Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Anestheteg
Gradd
Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd Locwm
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (tymor penodol)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (10 sesiwn)
Cyfeirnod y swydd
100-MED-GGH-414-L3
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£125,509 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
01/11/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Anesthetydd Ymgynghorol Locwm mewn Gofal Amlawdriniaethol & T&O

Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd Locwm

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Adeiladwch eich gyrfa fel Ymgynghorydd yn Sir Gaerfyrddin, gan ddarparu gofal anesthetig ar draws ystod eang o wasanaethau dewisol, brys a thrawma yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Rydym yn chwilio am Anesthetydd Ymgynghorol Locwm i ymuno â’n hadran sefydledig a chefnogi’r tîm presennol o staff y GIG ac academaidd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at y rota ar alwad ac yn darparu gwasanaeth anesthetig uwch ar draws ystod eang o weithdrefnau dewisol, brys a thrawma.

Mae’r swydd hon yn cynnig y cyfle i weithio mewn ysbyty cyffredinol dosbarth prysur, gan ofalu am gleifion ar draws cymysgedd amrywiol o achosion a darparu gwasanaethau anesthetig i nifer o arbenigeddau llawfeddygol. Bydd gennych y cyfle i ddatblygu rhagor o brofiad ac arbenigedd mewn meysydd megis Llawfeddygaeth Gyffredinol, ENT ac Offthalmoleg, tra’n cefnogi rhestrau brys a thrawma hefyd.

Gan weithio o fewn adran gefnogol a chydweithredol, byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel i gleifion a helpu i gynnal safonau clinigol rhagorol. Bydd cyfleoedd hefyd i gyfrannu at addysgu, hyfforddi a datblygiad parhaus gwasanaethau anesthetig ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r swydd ar gyfer Anesthetydd Ymgynghorol Locwm sydd â diddordeb arbenigol mewn meddygaeth amdriniaethol. Bydd deiliad y swydd yn darparu gofal o ansawdd uchel i gleifion yn yr adran anesthetig ac yn darparu gofal amdriniaethol i gleifion dewisol ac argyfwng ar draws yr ystod o arbenigeddau sydd ar gael yn BIP Hywel Dda. Bydd yr ymgeisydd yn ymuno â thîm o feddygon ymgynghorol sydd â diddordeb mewn meddygaeth amdriniaethol, gan gynnal cyn-asesiadau Risg Uchel, clinigau CPET a chynorthwyo gyda'n gwasanaeth Rhagsefydlu.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford 
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
  • 48 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre 
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

I gael holl fanylion gofynion y rôl, gweler y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person sydd ynghlwm.

Cynhelir trafodaethau ynghylch patrwm gweithio yn ystod y broses cynllunio swyddi gychwynnol, lle gellir trafod ac archwilio dewisiadau, gofynion ac opsiynau yn llawn.

Wedi’i leoli yng nghanol Sir Gaerfyrddin, mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn gwasanaethu cymunedau ledled De Orllewin Cymru, gan gynnig y cyfle i gyfuno rôl ymgynghorydd werth chweil â manteision ffordd o fyw sy’n deillio o fyw a gweithio mewn rhanbarth sy’n enwog am ei gefn gwlad, ei harfordir a’i ymdeimlad cryf o gymuned.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf, gan sicrhau bod ein cymuned yn cael y gofal gorau posibl. Rydym yn gwerthfawrogi cynhwysiant ac yn meithrin diwylliant yn y gweithle sy'n croesawu amrywiaeth ac yn cefnogi cyfraniad pob unigolyn tuag at amgylchedd gofal iechyd croesawgar.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymdeithas ac rydym yn ymrwymedig i greu gweithle amrywiol a chynhwysol.

Anogir trafodaethau neu ymweliadau anffurfiol yn frwd. Gellir trefnu sgyrsiau rhithwir hefyd ar gyfer ymgeiswyr tramor.

Dr Alun Thomas 

[email protected]

Ymgynghorydd Anaesthetydd
 

Gweler y dolenni isod am fideos defnyddiol sy'n ymwneud â'r swydd hon:

Hywel Dda 3 Sir - https://youtu.be/9wTeZD4cQOw

Ffordd o fyw yng Nghymru –https://youtu.be/rICFhN-0_nY?si=9pFkL_BkfEiQLzAo

Rhaglen Ddatblygu Arweinyddiaeth Feddygol Hywel Dda  –https://youtu.be/2fDHk9imTbo?si=OjYD8W41c-YNNVVA

Taith rhithwir - https://youtu.be/Qsepgory-OI

Ysbyty Glangwili - https://youtu.be/gyySXnmh-E8

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad llawn a Thrwydded i Ymarfer gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
  • Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig a Dilys.
  • Cwblhau Arholiadau perthnasol y Coleg Brenhinol (neu gyfwerth).
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster(au) clinigol ychwanegol.

Profiad Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • Profiad eang o fewn y maes arbenigedd.
  • Gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
  • Tystiolaeth o arwain tîm.
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o weithio yn y DU neu'r GIG.

Addysgu

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i asesu'n feirniadol gofynion dysgu ar gyfer eich hun ac eraill.
  • Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu myfyrwyr meddygol a meddygon preswyl.
  • Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster addysgu.

Ymchwil ac Ysgolheictod

Meini prawf hanfodol
  • Arddangos gwybodaeth am ymchwil gyfredol ac arfer gorau yn y maes arbenigedd.
  • Tystiolaeth o gadw'n gyfredol â'r ymchwil a'r arfer gorau.
  • Tystiolaeth o leoli a defnyddio canllawiau clinigol yn briodol.
  • Tystiolaeth o gyfathrebu a dehongli tystiolaeth ymchwil mewn ffordd ystyrlon.
Meini prawf dymunol
  • Cyfranogiad gweithredol mewn ymchwil.

Llywodraethu

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth o rôl Llywodraethu Clinigol.
  • Dealltwriaeth o archwilio clinigol (neu brosiect gwella ansawdd).
  • Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am reoli risg.
  • Cyfranogiad mewn archwilio clinigol.

Diogelu

Meini prawf hanfodol
  • Dangos gwybodaeth am ofynion diogelu a chymryd cyfrifoldeb priodol.
  • Tystiolaeth o gymhwyso deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth briodol.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Gallu gweithio'n annibynnol a bod yn gyfrifol am gamau a gymerwyd.
  • Gallu bod yn bwyllog wrth weithio o dan bwysau.
  • Ymgymryd â chyfrifoldeb am arwain a goruchwylio tîm.
  • Sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau rhyngbersonol rhagorol

Arall

Meini prawf dymunol
  • Siarad Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Diane Knight
Teitl y swydd
Service Delivery Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg