Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gofal yr Henoed
Gradd
Ymgynghorydd
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-YG-COTE-1026
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Gwynedd
Tref
Bangor
Cyflog
£114,099 - £166,585 pro rata y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
05/11/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
20/11/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Meddyg Ymgynghorol Gofal yr Henoed

Ymgynghorydd

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae'r Bwrdd Iechyd yn dymuno penodi Meddyg Ymgynghorol / Geriatregydd ychwanegol i ymuno â'r tîm Gofal yr Henoed presennol yn is-adran y Gorllewin ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Gogledd-orllewin Cymru. Mae swydd wedi e’i lleoli yn Ysybyty Gwynedd, Bangor, a byddwn yn cysidro ymgeisydd rhan-amser am y person cywir. 

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddiddordeb mewn is-arbenigedd, ac rydym yn barod i ystyried ystod eang o feysydd is-arbenigol ar gyfer yr ymgeisydd cywir. Mae hyn yn adlewyrchu ein huchelgais i ddatblygu uned eiddilwch bwrpasol o fewn yr ysbyty acíwt, ynghyd ag ehangu mentrau cymunedol sy'n anelu at leihau derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi. O ystyried ehangu parhaus Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, gellid hefyd ystyried cyfleoedd i ymgymryd â chyfrifoldebau addysgu a goruchwylio addysgol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus:

  • Ddatblygu a chefnogi diddordeb is-arbenigol cydnabyddedig, megis eiddilwch acíwt, geriatreg gymunedol neu orthogeriatreg.
  • Darparu goruchwyliaeth, addysgu a chefnogaeth i feddygon iau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.
  • Cyfrannu at addysg feddygol israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys myfyrwyr o Brifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe.
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau llywodraethu clinigol, gwella ansawdd, archwilio clinigol, arfarnu, ailddilysu a datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
  • Cyfrannu at brosiectau datblygu a thrawsnewid gwasanaethau ar draws gwasanaethau geriatrig acíwt a chymunedol.
  • Cymryd rhan mewn ymchwil, addysg ac arloesi lle bo’n briodol.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, ac mae ganddo gyllideb gwerth mwy nag £2.4 biliwn ac mae'n cyflogi mwy na 20,000 aelod o staff yn ei weithlu

Mae BIPBC yn darparu ystod lawn o wasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl a gwasanaethau ysbytai acíwt ac arbenigol mewn 3 ysbyty acíwt, 22 ysbyty cymunedol a rhwydwaith o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd yn y gymuned ac unedau iechyd meddwl. Mae hefyd yn cydlynu neu’n darparu gwaith practisau meddygon teulu a gwasanaethau’r GIG a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllwyr ar draws y rhanbarth.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn system iechyd integredig sy'n ymdrechu i ddarparu gofal tosturiol rhagorol gan gydweithio â'r sector cyhoeddus a sefydliadau statudol eraill, a sefydliadau yn y trydydd sector.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Anogir ymgeiswyr i gyfeirio at y Disgrifiad Swydd a Manyleb yr Unigolyn sydd ynghlwm am ragor o wybodaeth.

Os ydych yn barod i gael effaith sylweddol ar ddyfodol gofal iechyd yng Ngogledd Cymru a'ch bod yn meddu ar y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon, rydym yn eich gwahodd i wneud cais.

Anogir sgyrsiau anffurfiol cyn gwneud cais.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad Arbenigol GMC llawn mewn Geriatreg neu i fod i gael CCT o fewn 6 mis i'r dyddiad cyfweliad. Rhaid i ymgeiswyr Llwybr Portffolio (a elwid gynt yn CESR) gael Cofrestriad Arbenigol GMC ar y pwynt ymgeisio
  • MRCP
  • Addysg uwch bellach
  • Aelod o Gymdeithasau Arbenigol sy'n canolbwyntio ar waith
Meini prawf dymunol
  • Gradd Uwch neu Ddiploma priodol arall
  • Cwrs / sgiliau arfarnu critigol
  • Cwrs / cymhwyster addysgu

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad perthnasol fel hyfforddai ym maes meddygaeth fewnol gyffredinol
  • Diddordeb mewn is-arbenigeddau meddygol eraill
  • Tystiolaeth o hyfforddi eraill fel rhan o hunanddatblygiad
  • Tystiolaeth o ymrwymiad i addysgu hyfforddeion
Meini prawf dymunol
  • Profiad perthnasol a diweddar ym maes meddygaeth geriatrig

Gwybodaeth a Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Tystiolaeth o weithgarwch archwilio diweddar
  • Dealltwriaeth o'r materion Strategol a Gweithredol sy'n sail i Lywodraethu Clinigol a'u cymhwysiad mewn ymarfer pob dydd a thystiolaeth o hynny.
  • Tystiolaeth o ymrwymiad i Ddysgu Gydol Oes a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
  • Sgiliau arwain da
  • Sgiliau trefnu a rheoli da
  • Y gallu i weithio mewn tîm amlddisgyblaethol
Meini prawf dymunol
  • Wedi cyhoeddi papurau yn ystod y tair blynedd diwethaf
  • Tystiolaeth o addysgu grwpiau eraill o staff (nyrsio, parafeddygon, ac ati)

Gofynion Ychwanegol

Meini prawf hanfodol
  • Sicrhau bod ei werthoedd yn cyd-fynd â rhai’r Bwrdd Iechyd.
  • Brwdfrydedd a'r gallu i weithio o dan bwysau
  • Y gallu i deithio er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg neu'r parodrwydd i ddysgu Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dr Conor Martin
Teitl y swydd
COTE Consultant and Clinical Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 851409

Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â

Cyfeiriad
Abergele Hospital
LLanfair Road
Abergele
Rhif ffôn
03000843798
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg