Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Iechyd Meddwl
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-ACS228-1026-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Caebryn, Ysbyty Tywysog Philip
Tref
Llanelli
Cyflog
£26,813 - £27,890 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
19/11/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
04/12/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gweithiwr Cymorth Nyrsio (Iechyd Meddwl)

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae’r Gweithiwr Cymorth Nyrsio yn aelod gwerthfawr o’r Tîm Amlddisgyblaethol o fewn yr Uned Asesu Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn. Bydd yn gweithio o dan gyfarwyddyd Nyrsys Cofrestredig i ddarparu gofal tosturiol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i oedolion hŷn sy’n destun cyflyrau iechyd meddwl megis dementia, iselder, gorbryder, seicosis a nam gwybyddol.

Mae deiliad y swydd yn cefnogi cleifion gyda gweithgareddau bywyd bob dydd, yn darparu gofal uniongyrchol, yn ymgymryd ag arsylwadau iechyd corfforol, ac yn cynorthwyo i fonitro llesiant meddyliol a chorfforol. Gan weithio yn unol â chynlluniau gofal, asesiadau risg, a pholisïau perthnasol, mae’n cefnogi cleifion trwy gydol y broses asesu, trin ac adfer.

Un agwedd allweddol ar y rôl yw meithrin perthnasoedd therapiwtig, darparu cymorth emosiynol, hyrwyddo urddas ac annibyniaeth, ac annog cyfranogiad mewn gweithgareddau ystyrlon. Mae Gweithwyr Cymorth Nyrsio yn cyfrannu at asesu a chynllunio gofal trwy arsylwi ac adrodd am newidiadau yng nghyflwyniad, ymddygiad, gwybyddiaeth, hwyliau ac iechyd corfforol cleifion.

Gan weithio’n agos gyda nyrsys, meddygon, therapyddion galwedigaethol, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, teuluoedd a gofalwyr, maent yn helpu i gynnal amgylchedd diogel, cefnogol a therapiwtig sy’n hyrwyddo adferiad, llesiant, a chanlyniadau cadarnhaol i oedolion hŷn. 

Mae hon yn swydd lawn-amser.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n bennaf yn yr Uned Asesu Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn ac efallai bydd yn ofynnol iddo weithio ar draws gwasanaethau cleifion mewnol Iechyd Meddwl Oedolion i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.

Mae’r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys darparu gofal o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, i oedolion hŷn sydd â chyflyrau iechyd meddwl, dementia, nam gwybyddol, ac anghenion iechyd corfforol cymhleth. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi cleifion gyda gweithgareddau bywyd bob dydd, ymgysylltu therapiwtig, ymyriadau sy’n canolbwyntio ar adferiad, a gweithgareddau ystyrlon sy’n hyrwyddo annibyniaeth a llesiant.

Bydd yn monitro ac yn adrodd am newidiadau yn llesiant meddyliol a chorfforol cleifion, gan gyfrannu at asesiadau amlddisgyblaethol, cynllunio gofal, triniaeth a phrosesau rhyddhau. Mae’r rôl yn cynnwys cefnogi cleifion sy’n destun trallod, gorbryder, dryswch, neu ymddygiad heriol, gan ddefnyddio dulliau tosturiol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a gweithio yn unol ag asesiadau risg, polisïau arsylwi, gweithdrefnau diogelu, a chynlluniau gofal unigol.

Bydd deiliad y swydd yn helpu i gynnal amgylchedd ward therapiwtig diogel, hyrwyddo urddas, cydraddoldeb, cynhwysiant a hawliau cleifion, a meithrin perthnasoedByddd effeithiol â chleifion, teuluoedd, gofalwyr, ac aelodau o’r tîm amlddisgyblaethol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

 

Cyfweliadau i'w cynnal ar 04/12/2026

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc sy'n gysylltiedig â gofal iechyd NEU brofiad cyfatebol, ac yn gallu dangos tystiolaeth o gymhwysedd seiliedig ar waith ac amlygu gwybodaeth ddamcaniaethol, ynghyd â'r gallu i ymgymryd â dyletswyddau gofal clinigol sy'n berthnasol i'r rôl a ddatblygwyd trwy brofiad a hyfforddiant seiliedig ar waith/cyrsiau byr
  • Gwybodaeth am y Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru a Chanllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Dirprwyo (AaGIC)
  • Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau perthnasol mewn lleoliadau gofal iechyd, er enghraifft egwyddorion diogelu oedolion/plant i gadw cleifion yn ddiogel yn eu gofal, a chyfrinachedd, er enghraifft y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
  • Y gallu i gwblhau hyfforddiant ymyriad corfforol ardystiedig/achrededig, er enghraifft Atal a Rheoli Trais ac Ymddygiad Ymosodol (PMVA) yn ystod y cyfnod sefydlu
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant ymyriad corfforol ardystiedig/achrededig, er enghraifft Atal a Rheoli Trais ac Ymosodedd (PMVA)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol, gan ddarparu gofal uniongyrchol i gleifion
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio gyda grwpiau o gleifion sy'n berthnasol i'r maes ymarfer
  • Profiad o weithio yn y GIG

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lauren Hughes
Teitl y swydd
Ward Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01554 779368
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg