Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Seicoleg Glinigol Oedolion Hŷn
Gradd
Gradd 4
Contract
12 mis (Cyfnod penodol)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener 09:00 - 17:00)
Cyfeirnod y swydd
050-ACS-881-1126
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Glan Traeth
Tref
Y Rhyl
Cyflog
£28,819 - £31,626 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/12/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Seicolegydd Cynorthwyol

Gradd 4

Trosolwg o'r swydd

Mae’r swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 12 mis oherwydd Cwrdd gofynion y gwasanaeth

Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.  

Dyma gyfle gwych ar gyfer Seicolegydd Cynorthwyol o fewn Conwy/Sir Ddinbych Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Pobl Hŷn a'r Gwasanaeth Asesu Cof

Mae'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Pobl Hŷn yn darparu asesiadau ac ymyriadau i'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau gofal eilaidd iechyd meddwl. Mae’r Gwasanaeth Asesu Cof yn darparu asesiadau a thriniaethau ar gyfer cyflyrau niwroddirywiol cynnar, gan wahaniaethu rhwng y rhain ac achosion gwrthdroadwy dirywiad gwybyddol. Mae'r ddau dîm yn cael budd o fod yn aelodau o'r Tîm Amlddisgyblaethol ehangach.

Dylai fod gan ymgeiswyr sgiliau rhyngbersonol, brwdfrydedd i ddatblygu, ac ymrwymiad i weithio o fewn terfynau arweiniad, polisi, y gyfraith a chyfeiriad o fewn Goruchwyliaeth Glinigol.

Mae gan y Gwasanaeth Seicoleg Glinigol Oedolion Hŷn, sy'n cynnwys Seicolegwyr Cynorthwyol a Chlinigol, hanes cadarn o ymrwymiad i les y rhai sy'n defnyddio gwasanaethau yn BIPBC. Mae ganddo hefyd gysylltiadau agos â Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru, ac yn cefnogi'r genhedlaeth nesaf o Seicolegwyr Clinigol trwy ddarparu lleoliadau, goruchwyliaeth glinigol, goruchwyliaeth ymchwil, datblygiad cwricwlwm, ac addysgu.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deilydd y swydd, o dan oruchwyliaeth agos Seicolegydd cymwys, yn cefnogi darparu ymyrraeth seicolegol o ddwysedd isel i gymedrol ar gyfer cleientiaid a gofalwyr sy'n defnyddio’r gwasanaethau. Byddant hefyd, trwy asesiadau niwroseicolegol, yn cefnogi ymchwilio i symptomau gwybyddol o fewn Gwasanaethau Cof, i gefnogi canfod yn gynnar a thrin dirywiad gwybyddol niwroddirywiol a gwrthdroadwy. Mae unrhyw brofiad o weithio gydag Oedolion Hŷn, unigolion â dementia, gwasanaethau iechyd meddwl, asesiadau niwroseicolegol, a/neu ymyrraeth seicolegol yn ddymunol. Bydd cyfleoedd hefyd i ddysgu'r sgiliau hyn o fewn y swydd.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Communication/Teaching/Relationship skills

Meini prawf hanfodol
  • Lefel uchel o sgiliau cyfathrebu, ysgrifenedig ac ar lafar, gan gynnwys y gallu i gyfathrebu a gweithio mewn lleoliadau lle y gall fod awyrgylch emosiynol iawn.
  • Y gallu i gyfleu a derbyn gwybodaeth sensitif a all beri gofid i gleifion, gofalwyr a chydweithwyr.
  • Y gallu i weithio mewn lleoliadau amlddisgyblaethol dan oruchwyliaeth
Meini prawf dymunol
  • Profiad o addysgu gweithwyr iechyd proffesiynol eraill

Qualifications and/or Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Gradd Anrhydedd 2.1 mewn Seicoleg neu gywerth i’r rhai a hyfforddwyd dramor
  • Hawl i aelodaeth graddedigion o Gymdeithas Seicolegol Prydain
  • Peth gwybodaeth a dealltwriaeth o’r grŵp cleientiaid y bydd deilydd y swydd yn gweithio â nhw.
  • Gwybodaeth lefel israddedig o ddylunio a methodoleg ymchwil
Meini prawf dymunol
  • Presenoldeb mewn cyrsiau neu hyfforddiant datblygu sgiliau

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio gyda phobl sydd ag anghenion iechyd meddwl neu anghenion cymhleth eraill, a gwneud gwaith therapiwtig neu asesiadau niwroseicolegol.
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth am ystod o gyflyrau niwroddirywiol.
  • Profiad sylweddol o weithio'n therapiwtig gydag ystod o bobl hŷn, yn enwedig mewn mwy nag un lleoliad clinigol neu ofal cymdeithasol.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dr Joanne Kellly-Rhind
Teitl y swydd
Head of Older Adult Clinical Psychology
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07557312264
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg