Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Bydwreigiaeth
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Amser Llawn/ Rhan Amser)
Cyfeirnod y swydd
130-NMR305-1126
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Castell-Nedd Port Talbot
Tref
Abertawe
Cyflog
£40,559 - £48,841 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
06/12/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe logo

Bydwraig Cymunedol

Gradd 6

Croeso i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd: gofalu am ein gilydd, cydweithio a gwella drwy’r amser.


Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon ar ôl 24 os na dderbynnir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym felly’n hybu ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth ar y swydd hon.

Bydd staff sy’n bresennol yn aros am adleoliad yn cael eu hystyried yn gyntaf ac felly rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.


Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn y Saesneg.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle newydd cyffrous wedi codi ar gyfer Bydwragedd cofrestredig i ymuno â'r Gwasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fel Bydwraig Cymuned Band 6.

Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus bod â gwybodaeth a phrofiad o bob agwedd o ymarfer Bydwreigiaeth a bydd disgwyl i ddarparu gofal cefnogol i fenywod trwy gydol pob cam o feichiogrwydd

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ddarparu gofal bydwreigiaeth gyffredinol yn ystod cyfnodau cyn-feichiogi, cynenedigol, yn ystod genedigaeth, ac ôl-enedigol. Byddant yn atebol am ddarparu gofal bydwreigiaeth uniongyrchol o fewn maes clinigol dynodedig neu lwyth achosion.

 

Byddant yn darparu gofal a chyngor o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar dystiolaeth i fenywod trwy gydol cyfnodau cynenedigol, yn ystod genedigaeth, ac ôl-enedigol mewn amrywiaeth o leoliadau megis cymuned, cartref y fenyw a'r Uned Bydwreigiaeth Annibynnol (FMU).

 

Bydd deiliad y swydd yn ymarfer ac yn cynnal sgiliau clinigol sy'n briodol ar gyfer ymarfer bydwreigiaeth gymunedol trwy brofiad, ac ar ôl cwblhau cymwyseddau sgiliau bydwreigiaeth, yn ôl yr angen.

 

 

Bydd gan ddeiliad y swydd  cofrestriad Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cwrdd â'r holl ofynion ail-ddilysu.

 

Gweithio i'n sefydliad

Credwn mai staff yw ein hased gorau ac rydym am ichi fod yn hapus ac yn hyderus ynglyn a dechrau eich gyrfa yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Fel un o'r grwpiau gofal iechyd mwyaf yn y DU, gallwn gynnig cyfoeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol mewn sefydliad arloesol, blaengar.

Efallai eich bod yn nyrs neu'n feddyg, efallai eich bod yn arbenigo mewn gwyddor iechyd / therapi neu'n gallu cynnig sgiliau yn un o'n gwasanaethau cymorth - mae gennym swydd i chi.

Mae yna hefyd brentisiaethau, lleoliadau gwaith a rolau gwirfoddoli ar gael.

Rydym yn gyflogwr cynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan bawb beth bynnag fo'u rhyw; crefydd neu gred; ras; oed; cyfeiriadedd rhywiol; hunaniaeth rhyw neu, p'un a ydynt yn feichiog neu wedi bod ar gyfnod mamolaeth yn ddiweddar, yn briod neu mewn partneriaeth sifil; neu, os ydyn nhw'n anabl.

Mae ein gwerthoedd – Gofalu am ein gilydd, Cydweithio a Yn gwella bob amser, yn dangos bod ein hymrwymiad i gydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn.

Os ydych chi eisiau cyfleoedd gyrfa a hyfforddiant rhagorol wrth fyw ar stepen drws rhai o olygfeydd mwyaf ysblennydd Ewrop, gyda holl fanteision dinas sy'n ffynnu a chosmopolitaidd - edrychwch ymhellach.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gweler y swydd ddisgrifiad atodedig a'r fanyleb person am amlinelliad manwl o ofynion y swydd. Mae hwn ar gael i chi yn ddwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cyfartal i siaradwyr Saesneg a/neu Gymraeg wneud cais.

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Bydwraig Gofrestredig gyda chofrestriad NMC gweithredol
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion bydwreigiaeth proffesiynol cyfredol a'r agenda famolaeth genedlaethol
  • Gwybodaeth am Ddiogelu Oedolion /Plant gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2019, Deddf Trais yn erbyn Menywod , Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 Deddf Iechyd Meddwl, 1983
Meini prawf dymunol
  • Cyfadran Cymuned PROMPT
  • Achrediad Hypno-enedigaeth

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad clinigol ôl-gofrestru
  • Yn gallu dangos ystod o brofiad clinigol
  • Profiad o waith aml-broffesiynol
  • Tystiolaeth o ddarparu gofal tosturiol, sy’n canolbwyntio ar y claf ac sy’n canolbwyntio ar fenywod a defnyddio ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth ac adborth i wella gwasanaethau
  • Tystiolaeth o ymrwymiad diweddar i datblygiad parhaus eich hun ac eraill
Meini prawf dymunol
  • Profiad o reoli llwyth achosion cymunedol
  • Profiad o ddarparu gofal yn ystod genedigaeth gartref, a genedigaethau o fewn unedau bydwreigiaeth annibynnol

Doniau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Yn gymwys i bwytho heb oruchwyliaeth
  • Argyfyngau obstetrig a newyddenedigol – cymwys i arwain y gwaith o reoli argyfwng
  • Tynnu gwaed o wythiennau - gallu perfformio'n gymwys. Sgiliau trefnu a blaenoriaethu rhagorol.
  • Cynhyrchu adroddiadau, cronfeydd data a thaenlenni sy'n gofyn am sgiliau bysellfwrdd databases and spreadsheets requiring keyboard skills
  • Mynd ati i chwilio am gyfleoedd i ddatblygu eich hun yn barhaus, yn gyson ag egwyddorion dysgu gydol oes ac yn unol â gofyniad datblygiad proffesiynol parhaus yr NMC.
  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol i bob lefel o staff
  • Arddangos diplomyddiaeth, empathi a niwtraliaeth
  • Yn dangos sgiliau arweinyddiaeth glinigol
  • Y gallu i gymhwyso polisïau a gweithdrefnau yn effeithlon ac yn ddiogel i reoli gwasanaethau
  • Gallu i ysgogi a chefnogi newid a gallu dangos dealltwriaeth o egwyddorion Gweithio o fewn Cod yr NMC
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant i osod canwla

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Gallu dangos gwerthoedd BIPBA

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Teithio’n aml rhwng sawl safle Bwrdd Iechyd (a theithio achlysurol ymhellach i ffwrdd) Y gallu i gymryd rhan mewn rota Cymunedol Ar Alw

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoStonewall Health ChampionsStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionDisability confident employerEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rhiannon Griffiths
Teitl y swydd
Matron (Metron)
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Tracey Edey

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg