Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyllid
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener, gyda rhywfaint o hyblygrwydd o ran oriau gwaith rhwng 8am a 6pm. Disgwylir gweithio yn y swyddfa yn Ysbyty Gwynedd am 2–3 diwrnod yr wythnos.)
Cyfeirnod y swydd
050-AC219-1026
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Gwynedd
Tref
Bangor
Cyflog
£32,557 - £39,631 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
10/11/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cynghorydd Ariannol

Gradd 5

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig i weithio fel aelod o dîm Cyllid Cyfrifon Rheoli (fel rhan o'r IHC Gorllewin) i Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn agos gyda'r tim rhoeli a thim clinigol Gofal Eilaidd, i sicrhau bod ein gwasanaethau yn cyflawni gwerth am arian.

Bydd deilydd llwyddiannus y swydd wedi cymhwyso gyda AAT neu gyda phrofiad / cymhwyster cyfatebol.

Mae’r rôl yn gofyn am unigolyn brwdfrydig, ymroddedig a llawn cymhelliant gyda sgiliau dadansoddi, cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol o'r radd flaenaf.

Dyma cyfle gwych i unigolyn sydd yn awyddus i ddatblygu ei gyrfa yn y maes Cyllid, profiad a dealltwriaeth o reoli adnoddau GIG Cymru.

Os ydych yn teimlo bod gennych y sgiliau a'r brwdfrydedd i ymuno gyda'r tim, cysylltwch gyda ni.  

Ar ôl hyfforddiant, efallai y bydd modd gweithio mewn ffordd fwy hybrid, gyda rhai diwrnodau'n cael eu gweithio gartref a rhai yn y swyddfa ond disgwylir y bydd o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos yn cael eu treulio yn Ysbyty Gwynedd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'n gweithio o fewn y Tîm Cyllid Cyfrifeg Rheoli, gan ddarparu cymorth proffesiynol a chyngor a chefnogaeth ariannol i reolwyr, ac mae'n cynnal ymchwiliad i amrywiant a dadansoddiad ariannol cymhleth, gan awgrymu camau unioni perthnasol i reolwyr y Bwrdd Iechyd yn ôl yr angen.

Darparu gwybodaeth rheoli ariannol amserol, gywir ac ystyrlon o fewn amserlenni ariannol tynn a sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â'r Rheolau Sefydlog, Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog a Chynllun Dirprwyo.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • AAT neu brofiad/cymhwyster cyfatebol
  • Gradd mewn Cyllid / Cyfrifyddu, neu allu profedig i weithio ar lefel gradd
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus, yn enwedig ym meysydd rheoli cyllidebau a chyllid, rheolaeth ac adrodd
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster ECDL

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol o weithio mewn amgylchedd cyllid y GIG
  • Profiad o systemau a rheolaethau rheoli ariannol cyfrifiadurol
  • Profiad sylweddol o bennu cyllidebau a rheolaeth gyllidebol, gan gynnwys adrodd ar amrywiannau a’u rheoli, a gweithredu camau unioni
  • Profiad o gyfrifyddu’r GIG, gan gynnwys cysoniadau, rheolaethau a rheolau a chanllawiau TAW
  • Profiad o ddelio ag asiantaethau allanol ac o ymdrin ag ymholiadau Archwilio ac ymatebion iddynt

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i drefnu llwyth gwaith yn effeithiol a gweithio o fewn terfynau amser caeth
  • Sgiliau rhagorol wrth ddefnyddio taenlenni a rhaglenni swyddfa eraill sy’n seiliedig ar gyfrifiadur
  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm, gan gyflawni amcan corfforaethol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • Y gallu i brosesu, dadansoddi a dehongli data ariannol cymhleth, ac egluro’r canlyniadau i staff nad ydynt yn gweithio ym maes cyllid
  • Y gallu i nodi gwallau, datrys anghysondebau ac ymdrin ag unrhyw broblemau wrth iddynt godi
  • Y gallu i arfer crebwyll a rheolaeth
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Deall goblygiadau deddfwriaeth gyfredol ym maes cyfrifyddu a’r GIG fel y mae’n effeithio ar y maes gwaith
  • Gwybodaeth am system gyfrifiadurol ariannol cyfrifon Oracle / rhaglenni a gweithdrefnau pwrpasol yr adran
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o gyllidebau wedi’u neilltuo (Ring-fenced) yn y GIG a’r angen i adrodd arnynt a’u rheoli’n briodol

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Hynod frwdfrydig, hyblyg, proffesiynol a hyderus, ac yn gallu gweithio’n gorfforaethol o fewn tîm
  • Y gallu i weithredu ar eich menter eich hun heb oruchwyliaeth, a blaenoriaethu a rheoli llwyth gwaith yn unol â hynny
  • Gweithio’n gorfforaethol o fewn tîm

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jennifer Fewings
Teitl y swydd
Senior Finance Adviser
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000851154
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg