Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gofal iechyd cymunedol
- Gradd
- Gradd 6/ Annex 21
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Sifftiau sy'n cwmpasu 7 diwrnod rhwng oriau gweithredu o 8am ac 8pm)
- Cyfeirnod y swydd
- 070-NMR101-1026
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Montgomery County Infirmary
- Tref
- Newtown
- Cyflog
- £40,559 - £48,841 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 02/11/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Dirprwy Arweinydd Tîm Nyrsys Ardal (Annex 21a)
Gradd 6/ Annex 21
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi'n edrych i wneud y gwahaniaeth go iawn ym mywydau pobl eraill drwy ddarparu gofal eich ffordd chi?
Wrth ymuno â'r Nyrsys Ardal ym Mhowys byddwch yn gallu gweithio'n annibynnol ar draws lleoliad gwledig ysblennydd i ddarparu amrywiaeth o ofal nyrsio sy'n creu newid gwirioneddol ym mywydau’r gymuned. Byddwch yn rhan o rywbeth arbennig.
Hysbysebir y swydd hon fel Band 6, ond anogir ymgeiswyr nad ydynt ar hyn o bryd â'r holl gymwyseddau angenrheidiol i lefel Band 6 i wneud cais ac, os yn llwyddiannus, byddant yn cael eu penodi dan reolau Atodiad 21 lle bydd 75% o frig Band 6 yn daladwy yn ystod y 12 mis cyntaf neu nes bod cymwyseddau Band 6 wedi'u cwblhau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae hwn yn gyfle delfrydol i nyrs gofrestredig sydd eisiau ehangu ei hystod o sgiliau a’i gwybodaeth am nyrsio pobl yn eu hamgylchedd eu hunain fel rhan o dîm amlddisgyblaeth. Bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan mewn darparu gofal nyrsio medrus, annibynnol i gleifion yn eu cartrefi eu hunain. Mae dyletswyddau’n cynnwys asesiad a chefnogaeth gofal lliniarol, gofal ar ddiwedd oes, cefnogi ac asesu unigolion a gofalwyr â chyflyrau iechyd tymor hir, hybu sgiliau hunanreoli a gofalu am friwiau.
Byddem yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg yn arbennig; ond hyd yn oed os nad ydych chi'n siarad unrhyw Gymraeg, neu os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau, peidiwch â phoeni; bydd y bwrdd iechyd yn eich cefnogi gyda hyfforddiant.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Rydyn ni’n edrych am nyrsys ymroddedig, llawn cymhelliant sydd eisiau bod yn rhan o dîm gofalgar a chefnogol. Ein nod ydy darparu gofal o safon ragorol i’r holl bobl yn ein cymuned. Yr unig ffordd i gyflawni hyn ydy bod â nyrsys sydd wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Mae’r swydd hon yn galw am weithio ar eich pen eich hun ac mae’n hanfodol gallu teithio’n annibynnol.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig NMC
- Post registration District Nursing qualification (BSc in relevant subject)
- Expeience of proactive caseload management of wide range of patients including those with chronic conditions
- For Band 6 Annex 21: to already be undertaking the 2 year qualification for DN SPQ
Meini prawf dymunol
- Independent prescribing qualification
- MSc Advanced clinical Practice
- Management/leadership qualification or equivalent preparation
- Experience at management level demonstrating ability to deliver improvements to service users care
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad mewn ystod eang o sgiliau clinigol
Meini prawf dymunol
- Medrusrwydd a hyder mewn ystod eang o sgiliau clinigol gan gynnwys gofal lliniarol, rheoli clefydau cronig a rheoli clwyfau
Doniau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Lefel uchel o sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu Y gallu i gael aelodau o’r cyhoedd i gymryd rhan Y gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm
- Sgiliau bysellfwrdd sylfaenol a llythrennedd ym maes TG
- Ability to engage with members of the public
- Ability to work independently and as part of a team
Meini prawf dymunol
- Ability to speak or learn Welsh to a satisfactory level
- Local knowledge of statutory and voluntary services
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Mae'r swydd yn y gymuned, felly mae'n hanfodol cael mynediad i gerbyd i deithio ledled yr ardal mewn modd amserol
- Ability to deal with complex/stressful situations
- Able to work in a multi/disciplinary/multi-agency arena
- Excellent organisational skills
- Flexible working pattern
- Post is community base, the ability to travel throughout the locality in a timely manner is essential
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Samantha Price
- Teitl y swydd
- Lead District Nurse North Powys
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07769189281
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector







