Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Iechyd Meddwl
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Mae oriau llawn a rhan amser amrywiol ar gael)
Cyfeirnod y swydd
100-NMR312-1026-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Cwm Seren
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£32,557 - £39,631 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/11/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
04/12/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Gwasanaethau Diogel ac Iechyd Meddwl Cleifion Mewnol Fforensig

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

 

Mae yna cyfle cyffrous i nyrs staff iechyd meddwl gofrestredig ymuno â'n tîm yn yr Uned Diogelwch Isel.

Mae Uned Diogelwch Isel Cwm Seren yn Uned Diogelwch Isel bwrpasol ac iddi 14 o welyau. Mae'n asesu a thrin unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl parhaus a chymhleth, ac yn gwasanaethu dalgylch Hywel Dda.

Darperir gofal a thriniaeth trwy gynllun gofal a thriniaeth sydd â phwyslais ar adfer, darparu gobaith ac optimistiaeth ar gyfer y dyfodol, ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth, a therapïau seicolegol.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu amrywiaeth o ymyriadau gofal a thriniaeth ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da, yn amlygu parodrwydd i ddatblygu yn rôl y nyrs staff,  ac yn barod i weithio'n hyblyg yn y tîm.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus fynediad at oruchwyliaeth glinigol a rheolaethol reolaidd.

Bydd y rôl yn cwmpasu taith y claf trwy'r gwasanaethau diogel a'r gwaith pontio i'r gymuned.

Bydd y rôl yn cefnogi’r unigolyn ar ei daith o gael ei dderbyn yn glaf mewnol ac yna'n ôl yn y gymuned, gyda chynlluniau pontio cynhwysfawr a fydd yn gofyn am allgymorth o’r ward.

Mae'r tîm yn cynnwys gweithwyr cymorth gofal iechyd, nyrsys, therapyddion  galwedigaethol, mentor cymheiriaid, seicolegwyr, fferyllwyr, meddygon a seiciatrydd ymgynghorol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 04/12/2026.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd  
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig (RNM/RNMH)
  • Gwybodaeth gadarn am faterion clinigol yn eich maes ymarfer
Meini prawf dymunol
  • Goruchwyliwr Ymarfer a/neu Asesydd ar gyfer myfyrwyr nyrsio
  • Hyfforddiant ychwanegol mewn asesu risg a rheoli risg

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio gyda phobl sydd ag anghenion iechyd meddwl hirdymor ac sy'n amlygu ymddygiad heriol/risg uchel o drais yn erbyn pobl eraill
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus, ac yn barod i ymgymryd â chyrsiau/diwrnodau astudio lleol a nodir, ynghyd â hyfforddiant gorfodol
Meini prawf dymunol
  • Yn meddu ar wybodaeth am yr ardal leol a'r cyfleusterau y gall cleientiaid eu cyrchu, ynghyd â dealltwriaeth o'r cyfleusterau hynny
  • Profiad o weithio mewn lleoliad iechyd meddwl cleifion mewnol
  • Profiad o leoliadau iechyd meddwl diogel

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Caryl Griffiths
Teitl y swydd
Ward Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 239594
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg