Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Iechyd Meddwl
- Gradd
- Band 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS113-0526-D
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ward Sant Non, Bro Cerwyn
- Tref
- Hwlffordd
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- Today at 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 25/09/2026
Teitl cyflogwr
Gweithiwr Cymorth Nyrsio (Iechyd Meddwl)
Band 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael ar gyfer swydd Gweithiwr Cymorth Nyrsio Band 3 ar Ward Sant Non, sy'n ward Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn yn Hwlffordd.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio mewn lleoliad asesu acíwt i gleifion mewnol, a bydd yn amlygu arfer dynamig ac arloesol o ran gofalu am oedolion hŷn ag anghenion iechyd meddwl cymhleth.
Mae'r Gweithiwr Cymorth Nyrsio yn rhan hanfodol o'r tîm amlddisgyblaethol, ac yn cyfrannu at lwybr asesu a thrin cleifion mewn sawl ffordd hanfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio dan arweiniad nyrsys cofrestredig.
Disgwylir i'r Gweithiwr Cymorth Nyrsio gymryd rhan mewn ystod o ymyriadau gyda chleifion, sy'n amrywio o ofal nyrsio uniongyrchol, gweithio'n unol â pholisïau arsylwi ac ymgysylltu, monitro iechyd corfforol, a chefnogi'r broses asesu i alluogi gofal holistaidd i'r claf.
Os ydych yn mwynhau'r her o weithio mewn lleoliad prysur a gwerth chweil, hoffem glywed gennych.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio yn rhan o dîm amlddisgyblaethol, ond rhaid iddynt allu gweithio'n hyblyg i fodloni anghenion y gwasanaeth, ac o fewn system shifftiau, gan gynnwys shifftiau nos, sy'n darparu gwasanaeth 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol sy'n darparu gofal i gleifion/ddefnyddwyr gwasanaethau sy'n profi anghenion iechyd meddwl yn y gymuned/cartref neu wasanaethau cleifion mewnol, gyda chymorth a goruchwyliaeth gan weithiwr gofal iechyd cofrestredig.
Cefnogi neu ymgymryd â gweithgareddau gofal personol, sgiliau/tasgau byw bob dydd, a dyletswyddau gofal clinigol heb fawr ddim cymorth a goruchwyliaeth, fel y'u dirprwyir gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig ac yn unol â Chanllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan AaGIC.
Cefnogi'r broses o arsylwi'n fanylach ar gleifion sy'n ymgyflwyno fel risg uchel iddynt eu hunain neu i eraill oherwydd cyflwr iechyd meddwl, gwybyddol neu glinigol.
Sicrhau bod y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am gyflwr a chynnydd y claf/cleient.
Sicrhau bod yr amgylchedd gwaith yn ddiogel ac yn hylan gan ddilyn polisïau a phrosesau atal a rheoli heintiau.
Cyfrannu at y broses o addysgu a goruchwylio myfyrwyr a staff iau.
Cyflawni'r rôl yn unol â Gwerthoedd y Bwrdd/yr Ymddiriedolaeth Iechyd a'r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru, gan gynnwys cynnal diogelwch corfforol, gweithdrefnol a pherthynol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 25/09/2026
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc cysylltiedig â gofal iechyd Neu Brofiad cyfatebol a bydd yn gallu dangos tystiolaeth o gymhwysedd seiliedig ar waith ac arddangos gwybodaeth ddamcaniaethol. Bydd yn gallu cyflawni dyletswyddau gofal clinigol sy'n berthnasol i'r rôl a enillir drwy brofiad a hyfforddiant seiliedig ar waith/cyrsiau byr.
- Gwybodaeth am y Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru a Chanllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan (AaGIC)
- Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau perthnasol yn y lleoliad gofal iechyd er enghraifft egwyddorion Diogelu oedolion/plant i gadw cleifion yn eu gofal yn ddiogel. Hefyd cyfrinachedd er enghraifft y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
- Yn gallu cwblhau hyfforddiant ymyrraeth gorfforol ardystiedig/achrededig, er enghraifft Atal a Rheoli Trais ac Ymosodedd (PMVA) yn ystod y cyfnod ymsefydlu
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant ymyrraeth gorfforol ardystiedig/achrededig, er enghraifft Atal a Rheoli Trais ac Ymosodedd (PMVA).
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol, a darparu gofal uniongyrchol i gleifion
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda grwpiau cleifion sy'n berthnasol i faes yr ymarfer.
- Profiad o weithio yn y GIG.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf dymunol
- Sgiliau Iaith Gymraeg Lefel 1
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Symone Rozblat
- Teitl y swydd
- Ward Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437772871
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector





