Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Research
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Cyfnod Penodol: 9 mis (Mae’r swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 9 mis tan 01/08/2027 oherwydd cyfnod mamolaeth)
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 028-AC205-1026
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- 2 Chwarter y Brifddinas
- Tref
- Caerdydd
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 18/11/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Cymrawd Ymchwil a Gwerthuso (Iechyd y Cyhoedd)
Gradd 7
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn ac Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Nodyn Pwysig ar gyfer swyddi a gaiff eu cynnig ar sail tymor penodol neu secondiad.
Gall unigolion sydd â swydd barhaol (sylfaenol) yn y GIG ond gael eu penodi drwy secondiad. Bydd angen i’ch Rheolwr llinell presennol roi cymeradwyaeth ar gyfer secondiad cyn gellir cyflwyno cais.
Trosolwg o'r swydd
Mae hwn yn gyfle newydd cyffrous i Gymrawd Ymchwil a Gwerthuso ymuno ag Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd deiliad y swydd yn helpu i ddatblygu a llunio rhaglen gadarn o werthuso ymyriadau a rhaglenni iechyd y cyhoedd cymhleth trwy ddefnyddio methodolegau priodol ar gyfer gwerthuso prosesau a chanlyniadau.
Bydd gennych hanes profedig o werthuso, gan gynnwys gweithio ar draws cylch bywyd llawn gwerthuso prosiectau o waith cwmpasu, datblygu damcaniaeth, dylunio gwerthusiad, casglu data, dadansoddi, crynhoi, adrodd a lledaenu. Bydd gennych brofiad o reoli’r gwaith o werthuso prosiectau iechyd y cyhoedd cymhleth mewn lleoliadau byd go iawn, gan gydbwyso trylwyredd methodolegol â realiti gweithredol a pholisi. Mae hyn yn cynnwys addasu dulliau gwerthuso i flaenoriaethau rhanddeiliaid sy'n newid, cyd-destunau cyflawni, anghenion tystiolaeth, a chyfyngiadau sy'n gysylltiedig â data, amserlenni neu adnoddau.
Mae'r swydd hon yn rhan o dîm cefnogol ac amlddisgyblaethol, sydd wedi'i wreiddio o fewn Cyfarwyddiaeth â ffocws cryf ar dystiolaeth, data a gwyddor data ym maes iechyd y cyhoedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod â dawn i ddatrys problemau, ac yn cael ei ysgogi gan gyflwyno tystiolaeth gadarn i lywio camau gweithredu a gwneud gwahaniaeth i iechyd y boblogaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod ag arbenigedd cryf mewn dulliau cymysg a phrofiad helaeth o werthuso rhaglenni, polisïau ac ymyriadau iechyd y cyhoedd cymhleth. Bydd yn fedrus iawn wrth ddefnyddio dulliau ansoddol i archwilio gweithrediad, cyd-destun, mecanweithiau newid a phrofiadau rhanddeiliaid, ochr yn ochr â dulliau meintiol cymhwysol megis arolygon ar raddfa fawr, dadansoddi data arferol a chysylltiedig, dulliau lled-arbrofol a dyluniadau gwerthuso canlyniadau.
Rydym yn chwilio am werthuswr eithriadol, sy'n gallu llywio cymhlethdod ac ansicrwydd, meithrin consensws ar draws blaenoriaethau cystadleuol, trosi tystiolaeth yn fewnwelediadau ymarferol, a chyfathrebu'n effeithiol â chynulleidfaoedd technegol ac annhechnegol.
Os hoffech drafod y swydd, cysylltwch â'r Tîm Gwerthuso: [email protected]
Fel rhan o'r swydd hon, bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio 1-2 ddiwrnod y mis o'n swyddfa yng Nghaerdydd. Efallai y bydd angen presenoldeb ychwanegol, er enghraifft, ar gyfer cyfarfodydd allweddol, hyfforddiant, digwyddiadau, neu i gefnogi darparu gwasanaethau. Dylai ymgeiswyr sicrhau eu bod yn gallu bodloni'r gofyniad hwn. Gellir adolygu disgwyliadau presenoldeb yn y swyddfa yn unol ag anghenion y sefydliad a'r gwasanaeth.
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – yr asiantaeth iechyd y cyhoedd genedlaethol yng Nghymru. Ein pwrpas yw ‘Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Gyda'n partneriaid, rydym yn gweithio i gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae ein timau'n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd y cyhoedd. Ni yw prif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mewn byd sy'n wynebu heriau iechyd cymhleth, nid yw ein gwaith erioed wedi bod mor bwysig.
Rydym yn cael ein harwain gan ein Gwerthoedd, 'Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle cynhwysol sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac sy'n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser a rhannu swyddi.
I gael gwybod rhagor am weithio i ni a’r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae’r swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 9 mis tan 01/08/2027 oherwydd cyfnod mamolaeth
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon
Gallwch ddod o hyd i Swydd-ddisgrifiad a’r Fanyleb Person llawn wedi eu hatodi gyda’r dogfennau ategol, neu cliciwch ar “Gwneud Cais Nawr” i'w gweld yn Trac.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
CYMWYSTERAU A GWYBODAETH
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth mewn pwnc mathemategol, ystadegol, iechyd, ymchwil gweithredol, gwyddor gymdeithasol gydag elfen ymchwil a/neu werthuso gref.
- Diploma ôl-raddedig neu radd Meistr mewn iechyd, gwyddor gymdeithasol neu ymchwil iechyd y cyhoedd.
- Tystiolaeth o wybodaeth am gymwyseddau craidd Iechyd y Cyhoedd ar lefel meistr, neu gyfwerth.
- Gwybodaeth am ystod o ddulliau meintiol ar gyfer ymchwil a gwerthuso.
- Gwybodaeth am ddulliau o reoli a dadansoddi ffynonellau data cysylltiedig cymhleth.
- Deall a chymhwyso prosesau, polisïau a gweithdrefnau ymchwil, moeseg, data a llywodraethu gwybodaeth y GIG
Meini prawf dymunol
- Doethuriaeth mewn pwnc cysylltiedig ag Iechyd y Cyhoedd, neu lefel gyfatebol o brofiad
- Tystiolaeth o ymrwymiad parhaus i ddatblygiad proffesiynol.
- Gwybodaeth am bolisïau a strategaethau Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru.
- Gwybodaeth am anghydraddoldebau iechyd.
- Gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd.
PROFIAD
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol y gellir ei ddangos o ddefnyddio dulliau ystadegol mewn ymchwil a/neu werthuso iechyd y cyhoedd cymhwysol
- Profiad amlwg yn arwain at wybodaeth arbenigol ddatblygedig iawn mewn ymchwil neu werthuso sy'n berthnasol i iechyd y cyhoedd, neu faes cysylltiedig.
- Profiad o arwain, datblygu a chyflwyno ymchwil i ysgogi gweithredu o fewn polisi a/neu ymarfer iechyd y cyhoedd, neu mewn maes cysylltiedig.
- Profiad o ddatblygu a gweithredu prosiectau neu werthusiadau ymchwil meintiol, gan gynnwys dadansoddi ac ysgrifennu canfyddiadau.
- Profiad o weithredu ystod o ddulliau dadansoddi meintiol mewn perthynas ag iechyd.
- Profiad o gyfrannu at raglenni ymchwil a gwerthuso dulliau cymysg.
- Profiad o drin setiau data cysylltiedig mawr a chymhleth.
Meini prawf dymunol
- Profiad o gynnwys cleifion a'r cyhoedd mewn ymchwil, yn enwedig o weithio gyda chymunedau ethnig a chymdeithasol amrywiol
- Profiad blaenorol o ddatblygu cynigion ymchwil a cheisiadau am gyllid
- Hanes academaidd o gyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid
Doniau a Galluoedd (SGILIAU)
Meini prawf hanfodol
- Rheoli data (data newydd a data a gesglir yn rheolaidd) a sgiliau dadansoddi.
- Sgiliau codio uwch mewn ystod o becynnau meddalwedd dadansoddol (e.e. R, SQL).
- Sgiliau TG uwch gan gynnwys Microsoft Office.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a chyflwyniad rhagorol.
- Sgiliau rheoli rhanddeiliaid a rhyngbersonol effeithiol.
- Yn gallu trosi cymhlethdod yn gynlluniau a chamau gweithredu.
- Sgiliau trefnu rhagorol gyda'r gallu i gynllunio, rheoli amser a blaenoriaethu eich gwaith eich hun a gwaith eraill yn effeithiol.
Meini prawf dymunol
- Sgiliau hwyluso a negodi amlwg.
- Sgiliau datblygu cod dadansoddol y gellir ei atgynhyrchu
NODWEDDION A GWERTHOEDD PERSONOL (Y gellir eu dangos)
Meini prawf hanfodol
- Rhoi sylw i fanylion
- Gallu amlwg i weithio dan bwysau, cynllunio a rheoli eich llwyth gwaith eich hun.
- Rhagweithiol, yn gallu ysgogi eich hun ac eraill.
- Dangos ymrwymiad personol i iechyd y cyhoedd trwy ddewisiadau ffordd o fyw iach a chynaliadwy lle bynnag y bo modd.
Meini prawf dymunol
- Dangos y gallu i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol.
- Ymrwymiad a phrofiad o ddatblygu eraill.
ARALL
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu teithio
- Yn gallu gweithio oriau hyblyg pan fo angen
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Esther Mugweni
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Evaluation
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector











