Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Oncoleg Acíwt
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- 12 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 01/11/2027)
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (Dydd Llun-Dydd Sul 08:30-16:30 (gweithio ar benwythnosau yn ôl y rhestr, o leiaf 1 o bob 4))
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR302-1026
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Llwynhendy
- Tref
- Hwlffordd
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/11/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 12/11/2026
Teitl cyflogwr
Nyrs Glinigol Arbenigol - Oncoleg Aciwt
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 12 MIS OHERWYDD CYLLIDO.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Mae Gwasanaeth Nyrsio Oncoleg Acíwt yn wasanaeth sefydledig o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Rydym yn chwilio am Nyrs Glinigol Uwch Arbenigol Band 7 brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’r tîm presennol, gan ddarparu sgiliau clinigol rhagorol i frysbennu cleifion sy’n cael eu derbyn gyda naill ai gymhlethdodau triniaeth gwrth-ganser, cymhlethdodau malaenedd neu ddiagnosis newydd o falaenedd yn ystod derbyniad brys.
Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Hwlffordd fydd lleoliad y rôl hon. Fodd bynnag, bydd y swydd yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n hyblyg ar draws y tri safle yn Aberystwyth a Sir Gaerfyrddin (Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Ysbyty Cyffredinol Glangwili ac Ysbyty'r Tywysog Philip).
Bydd deiliad y swydd hefyd yn gweithio'n achlysurol ar linell triag triniaeth canser SACT oncoleg a hematoleg.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn aelod allweddol o’r Bwrdd Iechyd gyda chyfle i ddangos arweinyddiaeth, arloesedd, negodi ac addysgu. Bydd gan ddeiliad y swydd y gallu i weithio dan bwysau, yn awyddus i wynebu heriau, yn drefnus ac yn frwdfrydig, yn meddu ar sgiliau TG da, sgiliau cyfathrebu rhagorol ac yn gallu gweithio fel aelod effeithiol o Dîm Amlddisgyblaethol.
Pwrpas y rôl hon yw darparu cyngor, arweiniad, cefnogaeth ac arweinyddiaeth nyrsio oncoleg arbenigol.
Gweithio'n annibynnol a rheoli eich llwyth gwaith eich hun.
Darparu addysg a hyfforddiant arbenigol i Staff.
Prif ffocws y rôl hon fydd cefnogi gofal cleifion mewnol, sydd angen cyngor oncoleg arbenigol yn ystod derbyniad i ysbyty.
Bydd sifftiau achlysurol a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd gefnogi Llinell Brysbennu Triniaeth Canser y Bwrdd Iechyd. Mae hon yn swydd waith saith diwrnod ac mae'n cynnwys sifftiau penwythnos pro rata.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 12/11/2026
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i goleddu'r angen am ddwyieithrwydd yn llawn, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig Cyffredinol lefel 1
- Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gradd meistr neu brofiad cyfatebol
- Cymwysterau arbenigol
- Lefel arbenigol o wybodaeth mewn arbenigedd clinigol
- Gwybodaeth am wella gwasanaethau
- Yn gallu ymgymryd a chwiliad llenyddiaeth a gwerthuso papurau ymchwil yn feirniadol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu
- Cymhwyster rheoli
- Sgiliau clinigol uwch
- Cwrs Presgripsiynu Anfeddygol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad yn yr arbenigedd perthnasol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd amlbroffesiynol
- Profiad o reoli ward/ardal/adran
- Profiad o weithio gyda myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth cyn-gofrestru mewn rol fentoraiaeth
- Profiad o gynnal archwiliad
Meini prawf dymunol
- Profiad o gymryd rhan mewn ymchwil
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kelly Rafique
- Teitl y swydd
- Lead Clinical Nurse Specialist for Acute Oncology
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 774373
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Helen Brown
Ymarferydd Nyrs Uwch Oncoleg Acíwt
01437 774373
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector





