Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Eiddilwch
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR307-1026
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
- Tref
- Hwlfordd
- Cyflog
- £40,559 - £48,841 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 25/10/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 03/11/2026
Teitl cyflogwr
Prif Nyrs
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae gennym gyfle cyffrous i Brif Nyrs Iau llawn cymhelliant ymuno â’n Huned Gofal Argyfwng yr Un Dydd (SDEC) sy’n ehangu’n barhaus.
Byddwch yn rhan o dîm cefnogol, gwych o nyrsys a gweithwyr cymorth nyrsio, sy’n gweithio mewn amgylchedd prysur, cyflym lle na fydd unrhyw ddau ddiwrnod yr un peth. Mae’r rôl hon yn cynnig cyfleoedd ardderchog ar gyfer datblygiad proffesiynol a magu profiad gwerthfawr mewn lleoliad clinigol dynamig.
Mae Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod (SDEC) yn galluogi cleifion sy’n oedolion â chyflyrau meddygol a llawfeddygol cyffredin i gael eu hasesu, eu diagnosio a’u trin ar yr un diwrnod. Dylai hyn alluogi’r claf wedyn i ‘gysgu gartref yn ei wely ei hun’ ac osgoi derbyniad diangen i’r ysbyty.
Mae cleifion yn cael eu cyfeirio at SDEC trwy eu meddyg teulu, Parafeddygon (Gwasanaeth Ambiwlans Cymru), yr adran Damweiniau ac Achosion Brys, neu drwy lwybr arall megis clinig cleifion allanol neu dîm arbenigol cymunedol.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr sydd â diddordeb i ddod i edrych o gwmpas a chwrdd â’r tîm.
Mae’r swydd yn cwmpasu 7 diwrnod yr wythnos. Bydd disgwyliad am weithio cylchdroadol ar draws ein tîm meddygol acíwt yn yr Uned Penderfyniadau Clinigol Oedolion (ACDU).
Prif ddyletswyddau'r swydd
A chithau’n Brif Nyrs, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau gofal o safon, sy’n canolbwyntio ar y claf, yn ein Huned Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod. Byddwch yn cefnogi gweithrediad diffwdan yr uned gan weithio’n rhan o dîm amlddisgyblaethol dynamig a chefnogol.
Bydd eich prif ddyletswyddau’n cynnwys:
· Darparu arweinyddiaeth a chymorth clinigol i staff nyrsio a gweithwyr cymorth
· Cydlynu llif cleifion i sicrhau eu hasesu, eu trin a’u rhyddhau yn amserol
· Darparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol i gleifion sy’n ddifrifol wael
· Cefnogi a datblygu staff iau trwy oruchwylio a mentora
· Cydweithio â’r tîm amlddisgyblaethol ehangach i sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion
· Cynnal safonau uchel o ofal, diogelwch a dogfennaeth
· Gosod esiampl, gan hyrwyddo diwylliant tîm cadarnhaol a rhagweithiol
Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau arwain mewn amgylchedd cyflym, gwerth chweil lle mae eich cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 03/11/2026.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Sgilliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg Lefel 1
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig (Rhan 1)
- Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gradd Baglor (neu brofiad cyfatebol)
- Diploma ôl-raddedig perthnasol (neu ddatblygiad/brofiad cyfwerth, a pharodrwydd i ymgymryd â gwaith astudio priodol ar lefel ôl-raddedig)
- IQT Efydd
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu (neu brofiad cyfwerth)
- Cymhwyster rheoli cydnabyddedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad priodol o fewn arbenigedd, a'r gallu i ddangos gwybodaeth gadarn o arbenigedd perthnasol
- Y gallu i amlygu gwybodaeth gadarn o God y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2015)
- Profiad o weithio mewn amgylchedd amlbroffesiynol
- Profiad o redeg ward/ardal/adran
- Profiad o weithio gyda myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth cyn-gofrestru
- Profiad o addysgu a mentora myfyrwyr nyrsio neu fyfyrwyr bydwreigiaeth cyn-gofrestru, a hynny mewn modd ffurfiol/anffurfiol
- Dealltwriaeth o'r agenda nyrsio gofal iechyd ehangach
- Sgiliau TG
- Sgiliau rheoli goruchwylio
- Y gallu i roi theori ar waith trwy sgiliau myfyriol
Meini prawf dymunol
- Profiad o gydgysylltu tîm
- Profiad o hwyluso dysgu yn ystod ymarfer, ac o ganlyniad iddo
- Profiad blaenorol o arwain a rheoli
- Ymwybyddiaeth o faterion cyfredol ym maes nyrsio ac yn eich arbenigedd
- Ymwybyddiaeth o reolaeth ariannol a rheoli adnoddau
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Leeanna Arran
- Teitl y swydd
- Senior Sister
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437772473
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector





