Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Clerc Ward Rhuddhad
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol: Dydd Llun a Dydd Mawrth
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (Dydd Llun a Dydd Mawrth)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC247-1026W
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Rhyl
- Cyflog
- £26,300 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 28/10/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Clerc Ward Rhyddhad
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Glerc Ward Rhyddhad â Thîm yn Ysbyty Glan Clwyd.
Gweithio fel aelod o dîm i ddarparu gwasanaeth cefnogi clercyddol effeithlon a chynhwysfawr ar gyfer y Ward, ac felly cefnogi gwasanaeth o ansawdd da a ddarperir i gleifion a staff yn yr adran.
Bydd deiliad y swydd yn rhan hanfodol o'r tîm Nyrsio a Meddygol i gefnogi gofal cleifion o ansawdd uchel mewn amgylchedd cyflym.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yr ymgeisydd llwyddiannus fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cleifion, ac â'r Ward a rhaid iddo ddangos modd proffesiynol a sensitif a chynnal cyfrinachedd bob amser.
Gan weithio fel rhan o'r Tîm Ward , bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd roi cymorth clerigol effeithlon i'r staff nyrsio ar y Ward.
Rhaid i ymgeiswyr hefyd fod â safon dda o addysg, bod yn hyblyg a meddu ar sgiliau trefnu da. Mae modd ffôn proffesiynol yn hanfodol i dderbyn ac ymateb yn gwrtais i bob ymholiad ffôn ynghylch gofal cleifion.
Mae profiad blaenorol clerc ward a gwybodaeth am y System Gweinyddu Cleifion (WPAS) yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- TGAU Saesneg/ Mathemateg neu gyfatebol
Meini prawf dymunol
- NVQ lefel 2 mewn Gweinyddu NVQ mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid ECDL
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad digonol clercyddol/ swyddfa/ derbynfa/ Ward a gweithio gyda'r cyhoedd Gweithio mewn swyddfa brysur
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn y sector gofal iechyd Profiad cyffredinol o waith gweinyddu
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu da
- Sgiliau IT
- Siaradwr Cymraeg lefel 3 neu uwch
Meini prawf dymunol
- WPAS Olrhain nodiadau achos WCP RADIS Dealltwriaeth o bwysigrwydd cadw cofnodion meddygol
Gwybodaeth
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am ddiogelu data a chyfrinachedd cleifion
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Corina Owen
- Teitl y swydd
- Deputy Administration Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01745 448740
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
