Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Pediatrig acíwt
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener; bydd y diwrnodau gwaith penodol yn amrywio yn unol ag anghenion y gwasanaeth.)
Cyfeirnod y swydd
050-AC174-0526W-B
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Gwynedd
Tref
Bangor
Cyflog
£26,300 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
25/10/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Clerc Apwyntiadau Cleifion / Swyddog Clercyddol - Pediatrig Aciwt

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Rydym yn dymuno  penodi Clerc Apwyntiadau/Swyddog Clerigol egnïol a brwdfrydig i weithio o fewn yr Adran Bediatrig Acíwt yn Ysbyty Gwynedd, Bangor i ddarparu gwasanaeth apwyntiadau proffesiynol, effeithlon ac effeithiol ar gyfer amrywiaeth o glinigau cleifion allanol pediatrig acíwt.

Bydd angen i ymgeiswyr  ddangos y gallu i defnyddio gallu menter eu hunain a'r gallu i flaenoriaethu gofynion sy'n gwrthdaro.  

Rhaid i ymgeiswyr allu dangos agwedd hyblyg a pharodrwydd i ddarparu cymorth gweinyddol yn unol â blaenoriaethau gwasanaeth sy’n newid.
 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm apwyntiadau bychan, gan gefnogi'r gwaith o ddarparu Gwasanaeth Pediatreg Acíwt.  Bydd hyn yn golygu gweithio'n agos gydag aelodau eraill o'r tîm yn ogystal â gweithio'n agos gydag adrannau/timau eraill gan gynnwys staff paratoi clinig, ysgrifenyddion meddygol, staff adrannau cleifion allanol, staff meddygol, nyrsys arbenigol a chydag Arweinwyr Tîm a Rheolwyr Gweinyddol drwy gydol y gwasanaeth i gyflawni'r blaenoriaethau’r gwasanaeth, gan gynnwys targedau mynediad a gwasanaeth archebu sy’n canolbwyntio ar y claf.

 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg  a modd dymunol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer  yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i arddangos Saesneg/Cymraeg a Mathemateg at lefel TGAU neu brofiad cywerth
  • OCR/RSA lefel 1 Prosesu Geiriau neu brofiad cywerth
Meini prawf dymunol
  • CGC II Gweinyddu/gofal cwsmer

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i ddefnyddio systemau gwybodaeth electronig
  • Y gallu i gyfrannu’n adeiladol at waith tîm
  • Y gallu i weithio ar liwt eich hunan, tra’n deall yr angen i ofyn am gyngor gan uwch staff pan fo angen.
  • Llawysgrifen ddarllenadwy a'r gallu cofnodi gwybodaeth yn gywir
  • Gallu cyfleu gwybodaeth yn glir ac yn sensitif yn bersonol a thros y ffôn
Meini prawf dymunol
  • Pecynnau prosesu geiriau sylfaenol
  • Taenlenni Excel
  • ECDL
  • WAPS

Gofynion perthnasol eraill

Meini prawf hanfodol
  • Trwsiadus
  • Gweithio’n effeithiol dan bwysau mewn amgylchedd clinigol
  • Agwedd hyblyg at waith.
  • Aelod o dîm
  • Yn siarad Cymraeg

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o glercio/gwaith swyddfa
Meini prawf dymunol
  • Profiad GIG blaenorol

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gweithio efo'r cyhoedd neu asiantaethau eraill

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Victoria Higton
Teitl y swydd
Acute Paediatrics Administration Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 842109
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg