Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Hwylusydd Newid Busnes
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Cyfnod Penodol: 15 mis (Amser Penodedig tan 31ain Mawrth 2028)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 120-AC828-1126
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Canser Velindre
- Tref
- Caerdydd
- Cyflog
- £40,559 - £48,841 per annum
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/11/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Hwylusydd Newid Busnes - Gwasanaethau Digidol
Gradd 6
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
- Gofalgar
- Parchus
- Atebol
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre le arbennig ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Mae’n sefydliad anhygoel i weithio ynddo ac i ddatblygu eich gyrfa hefyd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnwys dwy adran, sef Canolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) a Thechnoleg Iechyd Cymru (HTW) yn disgyn dan adain yr Ymddiriedolaeth hefyd, ar ran Llywodraeth Cymru a GIG Cymru.
Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddion a chefnogaeth i staff.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o drafod y cyfle hwn gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae’r swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 15 mis tan 31ain Mawrth 2028 cwrdd gofynion y gwasanaeth.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Bydd yr Hwylusydd Newid Busnes yn hanfodol i sicrhau bod portffolio o brosiectau trawsnewid digidol clinigol ac anghlinigol yn cael eu hymgorffori a'u mabwysiadu'n llwyddiannus ar draws gwasanaethau o fewn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (Gwasanaethau Canser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru). Mae'r rôl hon yn chwarae rhan allweddol mewn hyrwyddo ffordd o weithio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, sy’n gynhwysol ac sy’n canolbwyntio ar ddatrys problemau o ran trawsnewid y gwasanaethau digidol yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Bydd yr ymgeisydd buddugol yn cefnogi mabwysiadu datrysiadau digidol yn llwyddiannus ac yn mesur eu heffaith hefyd.
O dan arweiniad y Rheolwr Newid Busnes, bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu pecynnau cymorth a gweithdai i helpu timau i gyflawni newid ac arloesi ar draws yr Ymddiriedolaeth. Disgwylir i ddeiliad y swydd arwain yn annibynnol ar weithgareddau gan gynnwys cynllunio, trefnu a hwyluso gweithdai a chyfarfodydd, datblygu pecynnau hyfforddi a chodi proffil cyfleoedd arloesi a thrawsnewid digidol yn fewnol ac yn allanol, i gefnogi newid digidol a gwireddu manteision.
Mae hon yn swydd cyfnod sefydlog / secondiad am 15 mis
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd angen iddynt weithio'n annibynnol gyda rhanddeiliaid i ddylunio pecynnau cymorth priodol a sicrhau bod datrysiadau’n cael eu defnyddio i'r eithaf.
Bydd angen i ddeiliad y swydd ymgysylltu'n rhagweithiol ar draws y sefydliad a meddu ar sgiliau dylanwadu, gweithio mewn partneriaeth ac adeiladu perthnasoedd cryf. Bydd yn rhaid iddynt hefyd adeiladu rhwydwaith o hyrwyddwyr ar draws y sefydliad, gwella cyfathrebu dwyffordd a chreu cyfleoedd i gydweithio ar wasanaethau digidol cyfredol a newydd o'r cychwyn cyntaf. Bydd angen iddynt hefyd reoli rhanddeiliaid a safbwyntiau gwrthgyferbyniol, gan ystyried eu lefelau dylanwad a'u buddiannau penodol.
Gweithio i'n sefydliad
Yn Ymddiriedolaeth Prifysgol Felindre, rydym yn falch o ddarparu gwasanaethau arbenigol ledled Cymru drwy Ganolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru, gyda chefnogaeth ein timau corfforaethol a'n partneriaethau â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac Iechyd Technoleg Cymru.
Wrth edrych tua’r dyfodol, rydym yn paratoi ar gyfer agor Ganolfan Ganser Felindre newydd (nVCC) yng Ngwanwyn 2027—carreg filltir gyffrous a fydd yn trawsnewid gofal canser i’n poblogaeth. Wedi’i lleoli o fewn cyrraedd hawdd i ddinas fywiog Caerdydd a harddwch trawiadol Bannau Brycheiniog, rydym yn cynnig amgylchedd gwaith unigryw sy’n cyfuno arloesedd, cydweithio ac ansawdd bywyd rhagorol.
Ers ein sefydlu ym 1994, mae ein gweithlu ymroddedig wedi parhau’n ffyddlon i gyflawni egwyddorion gofal doeth ar draws ystod eang o rolau. Rydym yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i wella’r gwasanaethau a ddarparwn ymhellach.
Mae popeth rydym yn ei wneud wedi’i seilio ar werthoedd ein Hymddiriedolaeth. Rydym yn ofalgar, yn barchus ac yn atebol yn y ffordd rydym yn gweithio gyda chleifion, rhoddwyr, partneriaid a’n gilydd—gan sicrhau ein bod yn darparu’r safonau uchaf o ofal wrth ymdrechu’n barhaus i wella.
Os ydych am weithio i sefydliad sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, sy’n croesawu arloesedd ac sy’n cynnig cyfleoedd gyrfa gwerth chweil mewn lleoliad ysbrydoledig, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw’r lle i chi.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd-ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person yn y
dogfennau ategol, neu cliciwch ar "Apply Now" i'w weld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd neu gymhwyster proffesiynol/rheoli cyfwerth.
- Profiad o reoli newid neu brofiad cyfwerth.
- Gwybodaeth helaeth o Microsoft Office
- Bod yn dechnegol gymwys gyda rhaglenni meddalwedd amrywiol (e.e. Microsoft Office, Clipchanp).
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus/hyfforddiant pellach
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am ddatrysiadau technoleg dysgu
- Cymhwyster Rheoli Newid, e.e. ‘Ymarferydd Rheoli Newid’ APMG neu gymhwyster BCS (Business Change Foundation).
- Cymhwyster Rheoli Prosiectau (e.e. PRINCE2)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- • Profiad o reoli newid neu brofiad cyfwerth.
- Profiad o gyflawni newid mewn sefydliad cymhleth.
- Profiad o hyfforddiant i gefnogi newid busnes
- Profiad/dealltwriaeth o wybodaeth, llwybrau a phrotocolau sy'n seiliedig ar gleifion y GIG
- Profiad o hwyluso gweithdai neu sesiynau hyfforddi.
- • Profiad o weithio gyda thimau amlddisgyblaethol ar lefelau amrywiol a bod ag ymrwymiad/profiad amlwg o weithio mewn partneriaeth.
Meini prawf dymunol
- • Nodi a dilysu buddion prosiect a metrigau gwerthuso.
- Profiad o gefnogi rhwydweithiau gydag ystod eang o staff ar draws sefydliad
Skills and Attributes
Meini prawf hanfodol
- • Yn gallu trafod a dylanwadu ar eraill mewn modd cadarnhaol ac yn meddu ar yr hyder i ymdrin â gwahanol flaenoriaethau a safbwyntiau gwahanol i ysgogi a chyflawni newid a gwelliant.
- • Sgiliau arwain, rhyngbersonol a chyfathrebu effeithiol gan gynnwys hwyluso, negodi, cyrchu, darparu a chyflwyno gwybodaeth.
- • Yn gallu addasu ac ymdrin â sefyllfaoedd a rheoli disgwyliadau yn ystod cyfnodau o newid a gallu ystyried y persbectif ehangach a sut mae'n effeithio ar feysydd eraill.
- • Yn gallu gweithio dan bwysau ac o fewn terfynau amser llym, gan gynnwys gofynion a blaenoriaethau newidiol.
- • Rhinweddau ychwanegol y gellir eu dangos a fydd o fudd i'r rôl e.e. cymhwysedd a chyfathrebu, ymddiriedaeth a theyrngarwch
- • Yn ofynnol i weithio ar eich liwt eich hun.
- • Ffocws cyflawni cryf, gyda'r gallu i yrru cynnydd ymlaen a phryder am ganlyniadau a chyflawni nodau.
- Bod yn ymwybodol yn wleidyddol ac yn ddiwylliannol.
Meini prawf dymunol
- • Sgiliau Cymraeg lefelau 1 i 5 mewn deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Chloe Page
- Teitl y swydd
- Digital Programme Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Tristan Fareel
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





.png)