Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ffisiotherapi
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AHP109-1126
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
Tref
Hwlffordd
Cyflog
£40,559 - £48,841 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
06/12/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
17/12/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ffisiotherapydd Arbenigol – Cylchdro

Gradd 6

Trosolwg o'r swydd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnig cyfle gwych i Ffisiotherapydd Arbenigol Cylchdro ymuno â’n tîm ymroddedig yn Sir Benfro, sy’n sir drawiadol o hardd.

Mae’r rôl hon yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau ar draws amrywiol feysydd clinigol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd a llesiant ein cymunedau lleol.

Er bod y cylchdro’n cael ei adolygu’n barhaus, dyma’r patrwm shifftiau cyfredol:

Meddygol/Anadlol

Orthopedeg

Ward strôc

Lleoliadau cymunedol, gan gynnwys ward adsefydlu

Tîm Gofal Canolraddol

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chadarnhaol, sydd â’r sgiliau a’r gallu i ysgogi ac ymgysylltu â’u cleifion, ac a all weithio’n annibynnol ac yn rhan o dîm. 

Bydd yn arwain ac yn addasu i arloesedd a datblygiadau i wasanaethau.

Bydd yn darparu cymorth goruchwylio a hyfforddi, a bydd yn meddu ar y gallu i weithio’n hyblyg ac yn gydweithredol mewn tîm. Mae profiad o weithio yn y GIG yn ddymunol iawn.

Mae Bwrdd Iechyd y Brifysgol yn mynd ati mewn modd rhagweithiol i gefnogi hyfforddiant a datblygiad, a hynny’n rhan o DPP mewnol ac allanol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol gwych i rwydweithio â chyd-weithwyr yn y maes acíwt ac yn y gymuned i gydlynu gwasanaeth ymatebol, di-dor ar draws llwybrau a sectorau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar allu trefniadaethol ac wedi ymrwymo i ddatblygu gwasanaeth. Bydd yn datblygu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwerthuso trwy archwilio, effeithiolrwydd clinigol a gweithgarwch ymchwil. Fel y bo’n briodol, bydd yna ddisgwyliad i chi ddirprwyo ar gyfer yr uwch-reolwyr.

Fel myfyriwr ôl-raddedig amryddawn, bydd angen iddo feddu ar sylfaen glinigol gref mewn adsefydlu pobl hŷn, arbenigedd mewn syndrom cwympiadau ac eiddilwch, cyflyrau niwrolegol, cyflyrau Cardio-Anadlol a phroblemau cyhyrysgerbydol. Bydd ganddo ddealltwriaeth dda o faterion cyfredol sy’n effeithio ar wasanaethau cymunedol.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n annibynnol fel ymarferydd medrus iawn, gan reoli llwyth achosion clinigol o gleifion ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol amrywiol a chymhleth. Bydd yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau o’r tîm amlddisgyblaethol mewn rôl reoli a chlinigol. Bydd yn darparu arweinyddiaeth, arbenigedd a goruchwyliaeth glinigol i ffisiotherapyddion iau, gweithwyr cymorth ffisiotherapi, myfyrwyr a chynorthwywyr adsefydlu generig. O fod yn arbenigwr clinigol, bydd yna elfen addysgol gref i’r rôl.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

·         Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd

·         Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro

·         Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall

·         47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref

·         Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Yn y gwasanaeth ffisiotherapi rydym yn cydnabod mai ein staff yw ein hased cryfaf, a bod buddsoddi yn yr unigolyn yr un mor bwysig â buddsoddi yn ei ddatblygiad proffesiynol. Rydym yn mynd ati i hyrwyddo astudiaethau ôl-raddedig lle bo yna gyfleoedd i rannu cyllid. Mae'r pandemig wedi dangos i ni fwy nag erioed bwysigrwydd y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ac anogwn drefniadau gweithio o bell pan fo hynny'n briodol, ynghyd â threfniadau gweithio hyblyg.

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth hyblyg saith niwrnod, a chyfranogi, yn ôl y gofyn a chyda hyfforddiant digonol, yn y rota ar alwad anadlol. 

Mae'r gallu i deithio yn ofynnol, ac er bod y swydd wedi'i lleoli yn Sir Benfro, gallai fod yn angenrheidiol teithio ar adegau.  

Mae croeso i chi gysylltu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Cynhelir y cyfweliadu ar 17/18.12.2026

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd mewn Ffisiotherapi
  • Cofrestriad cyfredol gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
  • Cymhwyster ôl-raddedig perthnasol neu dystiolaeth o astudio ar lefel ôl-raddedig
  • Gwybodaeth arbenigol amlwg sy’n berthnasol i’r maes clinigol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus ôl-gofrestru perthnasol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster addysgwr ymarfer neu addysg glinigol
  • Aelod o’r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (CSP)
  • Chwarae rhan weithredol mewn grwpiau proffesiynol arbenigol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ôl-gofrestru mewn arbenigedd clinigol perthnasol
  • Profiad o reoli llwyth achosion amrywiol/cymhleth gan ddefnyddio sgiliau rhesymu clinigol uwch
  • Profiad o weithio mewn tîm amlddisgyblaethol
  • Profiad o asesu risg a gwneud penderfyniadau clinigol
  • Profiad o oruchwylio, cefnogi a datblygu staff, myfyrwyr neu weithwyr cymorth
  • Profiad o gyfrannu at weithgareddau gwella gwasanaethau, llywodraethu clinigol neu archwilio
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddatblygu neu ailgynllunio gwasanaethau
  • Profiad o addysgu myfyrwyr a’u goruchwylio ar leoliad
  • Profiad o weithio yn y GIG

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Ymagwedd hyblyg at ddiwallu anghenion y gwasanaeth
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd a ledled y gymuned mewn modd amserol
  • Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Fiona Davies
Teitl y swydd
Team Lead Physiotherapist - Community
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01437 773467
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Anogwn ymgeiswyr yn gryf i gysylltu â'r rheolwr llinell i drafod y rolau hyn ymhellach.

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg