Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Iechyd y geg
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-PST133-1026
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Clinig Iechyd Abergele
Tref
Abergele
Cyflog
£32,557 - £39,631 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/10/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Addysgwr Iechyd y Geg - Oedolion

Gradd 5

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol Gogledd Cymru ar hyn o bryd yn cynnig cyfle i Addysgwr Iechyd Deintyddol ymuno â thîm Hyrwyddo Iechyd Deintyddol Gogledd Cymru.  

Bydd y person sy’n cael y swydd yn allweddol wrth gyflwyno’r rhaglenni Gwên am Byth a Gwên Wen ar gyfer oedolion bregus.  

Bydd y swydd yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â chartrefi gofal ac asiantaethau eraill sy’n gyfrifol am ofal oedolion bregus.  

Mae gallu siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae siaradwyr Saesneg a/neu Gymraeg yn cael croeso i wneud cais yn gyfartal.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Gweithredu pob agwedd ar y rhaglen/rhaglenni Hybu Iechyd y Geg a neilltuir o fewn ardal ddynodedig, dan gyfarwyddyd y Rheolwr Hybu Iechyd y Geg
  • Dealltwriaeth eang o holl elfennau’r Rhaglen/Rhaglenni Hybu Iechyd y Geg a bennwyd, a rolau a chyfrifoldebau pob un o’r prif bartneriaid
  • Hyfforddi gweithwyr proffesiynol eraill (er enghraifft, ym maes addysg, iechyd a gofal cymdeithasol), i roi negeseuon Iechyd y Geg yn unol â’r rhaglen Hybu Iechyd y Geg a neilltuir.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person wedi'u hatodi o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • Mae'n RHAID bod wedi cofrestru â'r GDC
  • yn meddu ar gymhwyster Ardystiad Nyrs Ddeintyddol mewn Addysg Iechyd y Geg/Hybu Iechyd y Geg neu Ddeintyddiaeth Gofal Arbennig neu gyfwerth

Experience

Meini prawf dymunol
  • profiad o weithio gyda phobl oedolion fregus
  • profiad o weithio gyda chyfarpar sain a delwedd
  • profiad o hyfforddi/dysgu

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sian Chelton
Teitl y swydd
Oral Health Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
030008566806
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg