Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Trawma ac Orthopedeg
Gradd
Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd Locwm
Contract
5 mis (Cyfnod penodol tan ddiwedd mis Mawrth 2027)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (10 sesiwn)
Cyfeirnod y swydd
100-MED-PPH-148-L
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty'r Tywysog Philip
Tref
Llanelli
Cyflog
£125,509 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
01/11/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ymgynghorol Locwm T&O mewn Llawfeddygaeth Cymalffurfiad Coesau a Traed

Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd Locwm

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am Lawfeddyg Ymgynghorol Locwm brwdfrydig ac uchel ei gymhelliant ym maes Trawma ac Orthopedeg, sydd â diddordeb arbenigol mewn cymalffurfiad cynradd y coesau a’r traed, i ymuno â’n tîm am gyfnod penodol tan 31 Mawrth 2027.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfrannu at y rhaglen adfer dewisol barhaus ledled De-orllewin Cymru, gan gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cymalffurfiad cynhyrchiol trwy’r cydweithio orthopedig rhanbarthol rhwng Byrddau Iechyd Hywel Dda a Phrifysgol Bae Abertawe. Cyflawnir cyfran sylweddol o’r gweithgarwch theatr dewisol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn rhan o’r rhaglen ranbarthol, gyda gweithgareddau cleifion allanol, gweinyddol a chlinigol eraill yn cael eu cynnal ar draws safleoedd yn y naill Fwrdd Iechyd neu’r llall yn ôl y gofyn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm Trawma ac

Orthopedeg cefnogol a blaengar sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal o safon i gleifion, gwella mynediad at driniaeth a chyflawni safonau cynhyrchiant cenedlaethol. Mae’r rôl yn gyfle i ganolbwyntio’n bennaf ar gymalffurfiad cynradd dewisol y glun a’r pen-glin wrth weithio ochr yn ochr â thimau amlddisgyblaethol profiadol ledled y rhanbarth.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gwasanaethau Trawma ac Orthopedeg dewisol gyda ffocws penodol ar gymalffurfiad cynradd y glun a’r pen-glin. Bydd cyfrifoldebau yn cynnwys ymgymryd â chlinigau cleifion allanol, rhestrau llawdriniaeth ddewisol, adolygiadau ward a gweinyddiaeth glinigol gysylltiedig, gan sicrhau y darperir gofal diogel, effeithiol sy’n canolbwyntio ar y claf.

Bydd deiliad y swydd yn cydweithio â chyd-weithwyr ymgynghorol, timau anestheteg, staff theatr, timau nyrsio a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i ddarparu gwasanaethau orthopedig o ansawdd uchel a chyflawni lefelau gweithgarwch y cytunwyd arnynt. Bydd yn cyfrannu at asesu, trin a rheoli’n barhaus y cleifion y mae angen llawdriniaeth gosod cymal newydd arnynt, a bydd yn cefnogi llwybrau cleifion effeithlon o’r atgyfeirio hyd at y rhyddhau.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gymryd rhan mewn gweithgareddau llywodraethu clinigol gan gynnwys mentrau archwilio, gwella ansawdd a datblygu gwasanaethau, gan gynnal safonau uchel o ymarfer clinigol a diogelwch cleifion. Bydd hefyd yn cyfrannu at addysgu a goruchwylio staff meddygol iau ac yn cefnogi datblygiad gwaith amlddisgyblaethol.

Rydym yn chwilio am glinigydd sydd â sgiliau llawfeddygol, cyfathrebu a threfnu rhagorol, ymrwymiad i waith tîm a gwelliant parhaus, a’r gallu i weithio’n hyblyg o fewn model gwasanaeth rhanbarthol cydweithredol.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford 

  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 

  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 

  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre 

  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â sgiliau clinigol a llawfeddygol rhagorol, ymrwymiad i ofal sy’n canolbwyntio ar y claf, a’r gallu i weithio’n effeithiol ar draws ffiniau sefydliadol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at weithgareddau datblygu gwasanaethau, llywodraethu, addysgu a gwella ansawdd gan helpu i ddarparu gwasanaethau orthopedig dewisol cynaliadwy i boblogaeth De-orllewin Cymru.

Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle i weithio o fewn model rhanbarthol cydweithredol ar adeg o drawsnewid gwasanaeth sylweddol, gan fwynhau manteision ffordd o fyw a gweithio yn Ne-orllewin Cymru.

I gael holl fanylion gofynion y rôl, gweler y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person sydd ynghlwm ar gyfer y swydd hon.

Bydd trafodaethau ynghylch patrwm gweithio yn digwydd yn ystod cynllunio swyddi cychwynnol, lle gellir trafod ac archwilio dewisiadau, gofynion ac opsiynau yn llawn.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf, gan sicrhau bod ein cymuned yn cael y gofal gorau posibl. Rydym yn gwerthfawrogi cynhwysiant ac yn meithrin diwylliant gweithle sy'n cofleidio amrywiaeth ac yn cefnogi cyfraniad pob unigolyn tuag at amgylchedd gofal iechyd croesawgar.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymdeithas ac rydym wedi ymrwymo i greu gweithle amrywiol a chynhwysol.

Gweler y dolenni isod am fideos defnyddiol sy'n ymwneud â'r swydd hon:

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad llawn a Thrwydded i Ymarfer gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
  • Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig a Dilys.
  • Cwblhau Arholiadau perthnasol y Coleg Brenhinol (neu gyfwerth).
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster(au) Uwch ychwanegol.

Profiad Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • Profiad eang o fewn y maes arbenigedd.
  • Gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
  • Profiad o arwain tîm.
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o weithio yn y DU neu'r GIG.

Addysgu

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i asesu'n feirniadol gofynion dysgu ar gyfer eich hun ac eraill.
  • Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu pob grŵp staff.
  • Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster addysgu.

Ymchwil ac Ysgolheictod

Meini prawf hanfodol
  • Arddangos gwybodaeth am ymchwil gyfredol ac arfer gorau yn y maes arbenigedd.
  • Tystiolaeth o gadw'n gyfredol â'r ymchwil a'r arfer gorau.
  • Tystiolaeth o leoli a defnyddio canllawiau clinigol yn briodol.
  • Tystiolaeth o gyfathrebu a dehongli tystiolaeth ymchwil mewn ffordd ystyrlon.
Meini prawf dymunol
  • Cyfranogiad gweithredol mewn ymchwil.

Llywodraethu Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth o rôl Llywodraethu Clinigol.
  • Cyfranogiad mewn archwiliad clinigol (neu brosiect gwella ansawdd) a deall rôl archwilio wrth wella ymarfer meddygol.
  • Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am reoli risg.

Diogelu

Meini prawf hanfodol
  • Dangos gwybodaeth am ofynion diogelu a chymryd cyfrifoldeb priodol.
  • Tystiolaeth o gymhwyso deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth briodol.

Arall

Meini prawf dymunol
  • Siarad Cymraeg (Lefel 1)

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Gallu gweithio'n annibynnol a bod yn gyfrifol am weithredoedd.
  • Gallu bod yn bwyllog wrth weithio o dan bwysau
  • Ymgymryd â chyfrifoldeb am arwain a goruchwylio tîm
  • Sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau rhyngbersonol rhagorol.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lianne Gregory
Teitl y swydd
Service Delivery Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07929863117
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg