu ag archwiliad mewnol ac allanol, monitro data a sicrwydd ansawdd drwy weithio ag Ymchwil a Datblygiad, noddwyr, rhai sy'n monitro'r astudiaeth a chyrff allanol.
· Helpu o ran cau astudiaethau a pharatoi canlyniadau ymchwil ar gyfer eu cyflwyno fel posteri, crynodebau, papurau neu gyflwyniadau gwyddonol.
Manyleb y person
Addasrwydd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad Cyfredol gyda NMC
- Gallu gwneud penderfyniadau yn annibynnol
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am derminoleg glinigol a/neu ymchwil
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o gyswllt blaenorol â chleifion/cleientiaid a’r Tîm Amlddisgyblaethol o fewn yr amgylchedd gwaith.
- Tystiolaeth amlwg o fodloni targedau
Meini prawf dymunol
- Profiad o wneud ymchwil clinigol
Doniau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu cyfleu gwybodaeth gymhleth i gleifion/gofalwyr/ aelodau'r Tîm Amlddisgyblaethol
- Yn drefnus ac yn gallu cynllunio eich llwyth gwaith eich hun
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Alice Thomas
- Teitl y swydd
- Research Team Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 841563
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector







.png)
