Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Nyrsio Iechyd Meddwl
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
37.5 awr yr wythnos (Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos)
Cyfeirnod y swydd
050-HMP-NMR006-1026
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
CEM Berwyn
Tref
Wrecsam
Cyflog
£50,129 - £57,365 Y Flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/11/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Rheolwr Tîm - Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu - CEM

Gradd 7

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Rheolwr Tîm profiadol i ymuno â'r Tîm Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu o fewn y Gwasanaeth Gofal Iechyd integredig yn CEF Berwyn.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddod â'ch cofrestriad proffesiynol, profiad clinigol helaeth, ac arbenigedd o ran arweinyddiaeth i wasanaeth sy'n gwneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau unigolion yn lleoliad y carchar. Rydym yn chwilio am arweinydd llawn cymhelliant sy'n drugarog ac yn flaengar sydd â sgiliau cyfathrebu a threfnu ardderchog, ynghyd ag ymrwymiad cryf i gefnogi, datblygu, a grymuso staff.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Fel Rheolwr Tîm, byddwch yn rhoi arweinyddiaeth weladwy ac yn effeithiol i dîm amlddisgyblaethol, gan sicrhau bod gofal o ansawdd uchel, sy'n ddiogel ac sy'n canolbwyntio ar gleifion yn cael ei gynnig. Byddwch yn cyflawni rôl hollbwysig o ran rhoi cymorth gyda'r broses o drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu'n barhaus, gan sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau ac arferion gweithredol yn parhau i gyd-fynd ag amcanion strategol, datblygiadau gwasanaeth, a safonau arfer gorau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain y  broses o roi dulliau arloesol ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar waith, gan feithrin diwylliant o wella, dysgu, a datblygiad proffesiynol parhaus. Byddwch yn cynnal presenoldeb gweladwy a hawdd mynd atoch o fewn y gwasanaeth, gan roi arweiniad, cymorth, a chyngor arbenigol i staff gan hybu amgylchedd gwaith cadarnhaol, cynhwysol, a thrugarog.

Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol a deinamig sy'n gallu dod ag arbenigedd a brwdfrydedd i'r rôl heriol a gwerth chweil hon. Byddwch yn rhoi cymorth i'r tîm o ran cyflawni'r safonau uchaf o ran gofal trwy lywodraethu clinigol effeithiol, dulliau cadarn o ran rheoli risg, sicrwydd ansawdd, a mentrau gwella gwasanaethau. Trwy annog arloesi, atebolrwydd, a chydweithio, byddwch yn helpu i sicrhau bod modd darparu gwasanaethau sy'n ddiogel, yn effeithiol ac sy'n canolbwyntio ar adferiad sy'n gwella canlyniadau i'r unigolion sydd yn ein gofal.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol.

Sylwer bod unrhyw gynnig cyflogaeth yn amodol ar gael gwiriad DBS a chliriad charchar llwyddiannus. 

Sylwch os bydd eich cais yn llwyddiannus ac y cewch  eich gwahodd i gyfweliad, cânt eu cynnal ar y safle yn CEF Berwyn er mwyn sicrhau bod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth am yr amgylchedd. Ni dderbynnir ceisiadau am gyfweliadau rhithiol.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • RMN
  • Addysg Ôl-Radd mewn maes perthnasol
  • Tystiolaeth o fod wedi datblygu ymarfer clinigol ac o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol ar Fand 6 neu 7 neu gyfwerth
  • Profiad blaenorol mewn rôl oruchwylio neu reoli
  • Profiad o gefnogi’r gwaith o weithredu polisïau, protocolau a chanllawiau clinigol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddefnyddio systemau gwybodaeth glinigol
  • Profiad o arwain tîm clinigol mewn carchar neu amgylchedd dan glo

Tueddfryd a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu gweithio heb oruchwyliaeth
  • Tystiolaeth y gallwch reoli eich llwyth gwaith a’i amseru’n effeithiol a gallu dirprwyo i eraill yn briodol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Robert Lightburn
Teitl y swydd
Head of Healthcare
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01978523132
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg