Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Radioleg
Gradd
Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (10 sesiwn)
Cyfeirnod y swydd
100-MED-CEN-014-B
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Yn dibynnu ar benodiad - Ysbyty'r Tywysog Philip, Ysbyty Llwynhelyg neu Ysbyty Glangwili
Tref
Yn dibynnu ar benodiad
Cyflog
£114,099 - £166,585 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
01/11/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Radiolegydd Ymgynghorol gyda diddordeb mewn Ymyriadau Anfasgwlaidd

Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Datblygwch eich arbenigedd mewn Radioleg Ymyrrol Anfasgwlaidd wrth weithio ar draws rhwydwaith gofal iechyd amrywiol sy’n gwasanaethu cymunedau ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Rydym yn chwilio am Radiolegydd Ymgynghorydd sydd â diddordeb arbenigol mewn Radioleg Ymyrrol Anfasgwlaidd i ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae’r rôl hon yn cynnig y cyfle i gyfuno practis radioleg gyffredinol eang ag ystod amrywiol o weithdrefnau ymyrrol anfasgwlaidd, gan gyfrannu at ddarparu a datblygu gwasanaethau radioleg ledled y rhanbarth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag adran radioleg gefnogol a chydweithredol, gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol i ddarparu gwasanaethau diagnostig ac ymyrrol o ansawdd uchel. Croesawn geisiadau gan ymgeiswyr sydd ag arbenigedd profedig mewn ystod eang o ymyriadau anfasgwlaidd ac sydd â diddordeb mewn helpu i lunio a datblygu gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein poblogaeth.

Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n chwilio am gyfleoedd llawn amser neu lai na llawn amser. I’r rhai sydd â phrofiad mewn ymyriadau fasgwlaidd, gallai fod cyfleoedd hefyd i archwilio trefniadau cydweithio ar y cyd â Byrddau Iechyd cyfagos.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae hon yn swydd newydd gyda'r prif safle i'w gytuno adeg penodi, gan ymuno â 24 o Radiolegwyr Ymgynghorol sy'n darparu gwasanaethau radioleg i boblogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gyda 2.5 (cyfatebol i amser llawn) ohonynt yn ymgymryd ag ymyriadau anfasgwlaidd. 

Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu'n weithredol at gyfarfodydd timau amlddisgyblaethol ac yn gymwys mewn ystod eang o ymyriadau anfasgwlaidd gan gynnwys technegau therapiwtig a diagnostig fflworosgopig, uwchsain a dan arweiniad CT megis:

  • Biopsiau pen a gwddf, ysgyfaint, afu, gwerennol, ôl-berfeddlennol a meinwe meddal
  • Mewnosod draeniau’r frest a'r abdomen, yn rhai dros dro a pharhaol (e.e. colesystectomi, neffrostomi a gosod stentiau wretrig DJ).

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o rota Radiolegwyr ar Ddyletswydd yn ystod y dydd sy'n cwmpasu sganio cleifion mewnol a allai gynnwys trawsgyflenwi o’r prif safle. Ar hyn o bryd mae cyfran o'r gwasanaeth tu allan i oriau ar alwad yn cael ei gontractio a'i gwblhau o bell gan ddarparwr Teleradioleg ar-lein. Fodd bynnag, mae'r gyfarwyddiaeth ar hyn o bryd yn destun trawsnewid gan ddod â chyfran o'r gwasanaeth hwn yn fewnol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o’r rota mewnol ar alwad newydd. Bydd hyn yn cynnwys darparu a hyrwyddo dull hyblyg drwy gyfrannu at y gwasanaeth hwn, cwblhau adrodd traws-safle a chyflenwi brys ar gyfer ein pedwar prif safle ysbyty lle bo angen, a hynny ar y safle ac o bell o gartref.   

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford 
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
  • 48 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre 
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Bydd deiliad y swydd wedi’i leoli naill ai yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Ysbyty Tywysog Philip, neu Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, gyda’r safle sylfaen yn cael ei gytuno ar adeg y penodiad. Bydd angen teithio’n achlysurol i’n safleoedd ysbytai acíwt eraill, gan gynnwys Ysbyty Cyffredinol Bronglais, yn unol ag anghenion y gwasanaeth.

Mae hwn yn gyfle i ymuno â Bwrdd Iechyd sy’n gwasanaethu rhai o gymunedau arfordirol, gwledig a threfol harddaf Cymru, gan gyfuno gyrfa werth chweil fel ymgynghorydd ag ansawdd bywyd eithriadol a mynediad at ystod eang o brofiadau awyr agored a diwylliannol.

I gael holl fanylion gofynion y rôl, gweler y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person sydd ynghlwm ar gyfer y swydd hon.

Bydd trafodaethau ynghylch patrwm gweithio yn digwydd yn ystod cynllunio swyddi cychwynnol, lle gellir trafod ac archwilio dewisiadau, gofynion ac opsiynau yn llawn.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf, gan sicrhau bod ein cymuned yn cael y gofal gorau posibl. Rydym yn gwerthfawrogi cynhwysiant ac yn meithrin diwylliant gweithle sy'n cofleidio amrywiaeth ac yn cefnogi cyfraniad pob unigolyn tuag at amgylchedd gofal iechyd croesawgar.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymdeithas ac rydym wedi ymrwymo i greu gweithle amrywiol a chynhwysol.

Gweler y dolenni isod am fideos defnyddiol sy'n ymwneud â'r swydd hon:

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad llawn a Thrwydded i Ymarfer gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
  • Ar Gofrestr Arbenigol y GMC (gan gynnwys trwy Lwybr Portffolio (CESR)/Hawliau'r Gymuned Ewropeaidd) neu bydd disgwyl CCT o fewn chwe mis i ddyddiad y cyfweliad.
  • Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig a Dilys.
  • Pan fo diddordeb is-arbenigedd yn ofynnol, dylai hyfforddiant is-arbenigedd fod i lefel sy'n briodol ar gyfer ymarfer ymgynghorol is-arbenigol y DU - cymrodoriaeth neu brofiad lefel gyfatebol.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster(au) Uwch ychwanegol.

Profiad Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • Profiad eang o fewn y maes arbenigedd.
  • Gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
  • Profiad o arwain tîm.
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o weithio yn y DU neu'r GIG.

Addysgu

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i asesu'n feirniadol gofynion dysgu ar gyfer eich hun ac eraill.
  • Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu pob grŵp staff.
  • Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster addysgu.

Ymchwil ac Ysgolheictod

Meini prawf hanfodol
  • Arddangos gwybodaeth am ymchwil gyfredol ac arfer gorau yn y maes arbenigedd.
  • Tystiolaeth o gadw'n gyfredol â'r ymchwil a'r arfer gorau.
  • Tystiolaeth o leoli a defnyddio canllawiau clinigol yn briodol.
  • Tystiolaeth o gyfathrebu a dehongli tystiolaeth ymchwil mewn ffordd ystyrlon.
Meini prawf dymunol
  • Cyfranogiad gweithredol mewn ymchwil.

Llywodraethu Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth o rôl Llywodraethu Clinigol.
  • Cyfranogiad mewn archwiliad clinigol (neu brosiect gwella ansawdd) a deall rôl archwilio wrth wella ymarfer meddygol.
  • Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am reoli risg.

Diogelu

Meini prawf hanfodol
  • Dangos gwybodaeth am ofynion diogelu a chymryd cyfrifoldeb priodol.
  • Tystiolaeth o gymhwyso deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth briodol.

Arall

Meini prawf dymunol
  • Siarad Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Gail Roberts-Davies
Teitl y swydd
Head Of Radiology
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg