Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Switsfwrdd y Gwasanaethau Digidol
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 24 awr yr wythnos (Gweithio shifftiau, gan gynnwys gyda’r nos, nosweithiau ac ar benwythnosau)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-EA092-1126
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili a Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- Caerfyrddin and Llanelli
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 y flwyddyn, y pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 22/11/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 30/11/2026
Teitl cyflogwr
Gweithredwr Switsfwrdd (Sir Gâr)
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am unigolion brwdfrydig, proffesiynol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i ymuno â’n Tîm Gwasanaethau Switsfwrdd, a hynny i gefnogi Ysbyty Cyffredinol Glangwili ac Ysbyty’r Tywysog Philip.
A chithau’n bwynt cyswllt cyntaf i lawer o gleifion, ymwelwyr a staff, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau cyfathrebu effeithlon ar draws ein gwasanaethau gofal iechyd. Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd â sgiliau cyfathrebu cryf, sy’n ffynnu mewn amgylchedd prysur ac sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
A chithau’n Weithredwr Switsfwrdd, byddwch yn gwneud y canlynol:
- Gweithredu systemau telathrebu a switsfwrdd y Bwrdd Iechyd
- Ateb a chyfeirio galwadau ffôn mewnol ac allanol yn brydlon ac yn broffesiynol.
- Ymateb i alwadau brys ac argyfwng yn unol â’r gweithdrefnau sefydledig.
- Darparu cymorth a gwybodaeth gywir i alwyr.
- Monitro ac ysgogi systemau ymateb brys yn ôl y gofyn.
- Cynnal cyfrinachedd a chydymffurfio â pholisïau’r GIG a safonau llywodraethu gwybodaeth.
- Cydweithio’n rhan o dîm i sicrhau bod gwasanaeth 24/7 yn cael ei gynnal.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 30/11/2026
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Wedi eich addysgu hyd at NVQ Lefel 3
- Gwybodaeth ymarferol o systemau cyfrifiadurol a’r gallu i ddefnyddio pecynnau TG (e.e. Microsoft Office neu gyfwerth)
Meini prawf dymunol
- Wedi eich addysgu hyd at NVQ Lefel 4
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio ar switsfwrdd/mewn canolfan alwadau
- Profiad o weithio mewn rôl sy’n ymwneud â chleifion/chwsmeriaid
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd prysur, heriol gyda blaenoriaethau gwrthgyferbyniol
- Profiad o weithio yn amgylchedd y GIG
- Gwybodaeth am derminoleg feddygol sylfaenol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio’n hyblyg ac ymdopi â llwyth gwaith anwadal
- Yn gallu gweithio oriau anghymdeithasol
- Parodrwydd i ddysgu Cymraeg
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sarah Brain
- Teitl y swydd
- Head of Digital Business & Engagement
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07483125974
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





