Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaeth Meddwl Iechyd Plant a Phobl Ifanc
Gradd
Gradd 7
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (dros gyfnod o Absenoldeb Mamolaeth.)
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-NMR487-0826-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Llandudno
Tref
Llandudno
Cyflog
£50,129 - £57,365 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
19/10/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ymarferydd Lles Teuluol

Gradd 7

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae’r swydd hon am Gyfnod penodol/Secondiad am 12 mis dros gyfnod o Absenoldeb Mamolaeth.

Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.

Dyma gyfle cyffrous i ymarferydd CAMHS profiadol ymuno â thîm cymorth cynnar CAMHS fel Ymarferydd Llesiant Teuluol a fydd yn gweithio mewn clwstwr o feddygfeydd teulu gofal sylfaenol yn Sir Conwy.

Bydd gan deilydd y swydd yr angerdd a'r sgiliau angenrheidiol i ddarparu ymyrraeth gynnar ac atal ar gyfer plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn chwilio am glinigwyr sydd â gwybodaeth sylweddol am ddatblygiad plant a phobl ifanc a strategaethau ymyrraeth gynnar ac atal i wella lles emosiynol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau asesu a fformiwleiddio sydd wedi'u datblygu'n dda, y gallu i ddarparu cyngor eang a phenodol mewn perthynas ag iechyd a lles emosiynol plant ac anhwylderau iechyd meddwl ac anhwylderau datblygiadol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu hyfforddiant ac ymgynghoriadau i ymarferwyr gofal sylfaenol, a bydd yn darparu cyngor uniongyrchol, yn cyfeirio ac yn sicrhau ymyrraeth fer i blant a phobl ifanc sydd â phryderon ynghylch lles emosiynol. Bydd yr ymarferydd yn gweithio fel rhan o wasanaeth Cymorth Cynnar CAMHS ehangach i sicrhau darparu gwasanaethau’n amserol.

Bydd deilydd y swydd wedi alinio â thîm Cymorth Cynnar CAMHS a’r tîm CAMHS lleol gan ddatblygu a chynnal perthynas agos â'n Un Pwynt Mynediad CAMHS, tîm asesu, a’r Tîm Amlddisgyblaethol CAMHS ehangach.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.  

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

CYMWYSTERAU

Meini prawf hanfodol
  • Gweithiwr proffesiynol iechyd neu ofal cymdeithasol cofrestredig gyda chofrestriad proffesiynol gweithredol. Yn gymwys i arfer o dan y mesur Iechyd Meddwl Cymru 2010. Mae hyn yn cynnwys nyrsys iechyd meddwl cofrestredig, gweithwyr cymdeithasol(cofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru)
  • Gradd Meistr Clinigol neu addysg neu brofiad cyfatebol yn nodi perfformiad ar lefel meistr mewn pwnc sy’n berthnasol ir swydd
Meini prawf dymunol
  • Cymwys i ymarfer dan Fesur Iechyd Meddwl
  • Cymhwyster reoli neu arweinyddaeth ôl-radd
  • Cymhwyster therapiwtig ffurfiol ychwanegol mewn therapi ar sail tystiolaeth sy’n berthnasol i drin iechyd meddwl plant a phobl ifanc

PROFIAD

Meini prawf hanfodol
  • Profiad perthnasol sylweddol mewn swydd glinigol iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
  • Cofnod o ddatblygiad proffesiynol parhaus arwyddocaol yn cynnwys canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar
  • Profiad o ddatblygu gwasanaeth
  • Profiad profedig o greu/hyrwyddo amgylchedd dysgu
  • Profiad o addysgu, mentora a hyfforddi
  • Profiad o addysgu defnyddwyr y gwasanaeth a rhannu gwybodaeth iddynt
  • Datblygu lefelau uwch o annibyniaeth
  • Asesu a rheoli risg
  • Yn cynnwys modelau ymgynghoriad sengl a therapi byr
  • Ymgysylltu â defnyddwyr y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
  • Ymchwil
  • Gweithio mewn lleoliad gofal cychwynnol neu Feddyg Teulu
  • Profiad o ddatblygu gwansanaethau

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Christine Griffiths
Teitl y swydd
Clinical Services Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 856023
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg