Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
CAMHS
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-ACS879-1126
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gwasanaeth Glasoed Gogledd Cymru
Tref
Abergele
Cyflog
£28,819 - £31,626 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
24/11/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ymarferydd Cynorthwyol

Gradd 4

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi'n rywun brwdfrydig, awyddus sy'n dda mewn tîm sy'n chwilio am her newydd?  Byddwch angen dull hyblyg, a bod yn gallu dangos hyder yn eich sgiliau a'ch galluoedd.  Gwahoddir ceisiadau ar gyfer Ymarferydd Cynorthwyyol Gradd 4 llawn amser yn gweithio gyda'r tîm amlddisgyblaethol Cleifion Mewnol CAMHS Haen 4.   Bydd deilydd y swydd wedi'i leoli yng Ngwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru yn Abergele, a bydd disgwyl iddo gynnal asesiadau ac ymyriadau dan gyfarwyddyd yr uwch dîm nyrsio.   Bydd gofyn i ddeilydd y swydd hebrwng cleifion ar dripiau allan, felly mae'n rhaid iddo gael trwydded yrru.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth therapiwtig i bobl ifanc ar y ward cleifion mewnol dan gyfarwyddyd Rheolwr y Ward a'r Uwch Dîm Nyrsio.

Bod yn gyfrifol am gynllunio a blaenoriaethu eich llwyth gwaith a’ch gweithgareddau eich hun gan ddilyn y cyfarwyddyd a’r canllawiau a roddir gan aelodau’r Uwch Dîm.

Cynnal asesiad parhaus o bobl ifanc a gweithredu rhaglenni gofal neu ymyrraeth yn dilyn arweiniad gan aelodau'r Uwch Dîm.

Gweithio o fewn canllawiau a roddir gan y rheolwr goruchwylio.

Cynnal asesiad o gleientiaid trwy arsylwadau uniongyrchol ac anuniongyrchol.

Sicrhau bod dogfennau clinigol priodol yn cael eu cwblhau i gefnogi darparu gofal yn ddiogel.

Cynnal asesiadau ac ymyriadau yn unol â chyfarwyddyd y goruchwyliwr

Bod yn aelod o’r tîm amlddisgyblaethol priodol sy’n darparu gwasanaethau i’r bobl ifanc, dan arweiniad aelodau’r Uwch Dîm.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

CYMWYSTERAU

Meini prawf hanfodol
  • TGAU neu lefel "O" mewn Mathemateg a Saesneg, gradd C neu uwch a 4 arall neu gyfateb
  • NVQ Lefel 3 mewn pwnc perthnasol neu brofiad cyfwerth.
Meini prawf dymunol
  • NVQ Lefel 3 mewn pwnc perthnasol neu Gymhwyster ffurfiol ar lefel cyfwerth neu o leiaf un Lefel A

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol o weithio'n uniongyrchol i gefnogi plant mewn lleoliadau Iechyd, Addysg neu Ofal Cymdeithasol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio â phlant neu bobl ifanc ag anawsterau datblygiadol neu broblemau iechyd meddwl sylweddol
  • Profiad o weithio â phobl ifanc

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Gallu dilyn rhaglenni gofal ysgrifenedig
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser da
  • Cyfathrebu da â rhieni a phlant
  • Sgiliau rheoli ymddygiad da

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Deall datblygiad plant ac anghenion grwpiau oedran gwahanol

RHINWEDDAU PERSONOL (I’w dangos)

Meini prawf hanfodol
  • Yn hyblyg ac arloesol wrth ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
  • ddigynnwrf ond cymdeithasol a chyfeillgar

GOFYNION PERTHNASOL ERAILL (Nodwch)

Meini prawf hanfodol
  • Pharodrwydd i deithio i amrywiaeth o wahanol lefydd er mwyn gwneud y dyletswyddau
Meini prawf dymunol
  • Gallu cyfathrebu yn Gymraeg.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Yvonne Bradshaw
Teitl y swydd
Deputy Team Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 850056
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg